Polisi Preifatrwydd Grŵp BDC

Pryd bynnag y byddwch yn darparu gwybodaeth bersonol i Fanc Datblygu Cymru, neu pan fyddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch, byddwn ond yn ei defnyddio yn unol â’r hysbysiad preifatrwydd hwn. Darllenwch hwn yn ofalus.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i Fanc Datblygu Cymru ccc a’i is-gwmnïau (a elwir gyda’i gilydd yn Grŵp BDC). Pryd bynnag y defnyddir y termau ‘BDC’ ni’, ‘ninau’ neu ‘ein’ yn yr hysbysiad hwn, mae’n golygu Banc Datblygu Cymru ccc neu unrhyw gwmni arall yng Ngrŵp BDC sy’n cadw eich gwybodaeth bersonol.

Sylwch, mae gan rai o is-gwmnïau Grŵp BDC eu polisïau preifatrwydd atodol eu hunain - am restr lawn o'n dogfennaeth preifatrwydd cliciwch yma.

I gael rhagor o wybodaeth am ein strwythur corfforaethol, cliciwch yma.

Ein hegwyddorion preifatrwydd

Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif ac rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn golygu:

  • Byddwn ond yn gofyn i chi roi eich gwybodaeth bersonol i ni a fydd yn ein helpu ni i'ch helpu chi.

  • Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel ac yn gyfrifol. Rydym yn defnyddio mesurau diogelu, gan gynnwys amgryptio, i atal mynediad heb awdurdod at eich gwybodaeth bersonol.

  • Byddwn ond yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â chwmnïau eraill yn y Grŵp BDC, gyda chyflenwyr sy'n perfformio gwasanaethau ar ein rhan, ac fel y nodir fel arall yn yr hysbysiad hwn.

  • Ni fyddwn byth yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol.

Pwy ydym ni

Mae’r adran hon yn rhoi enw cyfreithiol y cwmni sy’n cadw eich gwybodaeth bersonol i chi – a elwir yn ‘endid cyfreithiol’ – ac yn dweud wrthych sut y gallwch gysylltu â ni.

Banc Datblygu Cymru ccc (Development Bank of Wales Plc) yw cwmni daliannol Grŵp sy'n masnachu fel 'Banc Datblygu Cymru'. Mae'r Grŵp yn cynnwys nifer o is-gwmnïau sydd wedi'u cofrestru ag enwau gan gynnwys y blaenlythrennau BDC.

Mae Grŵp Banc Datblygu Cymru ccc yn gwmni cyllid datblygu sy’n eiddo’n gyfan gwbl i Weinidogion Cymru, ac nid yw wedi’i awdurdodi na’i reoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (ARhD) na’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (AYA).

Mae gan Grŵp Banc Datblygu Cymru ccc dri is-gwmni sy'n cael eu hawdurdodi a'u rheoleiddio gan yr AYA. Sylwch nad yw Banc Datblygu Cymru ccc nac unrhyw un o'i is-gwmnïau yn sefydliadau bancio nac yn gweithredu felly. Mae hyn yn golygu na all unrhyw un o endidau'r grŵp dderbyn blaendaliadau gan y cyhoedd.

I grynhoi, mae Banc Datblygu Cymru yn cynnwys cymysgedd o gwmnïau, a sefydlwyd drwy endidau cyfreithiol gwahanol. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pa un o'r rhain y mae gennych berthynas ag ef pan fyddwch yn cymryd cynnyrch neu wasanaeth gyda ni.

Pam rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Mae’n bosibl y byddwn yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch am y rhesymau canlynol:

  1. cynhyrchion buddsoddi, a'i reolaeth barhaus;

  2. Oherwydd yr hoffech i ni gysylltu â chi mewn ymateb i ymholiad penodol; 

  3. Fel y gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynhyrchion a'n gwasanaethau buddsoddi; 

  4. Mewn cysylltiad â'r gwasanaethau rydych chi'n eu darparu i ni.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth mewn cysylltiad â phob un o'r dibenion hyn trwy glicio ar y dolenni uchod. Mae'r wefan hon hefyd yn defnyddio cwcis, a cheir rhagor o fanylion amdanynt yn ein polisi cwcis.

