Swyddog portffolio (micro fenthyciadau)

Rydym am recriwtio swyddog portffolio (micro fenthyciadau) wedi'i leoli yng Nghaerdydd.

Pwrpas y swydd

Rheolaeth gyffredinol dros fuddsoddiadau portffolio Banc Datblygu Cymru a wnaed gan Dîm y Gronfa Micro Fenthyciadau. Trwy fonitro buddsoddiadau benthyciadau portffolio yn rhagweithiol, ceisio lleihau’r risg o golled ariannol a sicrhau’r elw mwyaf posibl o fuddsoddiadau Grŵp BDC.

Bydd angen i ddeiliad y swydd feithrin perthnasoedd gwaith agos yn fewnol a chyda chyflwynwyr busnes allanol a darparwyr gwasanaethau i gynyddu eu gwybodaeth am y farchnad a'u gallu i ddarparu gwerth ychwanegol i gleientiaid portffolio. Bydd dealltwriaeth gynhwysfawr o bortffolio deiliad y swydd yn cael ei chynnal trwy fonitro a chyswllt rheolaidd. Lle nodwyd bod buddsoddiadau naill ai mewn perygl neu â photensial twf sylweddol, dylid croesgyfeirio'n briodol at y tîm portffolio mwyaf priodol neu ddarparwyr allanol.

Bydd gan ddeiliad y swydd allu rhyngbersonol a datrys problemau datblygedig iawn. Mae sgiliau technegol bancio cryf, sylw i fanylion ac ymagwedd ymarferol ragweithiol hefyd yn rhagofynion hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

  • Monitro'r Portffolio Micro Fenthyciadau, gan gysylltu â chwsmeriaid yn ddyddiol.
  • Cyfrannu at darged ariannol y Tîm Monitro Portffolio, gan chwarae rhan allweddol mewn cynhyrchu bargeinion o'r portffolio.
  • Nodi cyfleoedd ar gyfer cyllid dilynol, cynnal dadansoddiad ariannol a gwneud penderfyniadau masnachol cadarn trwy adroddiadau sancsiynu manwl ar gyfer y rheolwr llinell / cronfa.
  • Cymryd cyfrifoldeb am y portffolio gan sicrhau bod safonau gwasanaeth cwsmeriaid yn cael eu cyflawni tra'n gweithredu'n fasnachol, cefnogi'r cwsmer trwy sefyllfaoedd anodd gan sicrhau adborth amserol i bartïon priodol.
  • Byddwch yn bendant wrth wneud penderfyniadau, gan nodi arwyddion rhybudd cynnar o gwsmeriaid mewn anhawster. Byddwch yn argymell y camau priodol megis gwyliau cyfalaf neu ymyrraeth y tîm risg.
  • Cydgysylltu â darparwyr allanol i drefnu cymorth i gwsmeriaid portffolio. Mynychu digwyddiadau / cyfarfodydd rheolaidd i ehangu rhwydwaith o gysylltiadau busnes.
  • Cydgysylltu â'r timau o fewn y sefydliad ehangach , gan ymdrin ag agweddau cyfreithiol / diogelwch mewn perthynas â'r portffolio.
  • Monitro a choladu data DPA ar gyfer pob cwmni portffolio.
  • Datblygu systemau mewnol i gofnodi a monitro gwybodaeth ar gynnwys portffolio a chwsmeriaid CGGC.
  • Sicrhau bod gofynion rheoliadol sy'n gysylltiedig â rheoliadau Deddf Credyd Defnyddwyr (DCD) yn cael eu cwblhau'n amserol bob amser.
  • Datblygu a gwella enw da’r Banc Datblygu fel darparwr buddsoddi proffesiynol
  • Gweithio gyda Swyddogion Buddsoddi yn y Tîm Micro Fenthyciadau i rannu arferion gorau a cheisio cadw darpariaethau benthyciad o fewn 10%
  • Ymgymryd â dyletswyddau eraill ar sail ad hoc pan fo angen gan y cwmni.
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan dirprwy reolwr y gronfa i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran.

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol

  • Yn meddu ar hunan-gymhelliant â’r gallu i gymryd agwedd ragweithiol a gweithio'n effeithlon heb oruchwyliaeth. Yn gyfforddus wrth ymdrin â gwaith amser-sensitif i gleientiaid.
  • Yn canolbwyntio ar ganlyniadau.
  • Chwaraewr tîm cryf
  • Y gallu i flaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau a chwrdd â thargedau. Cymhelliant ac ymagwedd benderfynol tuag at gwblhau gwaith mewn modd ansoddol.
  • Sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a rhyngbersonol da. Sgiliau datrys problemau cryf.
  • Y gallu i asesu cynigion buddsoddi a llunio cynigion buddsoddi cytbwys
  • Profiad o weithio mewn rôl rheoli perthynas o fewn banc neu amgylchedd ariannol tebyg ac yn arbennig profiad o ddadansoddi gwybodaeth ariannol.
  • Yn llythrennog mewn TG/PC gyda'r gallu i ddefnyddio pecynnau Microsoft Office.
  • Cymhwyster proffesiynol perthnasol neu brofiad diwydiant perthnasol mewn bancio neu gyfrifeg.
  • Trwydded yrru.

Dymunol

  • Siaradwr Cymraeg
  • Ymwybyddiaeth o faterion busnes BBaCh yng Nghymru
  • Agwedd hyblyg tuag at oriau gwaith
  • Sgiliau cyflwyno

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i ein tudalen recriwtio