Fel buddsoddwr rydyn ni eisiau’r gorau i Gymru, ac mae hynny’n golygu twf economaidd sydd hefyd yn cael effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol cadarnhaol.

Banc Datblygu

Cyllid cynaliadwy ar gyfer economi wyrddach

Waeth os ydych megis dechrau neu’n parhau â thaith ddatgarboneiddio eich busnes, mae ein Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn cynnig pecyn cymorth â chymhelliant i gefnogi eich busnes.

Mae benthyciadau ar gael rhwng £1,000 ac £1.5m, yn ogystal â chyngor arbenigol a chyllid ar gyfer ymgynghoriaeth ynni.

Dyma’r mathau o brosiectau sy’n gymwys i gael cyllid drwy’r Cynllun Benthyciad Busnes Gwyrdd:

  • Gwresogi, awyru ac aerdymheru – newid, rheoli, technoleg carbon isel
  • Gwella adeiladwaith adeiladau – inswleiddio, gwydr dwbl, goleuadau LED
  • Ynni adnewyddadwy – solar ffotofoltäig, pympiau gwres o’r ddaear/aer/dŵr
  • Gwella offer allweddol – monitro a rheoli, newid, technoleg carbon isel
  • Defnydd dŵr a lleihau gwastraff/gwelliannau gwastraff

 

Gall busnesau sy'n darparu gwasanaethau a chynhyrchion gwyrdd hefyd wneud cais am gyllid i helpu busnesau i ddechrau o’r newydd, cryfhau neu dyfu.

Trwy gyfrwng Cronfa Ynni Lleol Llywodraeth Cymru gallwn ddarparu cyllid datblygu a chyfalaf ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy a charbon isel a arweinir gan y gymuned a fydd yn darparu budd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i ardaloedd lleol ledled Cymru.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni.

Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r argyfwng newid yn yr hinsawdd ac yn parhau i ddatblygu ffyrdd o weithio a fydd yn cael effaith uniongyrchol, sy’n cael eu sbarduno gan:

  • Gyflawni cynllun lleihau carbon yn barhaus sy’n canolbwyntio ar ein gweithrediadau ein hunain drwy weithgor penodedig gyda’r uchelgais i gyrraedd net sero.
  • Defnyddio ein huned ymchwil Dirnad Economi Cymru i archwilio argymhellion polisi a chynnyrch i lywio’r trawsnewid i economi carbon isel.
  • Cefnogi’r busnesau rydym yn gweithio gyda nhw i wella a lleihau’r effaith amgylcheddol gan gynnwys drwy atgyfeirio at gynghorwyr cynaliadwyedd Busnes Cymru

Rydym yn creu gwerth ariannol a chymdeithasol hirdymor trwy ddefnyddio’r cyfalaf a godwn, y bobl rydym yn eu cyflogi a’n perthnasoedd â rhanddeiliaid a’r gymuned fusnes.

Rydym yn hyrwyddo tegwch, atebolrwydd, cyfrifoldeb a thryloywder yn ein gweithrediadau ein hunain a gweithrediadau ein cyflenwyr, partneriaid a'r busnesau a gefnogwn.

Canfyddwch fwy am ein strwythur corfforaethol, strategaeth ac ymrwymiadau busnes cyfrifol.

Achrediadau

Rydym yn credu’n gryf mewn buddsoddi’n gyfrifol ac yn foesegol, ac fel y cyfryw rydym yn falch o lofnodi’r Egwyddorion Buddsoddi Cyfrifol.

PRI logo

 

Gwyliwch ein haddewid gwyrdd

Mae'r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd. Canfod mwy