Beth yw cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru?  

Mae Cartrefi Gwyrdd Cymru yn fenter gan Lywodraeth Cymru, a reolir gan Fanc Datblygu Cymru, a gynlluniwyd i gefnogi perchnogion tai cymwys i wneud gwelliannau ynni effeithlon i'w cartrefi. Mae'r Cynllun yn cynnig cyllid di-log a chymorth arbenigol wedi'i ariannu'n llawn, gan eich helpu i arbed arian ar filiau ynni a lleihau allyriadau carbon.

Rydym yn cynnig cymorth cynhwysfawr i’ch helpu i wneud eich cartref yn fwy ynni-effeithlon, gan gynnwys:

  • Arweiniad arbenigol:
    • Mynediad wedi’i ariannu’n llawn at Gydlynydd Ôl-ffitio i greu asesiad cartref manwl sy’n darparu argymhellion effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio wedi’u teilwra i’ch amgylchiadau unigol.
  • Ariannu hyblyg:
    • Benthyciadau di-log yn amrywio o £1,000 i £25,000 gyda thelerau ad-dalu hyd at 10 mlynedd. Ar gyfer prosiectau mwy, gellir ymestyn telerau.
    • Mwynhewch wyliau ad-dalu 6 mis ymlaen llaw tra bod eich mesurau effeithlonrwydd ynni newydd yn dechrau cyflawni canlyniadau.
  • Cyllid grant:
    • Mynediad at gyllid grant ochr yn ochr â benthyciadau ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni penodol, gan leihau’r treuliau rydych chi wedi talu amdanynt.

 

Sylwch: bydd pob cais yn ddarostyngedig i wiriadau fforddiadwyedd a sgôr credyd.


Sut gall Cartrefi Gwyrdd Cymru eich cefnogi chi?

Mae'n hanfodol eich bod yn cael cyngor ynni cyffredinol yn gyntaf cyn gwneud unrhyw waith ar eich cartref. 

Gall cynlluniau fel NEST Llywodraeth Cymru eich helpu i ddeall eich opsiynau a nodi unrhyw arian grant cyhoeddus presennol y gallech fod yn gymwys i'w gael. 

Gallwch gysylltu â thîm NEST a gweld beth rydych yn gymwys i'w gael drwy ffonio 08088082244.

Gweler y Cwestiynau Cyffredin ar y gwaelod am fanylion llawn ar gysylltu â darparwyr cyngor ynni.

Unwaith y byddwch wedi cael cyngor effeithlonrwydd ynni cyffredinol, gallwch wneud cais am gymorth Cydgysylltydd Ôl-ffitio ac Aseswr wedi'i ariannu'n llawn. Byddant yn cynnal asesiad tŷ cyfan cynhwysfawr o'ch cartref ac yn darparu argymhellion effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio wedi'u teilwra i'ch amgylchiadau unigol. 

Unwaith y byddwch wedi penderfynu ar y gwelliannau effeithlonrwydd ynni yr hoffech eu gwneud, gallwch wedyn wneud cais i ni am becyn ariannu sy'n cynnwys benthyciad di-log ac yn dibynnu ar fesurau sy'n cael eu gosod, grant posibl.

Os bydd eich cais am gyllid yn llwyddiannus, byddwn yn cadarnhau eich pecyn ariannu yn ysgrifenedig, a fydd yn cynnwys swm y benthyciad di-log y byddwn yn ei dalu i chi a manylion unrhyw grantiau sydd ar gael i chi.

Unwaith y byddwch wedi cyfarwyddo'r gosodwr o'ch dewis ac wedi cytuno ar amserlen ar gyfer y gosodiadau, gallwch ofyn am drosglwyddo'r benthyciad di-log yn llawn cyn unrhyw ofynion talu i'r gosodwr. Unwaith y bydd y mesurau effeithlonrwydd ynni wedi'u gosod, gwneir ail drosglwyddiad o unrhyw grant cymwys.

