Cronfeydd a reolir gennym

Ar hyn o bryd rydym yn rheoli ystod o gronfeydd gwerth £1.9bn

Ein cronfeydd

Faint fydd y gronfa yn ei fuddsoddi?

£500 miliwn

O ble mae’r arian yn dod?

Llywodraeth Cymru a ni.

Beth yw’r telerau?

  • Mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru ar gyfer bargeinion rhwng £25,000 a £10m
  • Mae benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti ar gael
  • Mae gennym yr hyblygrwydd i ddarparu telerau 15 mlynedd
  • Ein huchelgais yw sicrhau cyd-fuddsoddiad gwerth uchel

Pwy all wneud cais?

Busnesau Cymru.

Faint fydd y gronfa yn ei fuddsoddi?

£30 miliwn

O ble mae’r arian yn dod?

Ariennir Cronfa Micro Fenthyciadau Cymru yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru.

Beth yw’r telerau?

  • Mae benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gael
  • Mae'r telerau ad-dalu yn amrywio rhwng un a deng mlynedd

Pwy all wneud cais?

Busnesau bach, masnachwyr unigol a mentrau cymdeithasol sy'n seiliedig yng Nghymru, neu sy'n barod i symud yma.

Faint fydd y gronfa yn ei fuddsoddi?

£20 miliwn

O ble mae’r arian yn dod?

Ariennir Cronfa Sbarduno Technoleg Cymru yn llwyr gan Lywodraeth Cymru.

Beth yw’r telerau?

  • Mae buddsoddiadau ecwiti rhwng £50,000 a £350,000 ar gael
  • Fel arfer disgwylir i fusnesau gwrdd â’n buddsoddiad ni gydag arian cyfatebol o gronfeydd eraill

Pwy all wneud cais?

Busnesau technoleg Cymru, a'r rhai sy'n barod i symud yma, yn ystod cyfnod prawf cysyniad.

Faint fydd y gronfa yn ei fuddsoddi?

£25 miliwn

O ble mae’r arian yn dod?

Ariennir Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru yn gyfan gan y Llywodraeth Cymru a Cronfa Bensiwn Clwyd.

Beth yw’r telerau?

  • Mae buddsoddiadau ecwiti i rhwng  500,000 a £3m ar gael
  • Mae'r telerau'n amrywio rhwng pump a saith mlynedd.

Pwy all wneud cais?

Timau rheoli sy'n anelu at fod yn berchen ar a rhedeg eu busnesau.

Faint fydd y gronfa yn ei fuddsoddi?

Gweithredwyd £55m ar sail ailgylchu 

O ble mae’r arian yn dod?

Ariennir Cronfa Eiddo Cymru yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru. Gan fod y gronfa yn cael ei hailgylchu, caiff yr arian a dderbynnir o'r buddsoddiadau hyn ei ail-fuddsoddi.

Beth yw’r telerau?

  • Mae benthyciadau rhwng £150,000 a £6m ar gael
  • Mae telerau ad-dalu yn nodweddiadol yn 24 mis neu lai

Pwy all wneud cais?

Datblygwyr bach a chanolig eu maint sy'n seiliedig yng Nghymru, sy'n gweithio ar brosiectau preswyl, defnydd cymysg a datblygiadau masnachol yng Nghymru.

Faint fydd y gronfa yn ei fuddsoddi?

£54.5 miliwn

O ble mae’r arian yn dod?

Ariennir Cronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru.

Beth yw’r telerau?

  • Mae benthyciadau rhwng £100k a £5m ar gael
  • Telerau ad-dalu o 10-15 mlynedd

Pwy all wneud cais?

Prosiectau Twristiaeth unigryw sy'n sefyll allan sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan ddangos ymrwymiad i'r Contract Economaidd. Gall prosiectau gynnwys cynhyrchion arloesol o ansawdd uchel, atyniadau pob tywydd, profiadau unigryw i ymwelwyr sy'n canolbwyntio ar ymwelwyr, prosiectau diwylliannol neu dreftadaeth arloesol, mannau aros anghyffredin ac atyniadau blaenllaw.

Darllen mwy

Faint fydd y gronfa yn ei fuddsoddi?

£25 miliwn

O ble mae’r arian yn dod?

Ariennir Cronfa Twf Cyfalaf Cymru yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru.

Beth yw’r telerau?

  • Mae benthyciadau rhwng £50,000 a £2m ar gael
  • Mae cyfnodau ad-dalu fel arfer yn para rhwng 12 a 18 mis

Pwy all wneud cais?

