Rydym yn fuddsoddwr effaith gyda phwrpas cymdeithasol ac rydym yn rhoi potensial Cymru wrth wraidd ein penderfyniadau. Drwy wneud cyllid cynaliadwy, effeithiol yn hygyrch, rydym yn helpu busnesau sy’n gallu cyfrannu’n ariannol, yn gymdeithasol, yn foesegol ac yn amgylcheddol i’n cymunedau yng Nghymru, ac ar gyfer dyfodol y byd ehangach.

£778m
Buddsoddiad uniongyrchol i fusnesau Cymru
£531m
Buddsoddiad ar y cyd gan y sector breifat
£351m
wedi ei ddosbarthu i berchnogion tai newydd drwy Gymorth i Brynu Cymru
3,938
Busnesau a gefnogir
41,700
Swyddi a gefnogwyd yn economi Cymru
£1.66bn
Cyfanswm yr effaith lwyr ar economi Cymru

(Ffigurau hyd at fis Mawrth 2024 ac yn cynnwys benthyciadau o Gynllun Benthyciadau Busnes Covid-19 Cymru)

 

 

 

 

Banc Datblygu Cymru Bl a ddaeth i ben Mawrth 2022

  • Cyfanswm buddsoddiad o £175 miliwn yn uniongyrchol i fusnesau Cymru
  • Buddsoddiad o £125 miliwn i mewn i fusnesau Cymru 
  • Buddsoddiad ychwanegol o £50 miliwn gan fanciau a chyllidwyr eraill yn y sector preifat
  • 491 o fuddsoddiadau wedi'u gwneud
  • 4,406 o swyddi wedi'u creu neu eu diogelu yng Nghymru

 

Adroddiadau blynyddol

Darllenwch ein Hadroddiad blynyddol a'n datganiadau ariannol ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23 sy'n darparu datganiadau ariannol wedi eu harchwilio ar gyfer y Grŵp yn ogystal â gwybodaeth ychwanegol am ein hamcanion, sut rydym yn gweithredu a'n perfformiad a'n heffaith.

 

Datgelu data y metrigau effaith

Gweler ein rhan ar adroddiadau a dogfennau am ragor o wybodaeth.