Buddion EIS a SEIS: Sesiwn Holi ac Ateb gyda'r buddsoddwr angel Patrick Nash

Portrait of Sophie Vellam
Swyddog Ymgyrchoedd
Newidwyd:
Angylion busnes
Ecwiti
eis and seis

Fel y gwnaethom drafod yn ein post blog rhagarweiniol, mae buddsoddwyr angylion fel arfer yn buddsoddi mewn cwmnïau cam cynnar. Trwy wneud hynny maent yn ysgwyddo lefel uchel o risg.

Fodd bynnag, mae yna ffyrdd o leihau'r risg - trwy bortffolio buddsoddi amrywiol a syndiceiddio, er enghraifft. Ffordd arwyddocaol arall yw trwy fanteisio ar y Cynllun Buddsoddi Menter (EIS) neu'r Cynllun Buddsoddi Menter Sbarduno (SEIS). Gan ei bod yn 25 mlwyddiant EIS, roeddem am dynnu sylw at bwysigrwydd y fenter hon a'i chynllun deilliadol SEIS. Dyma ddau gynllun rhyddhad treth deniadol iawn a sefydlwyd gan lywodraeth y DU i liniaru'r risg a chymell buddsoddiad cychwynnol i angylion sy'n talu treth yn y DU. (I gael trosolwg o'r gostyngiadau treth sydd ar gael trwy'r cynlluniau hyn, a phwy sy'n gymwys, ewch i weld gwefan UKBAA.) Buom yn siarad â'r angel busnes Patrick Nash i gael mewnolwg ganddo i ba raddau yn union y gall EIS a SEIS elwa buddsoddwyr mewn gwirionedd.

Mae Patrick wedi sefydlu ac arwain deuddeg elusen, mentrau cymdeithasol a busnesau sy'n cael eu gyrru gan werthoedd. Mae ei gwmni olaf, Connect Assist, yn darparu llinellau cymorth a gwasanaethau digidol pwrpasol i sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector, gan gynnwys y Lleng Brydeinig Frenhinol a Barnardo’s.

 

C.) Pryd wnaethoch chi ddechrau buddsoddi fel angel?

A.) Dechreuais fuddsoddi fel angel ddwy flynedd yn ôl, gyda diddordeb arbennig mewn technoleg iechyd. Cyflwynodd Angylion Buddsoddi Cymru fi i ddau gyfle buddsoddi yn y gofod hwn - roedd y ddau yn fusnesau ac yn gymwys am SEIS.

 

C.) Beth yw'r gwahaniaeth rhwng EIS a SEIS?

A.) Mae EIS wedi'i gynllunio ar gyfer buddsoddi mewn busnesau cam cynnar. Mae SEIS wedi'i gynllunio ar gyfer buddsoddi mewn busnesau sbarduno yn gynnar iawn neu yng nghyfnod dechreuol busnes, ac mae'n cynnig mwy fyth o ryddhad treth incwm (50%, tra bod EIS yn 30%).  

 

C.) Sut mae'r rhyddhad treth o fudd i fuddsoddwyr angel?

A.) Mae buddsoddi mewn busnesau newydd yn fenter beryglus. Mae'r gostyngiadau treth yn sylweddol ac yn ei gwneud yn llawer mwy deniadol i fuddsoddwyr.

Gyda rhyddhad treth incwm SEIS rydych chi'n cael hanner eich buddsoddiad yn ôl. Hefyd, does dim rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar unrhyw enillion a wneir pan fyddwch chi'n gwerthu'ch cyfranddaliadau ar ôl tair blynedd. Ac agwedd bwysig arall, na fydd yn rhaid i mi ei defnyddio gobeithio, yw rhyddhad colled. Os bydd y busnes rydych chi'n buddsoddi ynddo yn methu a'ch bod chi'n gwerthu'ch cyfranddaliadau ar golled ar unrhyw adeg, gallwch ddewis gwrthbwyso'r golled yn erbyn eich treth incwm yn hytrach na threth enillion cyfalaf. Gall hyn gyfyngu ar gyfanswm y golled.

Felly, p'un a yw'ch buddsoddiad yn cynyddu mewn gwerth, yn aros yr un peth, neu'n gostwng mewn gwerth, mae'r cynllun yn helpu i warchod eich buddsoddiad cychwynnol, cynyddu eich enillion neu leihau eich colledion.