Chi yn unig fydd yn gyfrifol am eich perthynas â'r gosodwr o'ch dewis ac am unrhyw gostau ar gyfer y gosodiad ac sy'n gysylltiedig ag ef. Ni fydd gan Fanc Datblygu Cymru unrhyw berthynas gytundebol â'r gosodwyr.

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun rhaid i'ch tŷ fod wedi'i leoli yng Nghymru, yn eiddo i chi a rhaid iddo fod yn brif breswylfa i chi.

Ni all landlordiaid wneud cais i'r cynllun hwn ar hyn o bryd. 

Bydd pob cais yn ddarostyngedig i wiriadau fforddiadwyedd a sgôr credyd.

Cynllun y gallwch ymddiried ynddo

Er mwyn sicrhau ansawdd, mae Cartrefi Gwyrdd Cymru yn ymgorffori’r gofyniad i gydymffurfio â PAS 2035 ar draws ei strwythur ac amodau trydydd partïon sy’n ymgysylltu ag ef, gan gynnwys Cydlynwyr Ôl-ffitio a gosodwyr.

PAS 2035 yw fframwaith safonau ôl-ffitio trosfwaol y DU. Mae'n manylu ar sut i gynnal ôl-ffitio ynni o ansawdd ar adeiladau domestig presennol, ochr yn ochr â chanllawiau arfer gorau ar gyfer gweithredu mesurau effeithlonrwydd ynni. Fel safon a gefnogir gan y llywodraeth, mae PAS 2035 yn darparu dull trylwyr o sicrhau ansawdd a sicrwydd ar gyfer yr holl waith ôl-ffitio a wneir. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma. 

 

Pa fathau o brosiectau y gellir eu cefnogi?

Gwresogi

  • Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer
  • Pwmp Gwres Ffynhonnell Daear/Dŵr
  • Gwresogyddion storio cadw gwres uchel
  • Boeler biomas neu stôf biomas

Cynhyrchu

  • Solar Thermol
  • Solar PV
  • PV solar gyda dargyfeiriwr solar neu PVT Solar
  • Solar PV gyda storfa batri

Ffabrig

  • Inswleiddio/ Ynysu Wal Solet
  • Inswleiddio to fflat neu ystafell yn y to (o 0mm)
  • Inswleiddio’r atig (yr atig gyntaf)
  • Inswleiddio’r atig (atodol)
  • Inswleiddio Waliau Ceudod
  • Gwydr perfformiad uchel
  • Gosod mesurau atal drafftiau

Rheolyddion

  • Rheolyddion gwresogi a systemau rheoli ynni cartref clyfar

 

Pam ddylech chi wneud eich cartref yn wyrddach? 

Mae gwneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’ch cartref yn cynnig nifer o fanteision i chi a’ch cartref:

  • Helpu i leihau biliau ynni: Trwy roi mesurau arbed ynni ar waith, gall y rhain helpu i leihau eich defnydd o ynni a gwastraff, gan arwain at filiau ynni llai bob mis. 

  • Bydd yn helpu i wella cysur a chyfforddusrwydd: Gall gwelliannau ynni helpu i gadw'ch cartref yn gynhesach yn y gaeaf, gan gynyddu lefelau cysur cyffredinol. 
  • Bydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr hinsawdd: Gall uwchraddio effeithlonrwydd ynni eich cartref gyfrannu'n uniongyrchol at leihau eich ôl troed carbon a chefnogi ymdrechion newid hinsawdd cadarnhaol. 
  • Bydd yn helpu tuag at gynyddu gwerth eich eiddo: Mae cartrefi ynni-effeithlon yn fwy deniadol i ddarpar brynwyr, gan gynyddu gwerth marchnad eich eiddo o bosibl.


Sut alla’ i wneud cais?

Bydd ceisiadau ar gyfer y cynllun yn agor yn yr hydref. Os hoffech gael gwybod yn ei gylch unwaith y bydd y ceisiadau yn fyw, gallwch gofrestru eich diddordeb.

Cofrestrwch eich diddordeb

Cwestiynau Cyffredin Cartrefi Gwyrdd Cymru

Cyn gwneud cais i gynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru, mae'n hanfodol ceisio cyngor cyffredinol ar yr opsiynau sydd ar gael i chi. Mae'r cam hwn yn hanfodol ar gyfer nodi unrhyw gymorth presennol y gallech fod yn gymwys i'w gael gan gynlluniau a ariennir yn gyhoeddus.

Gallwch siarad yn uniongyrchol ag arbenigwr cyngor ynni trwy gynllun NEST Llywodraeth Cymru sy'n darparu cyngor diduedd am ddim i holl berchnogion tai yng Nghymru.

Gallwch gysylltu â thîm NEST heddiw i weld beth rydych yn gymwys ar ei gyfer drwy ffonio 08088082244 (llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9yb i 6yh).

Mae yna hefyd arbenigwyr eraill y gallech fod am roi cynnig arnynt am wybodaeth a chyngor:

Gweithredu ar Hinsawdd Cymru

Ymddiriedolaeth Arbed Ynni 

Cyngor ar Bopeth Cynhesu Cymru

Gallwch hefyd gysylltu â'ch awdurdod lleol.

Fel arall, os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol ynghylch cael cyngor, anfonwch e-bost at y tîm Cartrefi Gwyrdd Cymru.

Rhaid i'r tŷ fod wedi'i leoli yng Nghymru a rhaid iddo fod yn brif breswylfa i chi.

Oes. Mae Cartrefi Gwyrdd Cymru yn darparu cyllid ar gyfer perchen-feddianwyr yn unig i ymgymryd â mesurau effeithlonrwydd ynni ar eu prif breswylfa. Sylwch: ni all landlordiaid wneud cais i’r cynllun hwn ar hyn o bryd.

Ôl-ffitio cartref yw'r broses o wneud gwelliannau ac uwchraddio i'ch cartref fel ei fod yn dod yn fwy ynni-effeithlon gyda llai o allyriadau.

Bydd rhestr o gydlynwyr ôl-ffitio sydd wedi’u dilysu ymlaen llaw ar gael ar wefan Cartrefi Gwyrdd Cymru unwaith y caiff y cynllun ei lansio yn nhymor yr hydref. Byddwch yn gallu dewis cydlynydd ôl-ffitio o'r rhestr hon i weithio gyda nhw i gwblhau asesiad ynni cartref.

Na. Mae Cartrefi Gwyrdd Cymru yn cynnig pecyn cyllid sy'n darparu cyllid grant mewn rhai amgylchiadau. Ni ellir cael mynediad at y grant ar ei ben ei hun.

Bydd grantiau ar gael i gefnogi rhai mesurau lle mae mwy o effaith carbon neu fel rhan o becyn o fesurau cymorth. Bydd rhestr lawn o'r dyraniadau grant ar gael cyn lansio'r cynllun yn yr hydref.

Unwaith y byddwch wedi penderfynu pa fesurau yr ydych am eu cymryd bydd angen i chi siarad â gosodwr achrededig a chael dyfynbris am y gwaith. Ar gyfer unrhyw osodiad technoleg carbon isel h.y. paneli solar neu bwmp gwres bydd angen i chi ddefnyddio gosodwr achrededig Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (a adwaenir fel yr MCS). Ar gyfer pob gwaith arall bydd angen i chi ymgysylltu â gosodwr cofrestredig TrustMark/Marc Ansawdd.

Bydd ceisiadau ar gyfer Cartrefi Gwyrdd Cymru yn agor yn yr hydref. Bydd y cynllun ar gael ar sail y cyntaf i'r felin yn ddarostyngedig i argaeledd cyllid.

Gallwch. Os ydych wedi ad-dalu'ch benthyciad cyntaf yn llawn gallwch wneud cais am gyllid pellach i ymgymryd â mesurau effeithlonrwydd ynni newydd.