Rheolwr Caffael a Chontractau

Rydyn ni’n recriwtio Rheolwr Caffael a Chontractau sy’n gweithio o Gaerdydd neu Wrecsam

Crynodeb o’r swydd

Bydd deiliad y swydd hon yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros ddatblygu a gweithredu’r polisi, y prosesau a’r gweithdrefnau Caffael. Bydd yn sicrhau bod Banc Datblygu Cymru yn parhau i gydymffurfio â rheoliadau caffael y sector cyhoeddus 2015 ac yn parhau i gydymffurfio ag unrhyw reoliadau caffael yn y dyfodol. Ar ben hynny, byddwch yn datblygu Safon Rheoli Cysylltiadau â Chyflenwyr a Chontractau, gan greu llwyfan i Fanc Datblygu Cymru fod yn gleient mwy deallus i’w gyflenwyr, gan wneud y mwyaf o fanteision y berthynas. Bydd dyletswyddau eraill yn cynnwys monitro risg strategol ein Cyflenwyr sy’n Hanfodol i Fusnes, rheoli contractau fframwaith y Grŵp mewn modd gweithredol, yn ogystal â chefnogi prosiectau caffael allweddol ar draws grŵp Banc Datblygu Cymru. Yn ddelfrydol, bydd gennych chi’r profiad a’r cymwysterau perthnasol o rôl rheoli caffael neu gontractau yn y sector cyhoeddus. Yn ogystal, bydd gennych chi sgiliau cyfathrebu gwych; ar bapur ac ar lafar, y gallu i arwain tîm bach yn effeithiol a byddwch yn canolbwyntio ar wella’n barhaus.

Byddwch yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb arweiniol dros y meysydd allweddol canlynol:

  • Caffael
  • Rheoli Contractau

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:

  • Mynd ar drywydd rhagoriaeth ym maes caffael a gwerth am arian drwy weithredu prosesau caffael proffesiynol, effeithlon ac effeithiol i gyflawni nodau strategol, gwelliant parhaus a Chaffael Cyfrifol.
  • Arwain a chynghori ar y cylch bywyd caffael llawn o ddylunio caffael i ddyfarnu contractau ac adborth gan gynigwyr. Ymgymryd â’r broses dendro a diwydrwydd dyladwy lawn, gan gynnwys: arfarniadau ar gyfer darpar gyflenwyr, gwerthuso masnachol ac ariannol, cofnodi’r gofrestr risg, rheoli parhad busnes, creu contractau a darparu gwasanaethau.
  • Bod yn bwynt cyswllt mewnol allweddol ar gyfer pob ymholiad sy’n ymwneud â chaffael a chontractau. Meithrin cysylltiadau cydweithredol effeithiol â rhanddeiliaid i hyrwyddo adran ymatebol, ystwyth a phroffesiynol. Datblygu hyfforddiant a dogfennau mewnol, gan gynnwys polisïau, safonau, nodiadau cyfarwyddyd a gwybodaeth reoli ar gyfer adrodd.
  • Sicrhau bod dogfennau sy’n ymwneud â busnes proffesiynol yn cael eu cyflawni ar gyfer rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Rheoli dogfennau i sicrhau cydymffurfiaeth barhaus â rheoliadau caffael y sector cyhoeddus.
  • Bod yn gyfarwydd â’r ddeddfwriaeth a’r rheoliadau diweddaraf, arferion gorau’r diwydiant ac unrhyw ganllawiau perthnasol eraill.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i adolygu contractau presennol gyda chyflenwyr a gwerthwyr i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ymarferol ac yn cydymffurfio â rheoliadau. Bod yn ganolbwynt ar gyfer Rheoli Cysylltiadau â Chyflenwyr.
  • Rhoi cymorth i’r tîm ar faterion sy’n ymwneud â negodi contractau a chynnal asesiadau risg ar gontractau a chytundebau posibl.
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan y Rheolwr Sicrhau Risg i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran.

Gwybodaeth, Sgiliau, Cymwysterau a Phrofiad

Hanfodol

  • Profiad amlwg o arwain gweithrediadau caffael neu gadwyn gyflenwi
  • Gwybodaeth ymarferol am reoliadau ac arferion caffael y sector cyhoeddus
  • Profiad o ddylunio ac arwain tendrau cystadleuol yn y sector cyhoeddus
  • Sgiliau dadansoddi rhifol cadarn
  • Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a dylanwadu cadarn
  • Gallu dadansoddi sefyllfaoedd neu faterion a chanfod atebion ymarferol o safon
  • Gallu blaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau a bod yn benderfynol er mwyn cwblhau tasgau  mewn modd ansoddol gyda llwyddiant mesuradwy
  • Bod yn drylwyr gyda manylion

Dymunol

  • Profiad cyfreithiol o weithio gyda rheoliadau caffael y sector cyhoeddus
  • Sgiliau cadarn o ran rheoli prosiect
  • Profiad o weithio mewn gwasanaethau ariannol
  • Aelod cymwysedig o CIPS

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.cymru

Dyddiad cau - Awst 22