Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

 

Rydym yn fuddsoddwr effaith gyda phwrpas cymdeithasol.

Rydym yn cefnogi ffyniant ar draws pob sector a rhanbarth yng Nghymru, gan ddod ag uchelgeisiau yn fyw a hybu posibiliadau i bobl, busnesau a chymunedau. Ein cyfrifoldeb cynhenid ni yw deall y rhwystrau a wynebir gan wahanol grwpiau ac ystyried ffyrdd o sicrhau bod cyfle economaidd ar gael i bawb. Mae hyn yn helpu i adeiladu economi amrywiol a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol, gan wneud Cymru yn lle gwell fyth i fyw a gweithio ynddo.

Rydym yn cydnabod bod rhai o’n cwsmeriaid a’n cydweithwyr yn wynebu rhwystrau lluosog wrth geisio cael gafael ar gyllid ac yn y gweithle yn y drefn honno. Rydym yn ceisio nodi a mynd i'r afael â'r rhwystrau hynny'n barhaus, gan gynnwys drwy wella ein dealltwriaeth ein hunain o faterion croestoriad.

Gallwch ddarganfod mwy am ein hymagwedd at amrywiaeth a chynhwysiant trwy ein cydweithwyr a'n cwsmeriaid gan ddefnyddio'r dolenni isod.

 

Cydweithwyr

Dysgwch fwy am amrywiaeth ein staff a’r camau rydym yn eu cymryd i ddod yn fwy cynhwysol.

Darganfod mwy

Cwsmeriaid

Dewch i weld sut rydym yn cefnogi pob rhanbarth a chymuned yng Nghymru fel rhan o'n buddsoddiadau parhaus.

Darganfod mwy