Eich hawliau diogelu data

Bydd y wybodaeth bersonol a roddwch i ni yn cael ei chadw yn unol â’n cyfrifoldebau dan ddeddfwriaeth diogelu data. Mae hyn yn cynnwys Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU. Mae’r cyfreithiau hyn yn cynnwys hawliau penodol i chi, gan gynnwys:

  • yr hawl i ofyn am fynediad at wybodaeth bersonol a gedwir amdanoch (a elwir yn hawl mynediad);

  • yr hawl i gael gwybodaeth bersonol anghywir amdanoch chi wedi'i chywiro ac, o dan rai amgylchiadau, yr hawl i'r wybodaeth honno gael ei dileu; 

  • yr hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau (er enghraifft os ydych yn meddwl bod y wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir, neu os yw’n cael ei defnyddio at ddibenion marchnata uniongyrchol);

  • yr hawl i wrthwynebu i’ch gwybodaeth bersonol gael ei defnyddio ar gyfer unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio; a

  • yr hawl i gwyno i’r rheolydd, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, os ydych yn anhapus ynghylch sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio. Gellir cysylltu â’r ICO yn ico.org.uk/make-a-complaint/

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau a nodir uchod, gan gynnwys gofyn am fanylion y wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch, anfonwch e-bost atom yn sdd@bancdatblygu.cymru neu ysgrifennwch atom yn:

SWYDDOG DIOGELU DATA

Banc Datblygu Cymru

1 Capital Quarter

Stryd Tyndall

Caerdydd

CF10 4BZ

1. Defnyddio eich gwybodaeth bersonol mewn cysylltiad â'n buddsoddiadau

Pam fod angen i Fanc Datblygu Cymru ddefnyddio fy ngwybodaeth bersonol?

Os byddwch yn gwneud cais i ni am un o'n buddsoddiadau, bydd angen i chi roi gwybodaeth i ni amdanoch chi. Mae hyn er mwyn i ni allu penderfynu a ydych yn gymwys ar gyfer y buddsoddiad ac a yw'n addas i chi. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn parhau i ddefnyddio'ch gwybodaeth fel rhan o'n rheolaeth barhaus o'n buddsoddiadau.

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch a ddarperir gan eraill i lywio ein penderfyniadau buddsoddi. Er enghraifft, os ydych chi'n gysylltiedig yn ariannol ag ymgeisydd neu'n gyfarwyddwr neu'n berchennog cwmni sy'n ymgeisio, yna bydd angen i ni gasglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi.

Pa wybodaeth sydd angen i mi ei darparu i Fanc Datblygu Cymru?

Bydd yr union wybodaeth sydd ei hangen arnom yn wahanol ym mhob achos a bydd yn cael ei nodi ar y ffurflen gais ei hun. Bydd yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol amdanoch chi, fel eich enw, cyfeiriad, cyfeiriadau blaenorol, a dyddiad geni. Os ydych yn gwneud cais fel unigolyn, masnachwr unigol, neu bartneriaeth, byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am eich sefyllfa ariannol. Mae'n bosibl y byddwn hefyd yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am 'bersonau cysylltiedig', sef pobl sy'n gysylltiedig yn ariannol â chi.

Lle gwneir cais ar ran cwmni neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, byddwn yn gofyn am wybodaeth am gyfarwyddwyr a pherchnogion (neu bartneriaid) buddiol y cwmni (neu PAC), gan gynnwys gwybodaeth am eu sefyllfa ariannol. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i gynnal gwiriadau credyd a gwiriadau perthnasol eraill.

Os byddwn yn penderfynu gwneud cynnig i chi ar ffurf buddsoddiad, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen monitro amrywiaeth. Bydd unrhyw wybodaeth a roddwch i ni ar y ffurflen hon ond yn cael ei defnyddio i'n helpu i fonitro a ydym yn cyflawni cyfle cyfartal gwirioneddol wrth ddarparu ein gwasanaethau. Ni fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi.

Beth mae Banc Datblygu Cymru yn ei wneud gyda fy ngwybodaeth?

Pan fyddwch yn darparu eich gwybodaeth i ni neu pan gaiff ei darparu gan eraill fel rhan o gais, byddwn yn ei defnyddio i asesu’r cais ac i wneud penderfyniad ynghylch a ddylid darparu’r buddsoddiad perthnasol ai peidio. Yna byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i reoli ein buddsoddiad. Gall ein defnydd o’ch gwybodaeth gynnwys:

  • Cynnal chwiliadau amdanoch mewn asiantaethau gwirio credyd. Bydd yr asiantaethau hyn yn rhoi gwybodaeth credyd i ni yn ogystal â gwybodaeth o'r gofrestr etholiadol a byddant yn cofnodi manylion unrhyw chwiliadau p'un a fydd eich cais yn mynd yn ei flaen ai peidio. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut mae asiantaethau cyfeirio credyd ac asiantaethau atal twyll yn defnyddio'ch gwybodaeth trwy ddarllen Hysbysiad Gwybodaeth yr Asiantaeth Cyfeirio Credyd (“CRAIN”). Mae’r ddogfen hon yn disgrifio sut mae’r tair prif asiantaeth gwirio credyd yn defnyddio ac yn rhannu data personol. Gellir cyrchu'r CRAIN yma.