Isod mae dau dabl sy'n dangos sut y gall EIS a SEIS fod o fudd i fuddsoddwr mewn tri senario gwahanol. Sylwch fod y rhain ar gyfer dibenion darluniadol yn unig; mae buddion treth yn dibynnu ar amgylchiadau unigol a gallant newid.

 

EIS

 

Senario 1: Mae buddsoddiad yn cwympo o ran gwerth i ddim

Senario 2: Mae buddsoddiad yn aros yr un gwerth

Senario 3: Mae gwerth buddsoddiad yn treblu

Buddsoddiad cychwynnol

£10,000

£10,000

£10,000

Gwerth buddsoddiad ar ôl tair blynedd

£0

£10,000

£30,000

Rhyddhad treth incwm

£3,000 (30%)

£3,000 (30%)

£3,000 (£30%)

Treth Enillion Cyfalaf

£0

£0

£0

Rhyddhad colled (gan dybio mai cyfradd y dreth incwm yw 45%)

£3,150 (45% of £7,000)

n/a

n/a

Cyfanswm yr enillion

£6,150

£13,000

£33,000

Cyfanswm enillion / colledion

-£3,850

+£3,000

+£23,000

 

 

SEIS

 

Senario 1: Mae buddsoddiad yn cwympo o ran gwerth i ddim

Senario 2: Mae buddsoddiad yn aros yr un gwerth

Senario 3: Mae gwerth buddsoddiad yn treblu

Buddsoddiad cychwynnol

£10,000

£10,000

£10,000

Gwerth buddsoddiad ar ôl tair blynedd

£0

£10,000

£30,000

Rhyddhad treth incwm

£5,000 (50%)

£5,000 (50%)

£5,000 (£50%)

Treth Enillion Cyfalaf

£0

£0

£0

Rhyddhad colled (gan dybio mai cyfradd y dreth incwm yw 45%)

£2,250 (45% of £5,000)

n/a

n/a

Cyfanswm yr enillion

£7,250

£15,000

£35,000

Cyfanswm enillion / colledion

-£2,750

+£5,000

+£25,000

 

 

C.) Ai’r rhyddhad treth yw’r prif reswm rydych yn buddsoddi mewn busnesau cam cynnar?

A.) Rwy'n hoffi busnesau cam cynnar ac nid y gostyngiadau treth yw'r prif reswm dros fuddsoddi ynddynt, ond maent yn hanfodol oherwydd natur risg uchel y math hwn o fuddsoddiad. Dwi ddim yn gwybod a fuaswn wedi gwneud y buddsoddiadau hynny heb SEIS, ac wrth symud ymlaen ni fyddwn yn buddsoddi pe na bai busnes wedi'i gofrestru ar gyfer y cynllun.

 

C.) A fyddech chi'n argymell y cynllun i fuddsoddwyr eraill?

A.) Byddwn, fe fuaswn yn ei argymell yn llwyr. Mae unrhyw fuddsoddwr eisiau lleihau risg; mae hyn yn hanfodol mewn unrhyw strategaeth fuddsoddi. Mae'r cynlluniau EIS a SEIS yn un o'r ffyrdd gorau o wneud hyn. Rydych hefyd yn fwy parod i fuddsoddi mwy ar gefn y gostyngiadau treth hyn.  

 

Angylion Buddsoddi Cymru

A oes gennych chi ddiddordeb mewn buddsoddi eich cyfoeth mewn ffordd dreth-effeithlon wrth gefnogi rhai o fusnesau mwyaf cyffrous Cymru? Os felly, cysylltwch â ni yn Angylion Buddsoddi Cymru.

Rydym yn cysylltu buddsoddwyr profiadol â busnesau o Gymru sy'n chwilio am fuddsoddiad preifat trwy gyfrwng ein platfform digidol. Mae gan fuddsoddwyr fynediad hawdd at ystod o gyfleoedd buddsoddi a ddewiswyd yn ofalus ac o dan amodau 'rheoli ansawdd.'

Gall syndicetiau o fuddsoddwyr (a reolir gan fuddsoddwr arweiniol a gymeradwywyd ymlaen llaw) wneud cais am gyd-fuddsoddiad o'n Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru £8 miliwn. Fel cyd-fuddsoddwr gallwn gyfrannu hyd at 50% o gyfanswm y fargen.

Be' nesaf?

Ymunwch â'r rhwydwaith Angylion mwyaf yng Nghymru, sy'n cysylltu buddsoddwyr profiadol â busnesau sy'n chwilio am fuddsoddiad preifat.
 

Cysylltu â ni