Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Swyddog Buddsoddi AIE

Rydyn ni'n bwriadu recriwtio Swyddog Buddsoddi AIE.

Pwrpas y swydd

Mae’r swyddog gweithredol buddsoddi yn gyfrifol am ganfod ac arfarnu ceisiadau am fuddsoddiadau o gronfeydd buddsoddi Banc Datblygu Cymru, gan chwilio’r farchnad cyfalaf datblygu a chyfnod cynnar. Gwneir buddsoddiadau o dan delerau masnachol ac yn unol â’r meini prawf buddsoddi a bennir gan y Banc Datblygu. Gellir strwythuro buddsoddiadau i ecwiti, benthyciadau neu gyllid mesanîn neu gyfuniad o’r uchod a chânt eu targedu at gwmnïau sy’n seiliedig ar dechnoleg, sy’n gyfoethog o ran IP neu sy’n tyfu’n gyflym.

Mae’r Swyddog Gweithredol Buddsoddiadau Sbarduno Technoleg hefyd yn gyfrifol am fonitro, datblygu a gwireddu ei bortffolio buddsoddi. 

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

  • Cyfrannu at weithredu’r Banc Datblygu fel cwmni rheoli cronfeydd proffesiynol a darparwr cyfalaf risg i fusnesau newydd a busnesau sy’n bodoli eisoes, yn unol â thelerau cymeradwyo Llywodraeth Cymru a Chronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF)
  • Canfod, arfarnu ac argymell cynigion buddsoddi o safon uchel i’r uwch weithredwr buddsoddi, y cyfarwyddwr buddsoddi neu’r pwyllgor buddsoddi, lle mae’r buddsoddiad arfaethedig yn bodloni meini prawf y gronfa sbarduno technoleg a sefydlwyd gan Fanc Datblygu Cymru FM Ltd
  • Cynnal diwydrwydd dyladwy trwyadl a chadarn o ran rheoli, ariannol, IP a masnachol wrth ystyried cyfleoedd buddsoddi ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â phob buddsoddiad
    Negodi telerau ac amodau i sicrhau’r strwythurau buddsoddi gorau posibl ar gyfer pob buddsoddiad mewn teledu
  • Rheoli’r gwaith o ddatblygu a chwblhau’r holl ddogfennau cyfreithiol angenrheidiol drwy gydol y broses fuddsoddi, yn unol â phrosesau a dogfennau cyfreithiol safonol y Banciau Datblygu
  • Monitro eu portffolio Buddsoddiadau Sbarduno Technoleg perthnasol, gan fynychu byrddau fel arsylwr a hwyluso penodi Cyfarwyddwyr Anweithredol a chryfhau’r timau gweithredol yn ôl yr angen. Lle bo’n briodol, rhoi buddsoddiad dilynol mewn cwmnïau portffolio ar ôl cyflawni cerrig milltir critigol a gynlluniwyd
  • Datblygu perthynas â chyd-fuddsoddwyr i sicrhau buddsoddiad amserol a pherthnasol gan drydydd partïon addas ar gyfer buddsoddiadau newydd a dilynol
  • Arwain a dylanwadu ar gwmnïau portffolio i gyflawni strategaeth ymadael broffidiol ac amserol yn unol â model masnachol y gronfa
  • Lledaenu enghreifftiau o arfer gorau ar gyfer gwneud cais i’r gronfa i gyflwynwyr busnes allweddol a sicrhau bod y broses ymgeisio’n cael ei mireinio a’i gwella’n barhaus er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i gleientiaid
  • Datblygu a chynnal cysylltiadau a rhwydweithiau gyda darparwyr busnes allweddol a chyfryngwyr i ddod o hyd i gyfleoedd buddsoddi addas
  • Cymryd rhan a chynrychioli’r Banc Datblygu, lle bo hynny’n briodol, mewn cyfarfodydd, seminarau, digwyddiadau a gweithgareddau grŵp ar y cyd
  • Gweithredu un unol â chyfyngiadau awdurdod dirprwyedig a Chanllawiau Gweithredol Buddsoddi
  • Cyfrannu at y gwaith o farchnata/hyrwyddo’r Banc Datblygu
  • Cyfrannu at gyflawni nodau diffiniedig ac allbynnau’r gronfa yn unol â chynlluniau busnes perthnasol y gronfa
  • Cynnal a datblygu gwybodaeth dechnegol sy’n benodol i’r diwydiant er mwyn sicrhau arferion gorau a chydymffurfiad mewn gweithgareddau buddsoddi
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan reolwr y gronfa i fodloni anghenion gweithredol y gronfa, gan sicrhau y cynhelir ymddiriedaeth a hyder buddsoddwyr y Cwmni bob amser.

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad 

Hanfodol

  • Profiad blaenorol o gyfalaf menter, cyllid trosoledd neu gyllid corfforaethol
  • Dealltwriaeth o’r holl agweddau sy’n ymwneud â buddsoddi ecwiti naill ai yng nghyfnod cynnar y broses o fuddsoddi neu’n hwyrach ymlaen
  • Profiad o fuddsoddi ar y cyd mewn partneriaeth ag Angylion Busnes, Buddsoddwyr Sefydliadol, a Chronfeydd Sbarduno Corfforaethol.
  • Profiad amlwg o reoli portffolio buddsoddi, yn ddelfrydol gyda hanes o strategaeth ymadael lwyddiannus  
  • Arbenigedd amlwg mewn sectorau technoleg ddatblygol allweddol a gwybodaeth amdanynt, yn ddelfrydol, gyda dealltwriaeth fanwl o un o’r sectorau TGCh ehangach gan gynnwys – SAAS, cyfryngau digidol, telegyfathrebu, IOT, dadansoddeg data, meddalwedd diogelwch.
  • Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a dylanwadu cadarn
  • Gallu gweithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm
  • Hyderus yn ei sgiliau gwneud penderfyniadau ei hun
  • Gallu blaenoriaethu a threfnu gwaith o dan bwysau 
  • Dealltwriaeth o’r broses trosglwyddo technoleg a masnacheiddio IP
  • Sgiliau dadansoddi ac arfarnu ariannol cryf.
  • Sgiliau TG gan gynnwys y gallu i ddefnyddio Microsoft Word, Excel, system CRM

Dymunol 

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl y sector cyhoeddus o ran cyllid ar gyfer busnesau bach a chanolig
  • Dealltwriaeth o’r amgylchedd busnes rhanbarthol 
  • Sgiliau cyflwyno ardderchog
  • Siarad Cymraeg
  • Trwydded Yrru