  • Chwiliadau credyd, olrhain dyledion a rheoli unrhyw gyllid y gallwn ei ddarparu i chi yn barhaus.

  • Sgorio credyd, i benderfynu a ydych yn addas ar gyfer y cynnyrch neu'r gwasanaeth perthnasol.

  • Cynnal gwiriadau hunaniaeth a gwirio cywirdeb y wybodaeth a roddwch i ni.

  • Canfod ac atal twyll. Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag asiantaethau atal twyll fel yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, at y diben hwn.

  • Cyflawni unrhyw un o’r camau uchod mewn perthynas â’ch busnes neu unrhyw ymgeiswyr eraill a enwir ar eich ffurflen gais.

  • Cynnal arolygon ar gwsmeriaid a’u busnesau, er mwyn gwerthuso effeithiau ein buddsoddiadau a nodi tueddiadau yn y cyllid a ddarparwn i fusnesau ar gyfer y gweithgareddau a restrir uchod.

Fel rhan o’r gweithgareddau a restrir uchod, byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â thrydydd partïon megis asiantaethau gwirio credyd, asiantaethau atal twyll a chwmnïau sy’n cynnal arolygon.

Yn ogystal, byddwn yn rhannu gwybodaeth am ein buddsoddiadau yng Nghymru â Llywodraeth Cymru, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Busnes Cymru, a Thîm Archwilio’r Cronfeydd Ewropeaidd. Ar gyfer Buddsoddiadau a wneir gan FW Capital, byddwn yn rhannu gwybodaeth â Banc Busnes Prydain.

Ar gyfer ceisiadau i’n Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd, byddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol gyfyngedig sy’n ymwneud â’ch cais gyda sefydliadau trydydd parti sydd wedi’u contractio gan BDC i ddarparu asesiadau prosiect ynni technegol.

eich data personol ei brosesu y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (“AEE”). Byddwn yn cymryd rhagofalon (yn unol â chanllawiau perthnasol gan gyrff rheoleiddio) i sicrhau y bydd unrhyw drosglwyddiad o’ch data y tu allan i’r AEE yn destun mesurau diogelu sy’n diogelu eich hawliau preifatrwydd, a bydd eich data’n cael ei gadw’n ddiogel bob amser.

Cyfeiriwch at y ffurflenni cais penodol i gael union fanylion sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol mewn perthynas â phob un o'n cynhyrchion buddsoddi.

Beth yw'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio fy ngwybodaeth?

O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni gael sail gyfreithiol ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Pan fyddwch yn gwneud cais am un o’n buddsoddiadau, gall y seiliau cyfreithiol canlynol fod yn berthnasol:

  • Mae eich cais yn gais i ni ymrwymo i gontract gyda chi. Caniateir i ni ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol lle mae’n angenrheidiol i ni wneud hynny er mwyn ymrwymo i gontract gyda chi ac ar gyfer cyflawni’r contract hwnnw.

  • Rydym yn ddarostyngedig i rwymedigaethau cyfreithiol amrywiol pryd bynnag y byddwn yn ystyried ceisiadau am fuddsoddiad, gan gynnwys deddfwriaeth gwrth-wyngalchu arian a gofynion yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Caniateir i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol lle bo angen er mwyn i ni gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol.

  • Credwn fod cynnal gwiriadau priodol ar ddarpar gwsmeriaid, ac yna monitro perfformiad ein buddsoddiadau yn ystod tymor ein perthynas, er ein budd cyfreithlon fel benthyciwr cyfrifol. Caniateir i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol lle bo hynny’n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon, ar yr amod nad yw ein buddiannau yn cael eu diystyru gan eich buddiannau chi.

