Dianne Walker

Wedi’i geni a’i magu yng Ngogledd Cymru, mae gan Dianne fwy na 30 mlynedd o brofiad ym maes cyllid a rolau cynghori bwrdd; mae hi wedi cael gyrfa hir fel cynghorydd dibynadwy i amrywiaeth eang o fusnesau a strwythurau perchnogaeth, o CDPau rhyngwladol, cyrff preifat a chyhoeddus, yn ogystal â busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr a busnesau a reolir gan berchnogion, gan gynnwys busnesau a gefnogir gan ecwiti preifat.

Yn Gymrawd o Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr, ac yn gyfarwyddwr anweithredol arobryn, roedd Dianne yn flaenorol yn rhan o uwch dîm rheoli PricewaterhouseCoopers ym Manceinion, gan roi arweiniad i bortffolio eang o gleientiaid, gyda chyfrifoldeb am Archwilio, Rheoli Risg yn ogystal â Gwasanaethau Trafodion M&A .

Ar hyn o bryd mae Dianne yn cyfuno portffolio o rolau anweithredol y prif fwrdd, ac mae Dianne hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn Inspired plc, yn Gadeirydd Pwyllgor Tâl Victorian Plumbing PLC ac yn Uwch Gyfarwyddwr anweithredol Annibynnol Grŵp Scott Bader.

Dianne yw Cadeirydd Bwrdd J&L Elevator Components Ltd, busnes sy’n eiddo i’r gweithwyr yn Llanelwy, Gogledd Cymru. Tan yn ddiweddar, bu hefyd yn aelod anweithredol o Gydbwyllgor Archwilio Heddlu Gogledd Cymru.

Mae gan Dianne radd anrhydedd deuol dosbarth cyntaf mewn Economeg, Cyfrifeg a Rheolaeth Ariannol o Brifysgol Sheffield. Yn ddiweddar dyfarnwyd Gwobr Cyfarwyddwr Anweithredol y Flwyddyn y Sunday Times iddi ac mae hefyd yn cyfrannu’n rheolaidd at drafodaethau panel ar faterion llywodraethu’r Bwrdd.

Yn ogystal â’i chyfrifoldebau proffesiynol, mae Dianne yn chwarae rhan flaenllaw mewn sawl prosiect gwirfoddol a chymunedol yn Swydd Gaer, lle mae’n byw gyda’i theulu.