Mae’r gefnogaeth gan Banc Datblygu wedi golygu ein bod wedi gallu agor y feithrinfa a dechrau meithrin plant ifanc i ddysgu a thyfu trwy iaith a chwarae.

Dywedodd perchennog y feithrinfa, Natasha Baker

Cyflym
Gwnewch gais ar-lein mewn 10 munud
Personol
Cefnogaeth wyneb yn wyneb gan fuddsoddwyr
Cefnogaeth
Rheolaeth a chymorth cydberthnasau parhaus yn ogystal â chyllid dilynol.
Gwerth
Rhwydwaith cryf o gynghorwyr i chi

Sut y gallwn ni helpu

Mae llawer i'w ystyried os ydych chi'n dechrau ar eich pen eich hun am y tro cyntaf.

  • Rhentu neu brynu eiddo newydd
  • Prynu offer neu wisgoedd gwaith
  • Llogi staff
  • Marchnata
  • Prynu stoc

Pa bynnag sector rydych chi'n mynd i mewn iddo, gallwn eich helpu i dalu am y costau sefydlu.

Fe all mynd trwy'ch blynyddoedd cynnar olygu bod angen ychydig o gyllid ychwanegol arnoch ar gyfer ystod o anghenion:

  • Rhentu neu brynu eiddo newydd
  • Llif arian
  • Hyfforddi staff 
  • Marchnata
  • Stoc ychwanegol
  • Datblygu cynhyrchion a gwasanaethau

P'un ai yw'r arian ar gyfer sefydlogi'r llong neu er mwyn eich helpu i dyfu, gallwn ddarparu benthyciadau ac ecwiti.
 

Chwilio am fenthyciad hyd at £100,000 ar gyfer dechrau busnes? 

Byddwn angen gweld:

  • Crynodeb o gynllun busnes
  • Cyfrifon hanesyddol (hyd at ddwy flynedd os ydynt ar gael)
  • Rhagolwg llif arian 2 flynedd ar gyfer benthyciadau dros £25,000 (1 flwyddyn ar gyfer benthyciadau hyd at £25,000)
  • Gwybodaeth reoli wedi ei diweddaru
  • Datganiadau banc y tri mis blaenorol (personol os mai busnes newydd ydyw)
  • Datganiad asedau ac atebolrwydd

Os ydych chi'n chwilio am gyllid i lansio'ch busnes, fel arfer bydd angen cyfraniad arian parod personol. 

 

Beth os nad oes gen i bob un o’r rhain ar hyn o bryd?

Peidiwch â phoeni, gallwch arbed eich cynnydd ar ein ffurflen gais ar-lein neu anfonwch eich dogfennau ategol atom yn nes ymlaen wedyn.

Chwilio am chwistrelliad o gyllid dros £100,000? 

Byddwn angen gweld:

  • Crynodeb o gynllun busnes
  • Cyfrifon hanesyddol (hyd at ddwy flynedd os ydynt ar gael)
  • Rhagolygon Misol Integredig (dwy flynedd gan gynnwys Elw & Cholled, Llif Arian & Mantolen)
  • Gwybodaeth reoli wedi ei diweddaru
  • Datganiadau banc y tri mis blaenorol (personol os mai busnes newydd ydyw)
  • Datganiad asedau ac atebolrwydd

Os ydych chi'n chwilio am gyllid i lansio'ch busnes, yna bydd angen cyfraniad arian parod personol.

 

Beth os nad oes gen i bob un o’r rhain ar hyn o bryd?

Peidiwch â phoeni, gallwch arbed eich cynnydd ar ein ffurflen gais ar-lein neu anfonwch eich dogfennau ategol atom yn nes ymlaen wedyn.

Dolenni defnyddiol

Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc 18-30 oed gyda busnes yng Nghymru i'w helpu i dyfu. O delis a poptai i labordai gofod-dechnoleg, gallwn helpu eich busnes gyda benthyciad ad-daladwy. Dysgwch fwy am gyllid ar gyfer mentergarwyr ifanc.

Am fenthyciad dechrau busnes dim ond crynodeb o'r cynllun busnes fydd ei angen arnom. Gallwch wneud cais ar-lein unrhyw bryd ac anfon y dogfennau angenrheidiol yn ddiweddarach. Os oes angen rhai awgrymiadau arnoch, cymerwch olwg ar ein canllaw ar sut i ysgrifennu cynllun busnes.

Mae benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 am hyd at 10 mlynedd ar gael drwy gyfrwng Benthyciadau wedi’i neilltuo o fewn Cronfa Micro Fenthyciadau Cymru. Dysgwch fwy am ein benthyciadau mentrau cymdeithasol.

press icon

Cam 1

Cwblhewch ein gwirydd cymhwyster mewn dim ond ychydig funudau.

pc icon

Cam 2

Gwnewch gais ar-lein. Yna byddwn yn cysylltu â chi o fewn dau ddiwrnod gwaith i drafod y camau nesaf.

tick icon

Cam 3

Unwaith y bydd gennym bopeth sydd ei angen arnom, caiff eich cais ei adolygu ac fe wneir penderfyniad.

wallet icon

Cam 4

Os yw'n llwyddiannus ac mae'r holl ddogfennau yn eu lle, gellir trosglwyddo arian cyllido o fewn un diwrnod gwaith.

Be' nesaf?

Gwiriwch i weld a yw'ch busnes yn gymwys neu dechreuwch ar eich cais ar-lein nawr. Y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf am ddechrau busnes

Ymgeisio nawr