Busnesau sydd yng Nghymru a busnesau sy'n bwriadu symud i Gymru, o unrhyw faint sydd angen cyllid ar gyfer prynu stoc tymor byr, arian cyllido prosiect a bondiau perfformiad.

Faint fydd y gronfa yn ei fuddsoddi?

£62.5 miliwn (fodd bynnag, gellir ailgylchu'r gronfa dros bedair gwaith)

O ble mae’r arian yn dod?

Llywodraeth Cymru

Beth yw’r telerau?

  • Benthyciadau o £150,000 i £6 miliwn.
  • Uchafswm o 4 blynedd.

Pwy all wneud cais?

Ni all unrhyw un sy'n bwriadu datblygu prosiect safle preswyl gael eu symud ymlaen gyda chyllid datblygu traddodiadol.

Faint fydd y gronfa yn ei fuddsoddi?

£8 miliwn 

O ble mae’r arian yn dod?

Llywodraeth Cymru

Beth yw’r telerau?

  • Ecwiti a benthyciadau o £25,000 - £250,000
  • Y mwyafswm ar gael ar gyfer unrhyw syndicad unigol yw £700,000
  • Ni ddylai aelodau o'r syndiciad fod â buddsoddiadau presennol yn y cwmni / prosiect
  • Bydd teulu neu ffrindiau aelodau'r syndiciad, sy'n ymwneud â'r cwmniau / prosiectau, yn cael eu hystyried fel rhai sydd â gwrthdaro buddiannol
  • Fel cyd-fuddsoddwr, gallwn gyfrannu hyd at uchafswm o 50% o'r holl fargen

Pwy all wneud cais?

Mae ein Cronfa Cyd-Fuddsoddi Angylion Cymru ar gael i syndicadau o Fuddsoddwyr sy'n edrych tuag at gyd-fuddsoddi mewn busnesau bach a chanolig yng Nghymru. Bydd y syndicadau yn cael eu rheoli gan Fuddsoddwyr Arweiniol sydd wedi cael eu cymeradwyo'n flaenorol gan Angylion Buddsoddi Cymru.

Faint fydd y gronfa yn ei fuddsoddi?

£55 miliwn

O ble y daw'r arian?
Ariennir y Gronfa Eiddo Masnachol Cymru yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru.

Beth yw’r telerau?

  • Benthyciadau o £250,000 i £5 miliwn.
  • Uchafswm cyfnod o 5 mlynedd.

Pwy all wneud cais?
Datblygwyr bach a chanolig yng Nghymru, yn gweithio ar brosiectau datblygu preswyl, defnydd cymysg a phrosiectau datblygu masnachol yng Nghymru.

Faint fydd y gronfa'n ei fuddsoddi?

£12.5 miliwn (o gyfalaf cychwynnol sydd â'r gallu i gael ei ailgylchu)

O ble mae'r cyllid yn dod?

Darperir y cyllid gan LlC trwy'r gyfarwyddiaeth newid yn yr hinsawdd, ynni a chynllunio

Beth yw’r telerau?

  • Cefnogaeth i brosiectau ynni adnewyddadwy bach sy'n methu â chael gafael ar gyllid masnachol
  • Buddsoddiad o hyd at £2m gyda thelerau hyd at 20 mlynedd
  • Arddangos budd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd tymor hir

Pa all wneud cais?

Grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol, modelau perchnogaeth leol a BBaCh

O ble mae'r arian yn dod?

Llywodraeth Cymru a ninnau.

Beth yw'r telerau?

  • Mae’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn cynnig cyfraddau llog gostyngol a chyfalaf amyneddgar i gefnogi busnesau sy’n ymgymryd â phrosiectau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio
  • Mae'n cynnig cyllid o £1,000 hyd at £1.5m
  • Mae'r Cynllun hefyd yn darparu mynediad i gymorth ymgynghorol wedi'i ariannu'n llawn ac yn rhannol i gynnal archwiliadau ynni penodol i fusnes

 

Pwy all wneud cais?

Gall cwmnïau cyfyngedig, masnachwyr unigol neu bartneriaethau wneud cais am gyllid drwy’r Cynllun yn amodol eu bod wedi’u lleoli yng Nghymru ac yn masnachu ers o leiaf dwy flynedd gydag o leiaf un set o gyfrifon blynyddol wedi’u ffeilio.

Gwasanaethau

Faint fydd y gronfa yn ei fuddsoddi?

£210 miliwn

O ble mae'r arian yn dod?

Llywodraeth Cymru

Beth yw'r termau?

