Rhanddeiliaid a phartneriaid

Llywodraeth Cymru 

Mae Banc Datblygu Cymru yn is-gwmni sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru. Fe'i sefydlwyd er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei amcanion polisi ar hyd a lled Cymru.

Ar y naill law, bydd yn gwasanaethu busnesau yng Nghymru, gan roi'r cyfalaf sydd ei angen arnynt i ddechrau, cryfhau a thyfu. Ar y llaw arall, bydd yn gwasanaethu Llywodraeth Cymru, trwy gyfeirio arian cyhoeddus i'r mannau lle fydd yn cael yr effaith mwyaf - ar raddfa fwy, ar gyflymdra cynt ac mewn ffordd gynaliadwy.

Mae’r Banc Datblygu yn bartner allweddol i Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda ni i barhau i adeiladu economi sy’n seiliedig ar egwyddorion gwaith teg a chynaliadwyedd a gyda ffocws ar ddiwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.

Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

 

Busnes Cymru

Mae buddsoddi i mewn i fusnesau bach a chanolig yn rhywbeth sy’n cael ei wella'n sylweddol pan fo cyllid a chymorth busnes yn cael eu unioni gyda’i gilydd. Er mwyn cyflawni hyn, mae Banc Datblygu Cymru yn gweithio gyda Busnes Cymru, sy'n ei gwneud hi'n symlach ac yn haws i fusnesau gael mynediad at gymorth ochr yn ochr â chyllid. Mae cynllun atgyfeirio rhwng y ddau yn helpu busnesau yng Nghymru i elwa ar ddull gweithredu mwy cyflawn tuag at  gymorth busnes.

Sefydliadau allweddol yr ydym ni'n gweithio â nhw: