Gareth Bullock OBE

Gareth yw Cadeirydd Banc Datblygu Cymru ac mae ganddo dros 45 mlynedd o brofiad yn y diwydiant gwasanaethau ariannol.

Ymddeolodd yn 2010 o Fwrdd Standard Chartered plc lle bu’n gyfrifol am Affrica, y Dwyrain Canol, Ewrop ac America yn ogystal â chadeirio Risg a Rheoli Asedau Arbennig. Ar lefel bwrdd, mae ganddo brofiad sylweddol o ddiwydiant a manwerthu hefyd yn y DU a Tsieina, a phrofiad rhyngwladol ar ôl bod yn Bennaeth Bancio Corfforaethol yn Hong Kong, Prif Swyddog Gweithredol Affrica, Prif Swyddog Gwybodaeth y Grŵp a Phennaeth Strategaeth. Mae ganddo brofiad sylweddol o ddiwydiant a manwerthu hefyd ar lefel bwrdd yn y DU a Tsieina.

Bu’n aelod o sawl bwrdd hefyd, inter alia, Informa PLC, Tesco PLC, Tesco Personal Financial Group Ltd, Spirax-Sarco Engineering PLC, Fleming Family & Partners Ltd, Cymdeithas Bancwyr Prydain a Global Market Group Ltd (Tsieina). Bu’n Ymddiriedolwr y British Council o 2012 i 2018.

Mae ganddo brofiad swyddogaethol a rhyngwladol eang, ar ôl bod yn Bennaeth Bancio Corfforaethol yn Hong Kong, Prif Swyddog Gweithredol Affrica, Prif Swyddog Gwybodaeth y Grŵp a Phennaeth Strategaeth.