  • Chwilio, dod o hyd a gwneud cais ar-lein am blotiau addas ar gyfer eiddo hunanadeiladu ac eiddo wedi’u hadeiladu’n bwrpasol yng Nghymru
  • Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael un plot a byddant yn cadarnhau dyluniad terfynol, costau ac adeiladwyr gyda thîm Hunanadeiladu Cymru
  • Mae ymgeiswyr yn darparu blaendal o 25% ar gost y plot. Bydd Banc Datblygu Cymru yn darparu (yn ddarostyngedig i feini prawf cymhwyso) benthyciad datblygu hunan-adeiladu i dalu am weddill y plot (75%) a chost lawn adeiladu’r eiddo.
  • Mae ymgeiswyr yn goruchwylio’r gwaith o adeiladu eu tŷ ac yn ad-dalu'r benthyciad eiddo, ar ôl ei gwblhau, trwy forgais ad-dalu neu ddulliau eraill sydd ar gael.
  • Rhaid i'r eiddo gorffenedig fod yr unig un sydd gan yr ymgeisydd pan fydd yn symud i mewn

Pwy all wneud cais?

Mae’r cynllun yn agored i bawb yng Nghymru, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Brynwyr tro cyntaf
  • Perchnogion tai presennol sy'n bwriadu newid maint, lleihau maint neu ddim ond symud i gartref newydd yn eu cymuned leol
  • Pobl hŷn neu anabl sydd am adeiladu tŷ a ellir ei deilwra’n bwrpasol

Mae’n bosibl y bydd meini prawf blaenoriaeth penodol ynghlwm i rai plotiau a bennir gan ddarparwr y plotiau. Gallwch ganfod mwy ar wefan Hunanadeiladu Cymru.

Faint fydd y gronfa yn ei fuddsoddi?

£454 miliwn

O ble mae’r arian yn dod?

Ariennir Cymorth i Brynu Cymru yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru.

Beth yw’r telerau?

  • Benthyciadau ecwiti a rennir o hyd at 20% o'r pris prynu: hyd at £50,000 os yw'r prynwr yn cyfrannu blaendal o 5%
  • Rhaid i gartrefi a brynir fod yn adeiladau newydd mewn datblygiadau sydd wedi'u cofrestru gyda'r cynllun, hyd at werth £300,000.

Pwy all wneud cais?

Unrhyw un sy'n prynu eu cartref cyntaf yng Nghymru, neu'r rhai sy'n amnewid eu prif breswylfa yng Nghymru.

Mae’r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid yn gynllun gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’i gynllunio i helpu lesddeiliaid mewn caledi ariannol sylweddol o ganlyniad uniongyrchol i faterion diogelwch tân sy’n effeithio ar eu heiddo. Bydd yn galluogi lesddeiliaid i gael mynediad at gyngor ariannol annibynnol fel ffordd o ganfod atebion i fynd i’r afael â’u hamgylchiadau ariannol unigol a chyfredol. 

Ar gyfer lesddeiliaid cymwys, bydd y Cynllun yn cynnig asesiad ariannol gan Gynghorydd Ariannol Annibynnol (CAA) i benderfynu ar y camau gweithredu mwyaf priodol ar gyfer pob aelwyd yn seiliedig ar ei amgylchiadau penodol. Yn dilyn yr asesiad, os daw’r CAA i’r casgliad mai’r opsiwn mwyaf priodol i lesddeiliad yw gwerthu ei eiddo, yna gellir bwrw ymlaen â hyn o dan y Cynllun. 

Pwy all wneud cais?

I fod yn gymwys i wneud cais i’r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid byddwch: 

  • yn berchennog ar yr eiddo mewn adeilad cymwys yng Nghymru 
  • yn berchennog preswyl neu’n breswylydd wedi’i ddadleoli (dyma lle bu’n rhaid i chi symud allan oherwydd nad oedd yr eiddo’n gallu bodloni eich anghenion corfforol neu feddiannaeth, ac ni allwch werthu’r eiddo oherwydd pryderon diogelwch tân felly rydych chi nawr yn ei rentu allan ) ​​​​​​
  • angen pasio’r Asesiad Cymhwysedd Ariannol (lle byddwn yn gwirio a yw eich incwm gwario yn golygu eich bod yn dod o fewn diffiniad y Comisiwn Metrigau Cymdeithasol o galedi ariannol sylweddol oherwydd materion diogelwch tân) 

Y cam cyntaf yw cwblhau gwiriwr cymhwysedd y cynllun lle gallwch wirio a allech fod yn gymwys ar gyfer y cynllun.