Os bydd unrhyw wybodaeth ychwanegol a roddwch i ni yn cynnwys gwybodaeth bersonol categori arbennig, caniateir i ni brosesu hyn pan:

  • rydych wedi rhoi eich caniatâd penodol i ni wneud hynny,

  • am resymau sydd a wnelo budd cyhoeddus sylweddol,

  • sefydlu, ymarfer, neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

Am ba mor hir mae Banc Datblygu Cymru yn cadw fy ngwybodaeth?

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am o leiaf hyd eich contract gyda ni, ac wedi hynny am gyfnod o saith mlynedd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gennym gofnod llawn o'r contract rhyngom, os bydd unrhyw anghydfod ynghylch y contract.

Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn fel arfer yn dileu eich gwybodaeth ar ôl 12 mis.

Mae’n bosibl y byddwn yn cadw’ch gwybodaeth am gyfnod hwy pan fo’n angenrheidiol i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol, i arfer hawliau cyfreithiol neu i amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn darparu fy ngwybodaeth i Fanc Datblygu Cymru?

Er mwyn i ni ystyried eich cais, rhaid i chi ddarparu gwybodaeth amdanoch i ni. Os na fyddwch yn darparu’r holl fanylion y gofynnwn amdanynt ar y ffurflen gais, ni fyddwn yn gallu asesu’ch cais a gallai olygu na fyddwch yn gallu cyrchu ein buddsoddiadau.

 2. Defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ymateb i'ch ymholiad

Pam fod angen i Fanc Datblygu Cymru ddefnyddio fy ngwybodaeth bersonol?

Os byddwch yn cysylltu â ni am ragor o wybodaeth am gynnyrch buddsoddi penodol, neu os byddwch yn gwneud ymholiad cyffredinol, bydd angen i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol er mwyn ymateb i chi.

Pa wybodaeth sydd angen i mi ei darparu i Fanc Datblygu Cymru?

Bydd hynny'n dibynnu ar natur eich ymholiad. Mae'r dudalen 'cysylltu â ni' ar ein gwefan yn nodi'r wybodaeth leiaf y bydd ei hangen arnom amdanoch er mwyn ymateb i'ch ymholiad.

Beth mae Banc Datblygu Cymru yn ei wneud gyda fy ngwybodaeth?

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth i ymateb i'ch ymholiad ac, os ydych yn cytuno, i gysylltu â chi eto i roi gwybodaeth i chi am ein cynnyrch a'n gwasanaethau (gweler rhan 3, isod).

Beth yw'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio fy ngwybodaeth?

O dan gyfraith diogelu data, mae’n rhaid i ni gael sail gyfreithiol ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Pan fyddwch yn cysylltu â ni am ragor o wybodaeth am ein cynnyrch neu wasanaethau, credwn fod gennym ddiddordeb cyfreithlon mewn gallu ymateb yn llawn i'ch ymholiad. Caniateir i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol lle bo hynny’n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon, ar yr amod nad yw ein buddiannau ni yn cael eu diystyru gan eich buddiannau chi. Yn yr achos hwn, credwn fod defnyddio eich data personol i ymateb i’ch ymholiad er eich lles chi ac i ni.

Os bydd unrhyw wybodaeth ychwanegol a roddwch i ni yn cynnwys gwybodaeth bersonol categori arbennig, caniateir i ni brosesu hyn pan:

  • rydych wedi rhoi eich caniatâd penodol i ni wneud hynny,

  • am resymau sydd a wnelo budd cyhoeddus sylweddol,

  • sefydlu, ymarfer, neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

Am ba mor hir mae Banc Datblygu Cymru yn cadw fy ngwybodaeth?

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth cyhyd a’r amser y mae'n ei gymryd i ddelio â'ch ymholiad. Fel arfer byddwn yn dileu eich gwybodaeth ar ôl 12 mis, oni bai yr hoffech i ni gadw eich manylion cyswllt er mwyn rhoi gwybod i chi am ein cynnyrch a'n gwasanaethau (gweler adran 3, isod).

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn darparu fy ngwybodaeth i Fanc Datblygu Cymru?

Nid oes angen i chi roi eich gwybodaeth bersonol i ni. Fodd bynnag, os na fyddwch yn darparu digon o wybodaeth, efallai na fyddwn yn gallu ymateb yn gywir i'ch ymholiad. Os byddwch yn cysylltu â ni drwy ein gwefan, gofynnwn i chi ddarparu gwybodaeth orfodol benodol fel y gallwn ymdrin â'ch ymholiad.

 3. Defnyddio eich gwybodaeth bersonol i roi gwybod i chi am ein cynnyrch a'n gwasanaethau

Pam fod angen i Fanc Datblygu Cymru ddefnyddio fy ngwybodaeth bersonol?

Os hoffech gael gwybod am ein hamrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau buddsoddi, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i anfon cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol atoch (fel e-byst). Dim ond pan fyddwn yn credu bod gennym fuddiant cyfreithlon mewn gwneud hyn y byddwn yn gwneud hyn, neu os ydych wedi cytuno i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at y diben hwn.

Pa wybodaeth sydd angen i mi ei darparu i Fanc Datblygu Cymru?

Gallwch roi eich enw a'ch manylion cyswllt i ni drwy'r dudalen 'cofrestru e-bost' ar ein gwefan,  ein ffurflen gais, mewn digwyddiadau neu gyfarfodydd.

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn cael eich gwybodaeth bersonol o ffynonellau trydydd parti, megis Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Tŷ’r Cwmnïau, ICEAW a Newyddion Busnes Cymru. Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i anfon post marchnata atoch y credwn y byddai gennych ddiddordeb mewn ei dderbyn.

Beth mae Banc Datblygu Cymru yn ei wneud gyda fy ngwybodaeth?

Byddwn yn defnyddio'ch manylion cyswllt a'ch manylion sy'n ymwneud â'ch rôl neu deitl eich swydd i roi gwybodaeth i chi am ein cynnyrch a'n gwasanaethau. Rydym yn aml yn cynnal ein digwyddiadau ein hunain fel rhan o'n gweithgareddau marchnata. Os byddwch yn cofrestru ar gyfer un o’r digwyddiadau hyn, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â thrydydd partïon sy’n ein cefnogi i gynnal ein digwyddiadau.

Os byddwch yn gwneud cais am un o’n buddsoddiadau, efallai y byddwn yn gofyn ichi a hoffech i Busnes Cymru gysylltu â chi, sy’n cynnig amrywiaeth o gymorth a chyngor i fusnesau Cymreig a allai fod o ddiddordeb i chi. Os byddwch yn cytuno i ni wneud hynny, byddwn yn trosglwyddo eich manylion cyswllt i Busnes Cymru er mwyn caniatáu iddynt gysylltu â chi. Rheolir Busnes Cymru gan Lywodraeth Cymru.

Beth yw'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio fy ngwybodaeth?

O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni gael sail gyfreithiol ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Pan fyddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth at ddibenion marchnata, mae’r seiliau cyfreithiol canlynol yn berthnasol:

  • Credwn fod gennym ddiddordeb cyfreithlon mewn anfon gwybodaeth atoch am ein cynnyrch a'n gwasanaethau. Caniateir i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol lle bo hynny’n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon, ar yr amod nad yw ein buddiannau ni yn cael eu diystyru gan eich buddiannau chi. Yn yr achos hwn, credwn fod dweud wrthych am ein cynnyrch a'n gwasanaethau o fudd i chi ac i ni. Byddwn bob amser yn rhoi'r cyfle i chi optio allan o dderbyn y cyfathrebiadau hyn.

  • Mewn rhai amgylchiadau byddwn yn gofyn am eich caniatâd cyn i ni anfon gwybodaeth atoch am ein cynnyrch a'n gwasanaethau.

Am ba mor hir mae Banc Datblygu Cymru yn cadw fy ngwybodaeth?

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth hyd nes y byddwch yn dewis peidio â derbyn cyfathrebiadau marchnata gennym ni mwyach.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn darparu fy ngwybodaeth i Fanc Datblygu Cymru?

Os nad ydych am dderbyn gwybodaeth farchnata gennym ni, rhowch wybod i ni. Mae gennych yr hawl i optio allan unrhyw bryd drwy anfon e-bost atom yn gwyb@bancdatblygu.cymru neu glicio ar yr opsiwn 'dad-danysgrifio' yn unrhyw un o'n e-byst marchnata.

4. Defnyddio eich gwybodaeth bersonol mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarperir gennych i ni

Pam fod angen i Fanc Datblygu Cymru ddefnyddio fy ngwybodaeth bersonol?

Os ydych yn darparu gwasanaethau i Fanc Datblygu Cymru, bydd angen i chi roi gwybodaeth amdanoch chi i ni. Mae hyn er mwyn i ni allu penderfynu ai chi yw'r person cywir i ddarparu'r gwasanaeth gofynnol. Os ydych yn darparu gwasanaethau i ni, byddwn yn parhau i ddefnyddio'ch gwybodaeth fel rhan o'n rheolaeth barhaus o'r gwasanaeth a ddarperir gennych.

