Gwobrau Gofal Cymru

Rydym yn falch o fod yn noddwyr arian Gwobrau Gofal Cymru ar 18 Hydref.

Mae'r digwyddiad hwn yn denu 450 o fynychwyr o'r sector gofal bob blwyddyn ac mae'n achlysur i gydnabod ymrwymiad i'r diwydiant.

Mae'r sector gofal yn un o'r sectorau sylfaen a gefnogir gan Gynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru. Mae'r Banc Datblygu yn cefnogi busnesau sydd â phwrpas cymdeithasol gan eu bod yn chwarae rhan bwysig wrth dyfu ein heconomi, lledaenu cyfleoedd a hyrwyddo lles.

Bydd y Gwobrau'n cael eu cyflwyno mewn tri chategori - aur, arian ac efydd - ac maen nhw'n rhan bwysig o godi proffil gweithwyr gofal. Mae hefyd yn gyfle gwych i rwydweithio â chyd-staff y sector gofal.

Canfyddwch fwy yn fan hyn.

Pwy sy'n dod