Rydym yn fanc datblygu sy'n rhoi potensial Cymru wrth wraidd ein penderfyniadau.

Rydym yn ariannu busnesau y credwn a fydd o fudd i Gymru a’i phobl. Y rhai a fydd yn creu crychdonnau twf. Y rhai sy'n fwy na model busnes da neu syniad gwych. Rydym yn ariannu busnesau cyfrifol - y rhai sydd â safonau cymdeithasol, moesegol ac amgylcheddol cryf, yn ogystal ag addewid masnachol gwirioneddol.

Drwy ddarparu cyllid cynaliadwy ac effeithiol lle mae'r opsiynau wedi ymddangos fel petaent yn gyfyngedig, rydym yn dod ag uchelgeisiau yn fyw ac yn hybu posibiliadau i bobl, busnesau a chymunedau yng Nghymru a thu hwnt.

 

Adnodd unigryw i Gymru

Gallwn ddarparu cyllid ecwiti ar gyfer busnesau technoleg newydd yn ystod eu camau cynnar, busnesau uchelgeisiol sy’n bwriadu tyfu a chymorth ar gyfer allbryniannau rheolwyr. Gall ein cronfeydd ecwiti fuddsoddi rhwng £50k a £10m ac mae cwsmeriaid yn elwa ar gymorth parhaus gan gynnwys mynediad at ein rhwydwaith o fuddsoddwyr, cyfarwyddwyr anweithredol ac ymgynghoriaeth arbenigol.

Gall ein benthyciadau busnes hyblyg gefnogi’r cylch bywyd busnes llawn o fusnesau sy’n dechrau o’r newydd a busnesau sy’n tyfu, i drafodion olyniaeth gan gynnwys allbryniannau gan weithwyr. Rydym hefyd yn cynnig cyllid arbenigol ar gyfer busnesau twristiaeth a rhai canol trefi, y gellir eu cyfuno â grantiau Llywodraeth Cymru. Mae ein benthyciadau yn amrywio o £1k i £10m dros gyfnod o hyd at 15 mlynedd.

Trwy ein benthyciadau datblygu eiddo, gallwn gefnogi datblygiadau preswyl, defnydd cymysg a masnachol gyda chyllid o £150k i £6m. Mae cwsmeriaid yn elwa ar dîm ymroddedig sydd â gwybodaeth arbenigol am y sector a benthyciadau am bris gostyngol ar gyfer cartrefi gwyrdd.

Mae ein cangen ymchwil, Dirnad Economi Cymru, yn coladu ac yn dadansoddi data economaidd, gan greu mewnwelediad gwerthfawr i economi Cymru. Mae adroddiadau rheolaidd yn olrhain y cyflenwad a’r galw am gyllid, gan nodi bylchau yn y farchnad i lywio polisi.

Egwyddorion buddsoddi

Mae ein darpariaeth cyllid busnes yn cael ei gyfeirio gan chwe egwyddor buddsoddi graidd. Rydym yn canolbwyntio ar annog busnesau a chyd-fuddsoddwyr i gymryd camau a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad economaidd Cymru. Rhaid i'n gweithgaredd leihau dadleoli a sicrhau enillion economaidd - yn gymdeithasol ac yn ariannol.

Rydym yn gweithredu lle mae methiant yn y farchnad, gan gefnogi cyfleoedd economaidd trwy sicrhau bod cyllid ar gael i fusnesau hyfyw ac ymateb i anghenion y farchnad a chwsmeriaid sy'n datblygu.

Rydym yn buddsoddi ar delerau masnachol, gan brisio'r buddsoddiad yn deg i adlewyrchu'r risg. Mae hyn yn sicrhau nad ydym yn disodli’r sector preifat. Mae hefyd yn golygu ein bod yn cynhyrchu enillion y gellir eu hailgylchu i mewn i gwsmeriaid newydd, gan greu ased hirdymor, gwerth am arian i Gymru.

Rydym yn buddsoddi ar gyfer effaith ariannol ac anariannol cadarnhaol yn y cymunedau rhanbarthol rydym yn eu gwasanaethu. Mae amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu yn ystyriaethau sydd wedi’u gwreiddio’n gymesur yn ein penderfyniadau buddsoddi.

Rydym yn fuddsoddwr cyfrifol, yn darparu gwasanaethau rheoli buddsoddiad arbenigol ac annibynnol. Mae ein tîm profiadol yn ychwanegu gwerth at y busnesau rydym yn gweithio gyda nhw, am oes y berthynas.

Rydym yn fuddsoddwr amyneddgar, yn darparu cyllid hygyrch i gefnogi cynaliadwyedd hirdymor y busnesau a ariannwn.

Rydym yn cydweithio'n agos â'r sector preifat a'r sector cyhoeddus ac yn tyrru buddsoddiad ar y cyd gan y sector preifat lle bynnag y bo modd er mwyn cynyddu'r llif arian yng Nghymru.

Dewch i wybod mwy

1. Darparu cyllid dyled ac ecwiti gydag effaith gymdeithasol

2. Hyrwyddo a datblygu dyfodol gwyrdd yng Nghymru

3. Darparu rhagoriaeth, cwsmer-gyntaf, sefydlogrwydd ariannol

Rydym yn ariannu busnesau y credwn a fydd o fudd i Gymru a’i phobl. Y rhai a fydd yn creu crychdonnau twf. Y rhai sy'n fwy na model busnes da neu syniad gwych. Rydym yn ariannu busnesau cyfrifol - y rhai sydd â safonau cymdeithasol, moesegol ac amgylcheddol cryf, yn ogystal ag addewid masnachol gwirioneddol.

 

Ym Manc Datblygu Cymru, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth eithriadol i’n cwsmeriaid ac rydym yn cael ein harwain gan ein gwerthoedd ym mhopeth a wnawn. Gallwch ddarllen fwy am ein siarter cwsmeriaid yma.

Mae Grŵp Banc Datblygu Cymru yn cynnwys Banc Datblygu Cymru, Angylion Buddsoddi Cymru a rheolwr y gronfa FW Capital. Darganfyddwch fwy am ein strwythur corfforaethol.

Gallwch weld ein dogfennau strategol a chorfforaethol yn fan hyn hadran adroddiadau a dogfennau.

Be’ sy’ nesaf?

Gallwch wirio a yw eich busnes yn gymwys i gael benthyciad mewn llai na phum munud gyda'n gwiriwr cymhwysedd ar-lein.

 

Gwiriwch nawr