Pa wybodaeth sydd angen i mi ei darparu i Fanc Datblygu Cymru?

Mae arnom angen gwybodaeth fel eich enw, cyfeiriad, a manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn.

Beth mae Banc Datblygu Cymru yn ei wneud gyda fy ngwybodaeth?

Pan fyddwch yn darparu eich gwybodaeth i ni, byddwn yn ei defnyddio er mwyn asesu eich addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth. Yna byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i reoli ein perthynas barhaus tra byddwch yn darparu’r gwasanaeth a byddwn yn rhannu’r wybodaeth honno â thrydydd partïon yn ôl yr angen.

Rydych yn cydnabod ac yn cytuno y gall eich data personol gael ei brosesu y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (“AEE”). Byddwn yn cymryd rhagofalon (yn unol â chanllawiau perthnasol gan gyrff rheoleiddio) i sicrhau y bydd unrhyw drosglwyddiad o’ch data y tu allan i’r AEE yn destun mesurau diogelu sy’n diogelu eich hawliau preifatrwydd, a bydd eich data’n cael ei gadw’n ddiogel bob amser.

Beth yw'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio fy ngwybodaeth?

O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni gael sail gyfreithiol ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Pan fyddwch yn gwneud cais i ddarparu gwasanaeth i ni, gall y seiliau cyfreithiol canlynol fod yn berthnasol:

  • Lle mae eich gwybodaeth yn cael ei darparu i ni mewn cysylltiad â gwasanaeth yr ydych yn ei ddarparu i ni. Caniateir i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i gyflawni’r contract hwnnw.

  • Caniateir i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol lle mae’n angenrheidiol i ni gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol.

  • Credwn fod cynnal gwiriadau priodol ar ddarpar ddarparwyr gwasanaeth, ac yna monitro perfformiad ein buddsoddiadau yn ystod tymor ein perthynas, er ein budd cyfreithlon fel benthyciwr cyfrifol. Caniateir i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol lle bo hynny’n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon, ar yr amod nad yw ein buddiannau yn cael eu diystyru gan eich buddiannau chi.

Am ba mor hir mae Banc Datblygu Cymru yn cadw fy ngwybodaeth?

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am o leiaf hyd eich contract gyda ni, ac wedi hynny am gyfnod o saith mlynedd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gennym gofnod llawn o'r contract rhyngom, os bydd unrhyw anghydfod ynghylch y contract.

Mae’n bosibl y byddwn yn cadw’ch gwybodaeth am gyfnod hwy pan fo’n angenrheidiol i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol, i arfer hawliau cyfreithiol neu i amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn darparu fy ngwybodaeth i Fanc Datblygu Cymru?

Nid oes rhaid i chi ddarparu unrhyw wybodaeth i ni. Fodd bynnag, os na fyddwch yn darparu'r manylion y gofynnwn amdanynt, ni fyddwn yn gallu defnyddio'ch gwasanaethau.

Mae Dogfen Polisi Priodol BDC yn darparu gwybodaeth am y sail gyfreithlon a’r mesurau diogelu y mae BDC a’i is-gwmnïau wedi’u rhoi ar waith ar gyfer prosesu data sensitif, prosesu categorïau arbennig o ddata personol a data troseddau o dan amodau penodol.

Mae Banc Datblygu Cymru hefyd yn rhedeg y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid, ar ran Llywodraeth Cymru, gan gynnwys rheoli ei bolisi preifatrwydd

Mae Banc Datblygu Cymru hefyd yn rhedeg cynllun Cymorth i Brynu - Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru, gan gynnwys rheoli ei bolisi preifatrwydd

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i Hunanadeiladu Cymru, is-gwmni i Fanc Datblygu Cymru. Pryd bynnag y defnyddir y term 'ni' yn yr hysbysiad hwn, mae'n golygu Hunanadeiladu Cymru. 

Mae FW Capital yn rhan o Grŵp Banc Datblygu Cymru (Grŵp BDC). Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i Fanc Datblygu Cymru ccc ac i bob un o’i is-gwmnïau (gyda’i gilydd, gelwir y rhain yn Grŵp BDC).

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i Gynllun Cymorth i Aros Cymru, sef Cynllun sy’n cael ei reoli gan is-gwmni Banc Datblygu Cymru, sef Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig.