Trafodydd Achosion - Cymorth i Brynu Cymru

Rydyn ni'n bwriadu recriwtio Trafodydd Achosion a fydd yn seiliedig yn Wrecsam neu yn Nghaerdydd.

Pwrpas y swydd

Sicrhau bod y lefel uchaf o reolaeth achosion a chymorth gweinyddol yn cael ei ddarparu ar gyfer pob agwedd o weithgaredd Cymorth i Brynu - Cymru (“CiBC”) yn effeithlon ac yn broffesiynol.

Darparu cefnogaeth weithredol arbenigol wrth gyflawni datblygiad parhaus a swyddogaethau o ddydd i ddydd CiBC.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

Wrth weithio i'r tîm Cyn-Gwerthu o fewn CiBC, bydd gofyn i chi fod yn drafodydd achos effeithiol a darparu cefnogaeth gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r hyn a ganlyn:

  • Fel aelod rhagweithiol o'r adran, bydd disgwyl i chi drin a rheoli nifer fawr o achosion ar yr un pryd er mwyn sicrhau bod yr holl Gytundebau Lefel Gwasanaeth (CLG) rheoleiddiol a mewnol yn cael eu bodloni a bod cwsmeriaid yn cael eu hysbysu drwy amrywiol sianelau cyfathrebu.
  • Bod yn gyfrifol am ymdrin ag achosion ceisiadau manwl iawn gan brynwyr newydd a phresennol o'r adeg y derbyniwyd y cais yn y lle cyntaf hyd at y cyfnewidiad cyfreithiol a chwblhad y benthyciad ecwiti a rennir.
  • Yn benodol, darparu lefel uchel o wasanaeth i gwsmeriaid a chefnogaeth i brynwyr trwy feithrin perthynas â Chynghorwyr Ariannol Annibynnol (CAA) a Thrawsgludwyr i sicrhau bod profiad y prynwr o brynu eu heiddo un esmwyth a di-dor.
  • Bod yn gyfrifol am wirio’r dogfennau cyfreithiol gofynnol i gefnogi'r broses gyfnewid a chwblhau'r eiddo yn gyfreithiol. Bydd hyn yn cynnwys - adolygu'r cynigion am forgais i sicrhau bod y cynnyrch a gynigir yn cyd-fynd â meini prawf y cynllun ar gyfer CiBC. Sicrhau bod y prisiadau a dderbyniwyd yn adlewyrchu'r eiddo y gwnaed cais amdano ac y cedwir at y telerau cywir gan yr adeiladwyr sydd wedi'u cofrestru ar gyfer y cynllun.
  • Cynnal gwiriadau yn gywir ar geisiadau, a chadw llygad graff am fanylion, er mwyn gwneud asesiad ac ymateb i gleientiaid yn ffurfiol, gan ofyn am wybodaeth bellach os oes angen.
  • Deall ac asesu adroddiadau credyd ar ôl eu derbyn a chofrestru ceisiadau a dilysu dogfennau craidd sy'n ymwneud â chyflogaeth / hunangyflogaeth a slipiau cyflog.
  • Cadw at yr holl amseroedd ymateb Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) / CLG wrth brosesu'r dogfennau trawsgludo cyfreithiol a dderbyniwyd ar gyfer eich achosion, fel y'u pennwyd ac y cytunwyd arnynt gyda Llywodraeth Cymru ac fel y’u nodir yng nghytundeb rheoli'r gronfa.
  • Bod yn ymwybodol o reoliadau Gwarchod Data Cyffredinol (GDPR), arsylwi a gweithredu'r holl ganllawiau a chymryd perchnogaeth dros unrhyw gwynion sensitif i GDPR hyd at ddatrysiad boddhaol.
  • Bod yn atebol yn rhagweithiol a rheoli llwythi achosion unigol presennol i sicrhau bod yr holl ddogfennaeth ofynnol yn cael ei dilyn yn unol â dyddiadau cwblhau prynwyr gwybodus.
  • Cysylltu'n rhagweithiol gydag adeiladwyr sydd wedi'u cofrestru ar y cynllun i sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw'n drylwyr ar gyfer achosion nad ydynt bellach yn cymryd rhan, ochr yn ochr â ffigurau rhagolygon diwygiedig yn unol â’r disgwyliadau sydd yn berthnasol i’r gwaith adeiladu.
  • Chwarae rôl allweddol wrth adolygu a datblygu prosesau cyfredol.
  • Sicrhau bod y meysydd gwybodaeth gofynnol yn cael eu cynnal a'u cwblhau, gan ddefnyddio adroddiadau unigol yn rhagweithiol, i sicrhau bod yr holl feysydd gorfodol wedi'u diweddaru.
  • Dangos ymwybyddiaeth lawn a monitro statws presennol eich achosion byw a rhai yn yr arfaeth yn rhagweithiol trwy gynhyrchu adroddiadau trylwyr a diweddaru cofnodion yn unol â hynny i sicrhau bod lefelau cywirdeb yn cael eu cynnal ar y system rheoli cofnodion cleientiaid (RhCC), gan adrodd yn ôl i reolwr y gronfa gydag unrhyw broblemau.
  • Darparu gwasanaeth cywir, cwrtais, brwdfrydig a phroffesiynol i'r holl randdeiliaid allanol a mewnol ac ymateb yn unol â hynny i'r holl ymholiadau a dderbynnir drwy'r wefan, e-bost a ffôn.
  • Cadw cofnodion ar statws ymgeiswyr ar y system RhCC yn gyfredol fel y gall cydweithwyr godi achosion os oes angen.
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan reolwr y gronfa i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol

  • Y gallu i weithio'n dda dan bwysau i gyrraedd targedau a therfynau amser tynn
  • Profiad o ateb ac ymdrin ag ymholiadau dros y ffôn
  • Cywirdeb ardderchog a sylw craff am fanylion
  • Cynnal moeseg gwaith proffesiynol bob amser
  • Rhaid i chi fod yn drefnus ac yn gallu rheoli eich llwyth gwaith eich hun yn effeithiol
  • Profiad gweinyddol blaenorol - Hanfodol
  • Ymagwedd ymrwymedig ragweithiol tuag at gymryd perchnogaeth dros hunanddatblygiad
  • Yn gallu dangos dull ffôn hyderus a darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ysgrifenedig a llafar cryf
  • Yn meddu ar hunan-gymhelliant gyda'r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • Hyderus yn eich sgiliau gwneud penderfyniadau eich hun
  • Wedi'ch addysgu hyd at addysg gyffredinol o safon dda - TGAU, NVQ Lefel 2/3 neu safon gyfatebol
  • Yn brofiadol ac yn fedrus mewn cymwysiadau TG / PC safonol gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, Outlook.

Dymunol

  • Siaradwr Cymraeg
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r fenter Cymorth i Brynu - Cymru
  • Gwybodaeth / profiad o brosesu ceisiadau am forgeisi a benthyciadau ecwiti a rennir
  • Profiad blaenorol o sefyllfaoedd trin achosion
  • Profiad o ddadansoddi gwybodaeth ariannol gan gynnwys slipiau cyflog a chyfrifon diwedd blwyddyn.

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i ein tudalen recriwtio