Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Cynhadledd Blas Cymru - Llandudno

Mae Cynhadledd gyntaf Bwyd a Diod Cymru, Blas Cymru/Taste Wales, yn cynnwys seminarau ymarferol, gweithdai diwydiant, paneli arbenigol, a chymorthfeydd arbenigol ynghyd â chyfle i ddarganfod y gyfres lawn o gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.

Bydd gennym stondin yn y digwyddiad lle gallwch chi sgwrsio ag un o'n swyddogion gweithredol am eich anghenion busnes. Yn ogystal, bydd ein tîm ar y panel yn arddangos y cymorth y gall y Banc Datblygu ei roi i fusnesau ledled Cymru. Byddwn hefyd yn cynnig sesiynau un-i-un drwy gydol y dydd i drafod unrhyw ymholiadau sydd gennych.

Gallwch ddarganfod mwy am y digwyddiad yma.

Pwy sy'n dod