Swyddog buddsoddi cynorthwyol

Rydyn ni'n bwriadu recriwtio swyddog buddsoddi cynorthwyol a fydd yn seiliedig yn Nghaerdydd. 

Pwrpas y Swydd

Y tîm Buddsoddiadau Newydd sy'n gyfrifol am fuddsoddi’r mwyafrif o gyfanswm y buddsoddiadau a wneir yng Nghymru. Ei fandad yw targedu busnes newydd yn unig, sydd wedyn yn cael ei drosglwyddo ymlaen i un o'r timau portffolio i'w reoli. Mae canfod, gwerthuso a chwblhau ystod eang o drafodion, o £100,000 i £5,000,000, yn hanfodol i'w weithrediad ac i amcanion ehangach grŵp BDC.

Bydd angen i ddeilydd y swydd adeiladu perthynas waith agos yn fewnol a chyda chyflwynwyr busnes allanol a darparwyr gwasanaeth i gynyddu eu gwybodaeth am y farchnad a'r gallu i ddarparu gwerth ychwanegol i gleientiaid posibl. Bydd dealltwriaeth gynhwysfawr o ofynion a blaenoriaethau cwsmeriaid yn allweddol wrth sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a chwrdd â meini prawf buddsoddi Banc Datblygu Cymru.
    
Bydd deilydd y swydd yn meddu ar allu rhyngbersonol a datrys problemau datblygedig. Mae sgiliau technegol bancio cryf, sylw i fanylion ac ymagwedd ragweithiol, ymarferol hefyd yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Byddem yn disgwyl i'r ymgeisydd ddatblygu'n Swyddog Buddsoddi llawn ymhen uchafswm o 3 blynedd.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

  • Cyfrannu at darged ariannol y tîm Buddsoddiadau Newydd, gan chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid amserol a rhagorol.
  • Nodi cyfleoedd ar gyfer ariannu, cyflawni dadansoddiadau ariannol a gwneud penderfyniadau masnachol cadarn trwy gyfrwng adroddiadau sancsiynu manwl ar gyfer y rheolwr llinell / cronfa.
  • Deall ac asesu rhagdybiaethau llif arian sylfaenol a rhoi sylwadau ar y risgiau sy'n gysylltiedig â'r rhain ac awgrymu a dadansoddi’r dadansoddiad sensitifrwydd priodol.
  • Cymryd cyfrifoldeb dros greu cyfamodau a gosod terfynau. Cyd-gysylltu'n agos â'r timau portffolio fel sy'n briodol.
  • Gwerthuso cynigion buddsoddi hyd at £200,000. Gwneir buddsoddiadau o dan delerau masnachol ac yn unol â'r meini prawf a nodir yn y Canllawiau Gweithredu Buddsoddiadau perthnasol.
  • Gweithio gyda Swyddogion Buddsoddi yn y Tîm Buddsoddiadau Newydd i gynorthwyo gyda'r gwaith o asesu a chwblhau diwydrwydd dyladwy ac asesu risgiau sy'n ategol gyda rhai agweddau o bob buddsoddiad. Bydd hyn yn cynnwys cynnal diwydrwydd dyladwy reolaethol, ariannol a masnachol drylwyr a chadarn wrth ystyried cyfleoedd buddsoddi.
  • Paratoi adroddiadau sancisynu ar gyfer sanciswn credyd a chyflwyno'r canfyddiadau i'r Pwyllgor Buddsoddi.
  • Deall yn llawn a bod yn rhan o, drafod telerau masnachol a throsi'r rhain i gyfarwyddiadau cyfreithiol.
  • Cysylltu â darparwyr diwydrwydd dyladwy allanol, cwmpasu aseiniadau gwaith a thrafod gwerth gorau am arian ar gyfer cwsmeriaid.
  • Cymryd cyfrifoldeb dros gwblhau bargeinion dros £500,000, gan sicrhau bod safonau gwasanaeth cwsmeriaid yn cael eu cyflawni tra'n gweithredu'n gefnogol i'r cwsmer yn fasnachol trwy sefyllfaoedd anodd gan sicrhau bod adborth amserol yn cael ei roi i bartïon priodol a bod y gofynion ar gyfer arwyddo'r holl CPau wedi cael eu diwallu.
  • Bod yn benderfynol wrth wneud penderfyniadau, cymryd cyfrifoldeb personol a bod yn barod i gael sgwrs anodd gyda chleientiaid.
  • Ymgysylltu â'r timau o fewn y sefydliad ehangach, gan ymdrin ag agweddau cyfreithiol / diogelwch, a chymryd cyfrifoldeb amdanynt.
  • Cynnal a datblygu gwybodaeth am y diwydiant a deall arfer gorau mewn gweithgarwch buddsoddi.
  • Cymryd rhan a lle bo hynny'n briodol, cynrychioli buddsoddiadau'r Banc Datblygu mewn cyfarfodydd, seminarau, digwyddiadau a gweithgareddau ar y cyd.
  • Cyfrannu at farchnata / hyrwyddo'r Banc Datblygu.
  • Datblygu a gwella enw da'r Banc Datblygu fel darparwr buddsoddi proffesiynol,
  • Unrhyw dasg fel y'i diffinnir gan Reolwr y Gronfa i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran. 

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol

  • Yn meddu ar hunan gymhelliant gyda'r gallu i gymryd ymagwedd ragweithiol a gweithio'n effeithlon heb oruchwyliaeth. Yn gyfforddus wrth ymdrin â gwaith hanfodol i gleientiaid sy'n sensitif i amser.
  • Dealltwriaeth o wybodaeth ariannol a dadansoddi
  • Y gallu i ganolbwyntio ar ganlyniadau.
  • Chwaraewr tîm cryf
  • Y gallu i flaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau a chwrdd â thargedau. Yn meddu ar yr awydd ac agwedd benderfynol i gwblhau gwaith mewn modd ansoddol.
  • Sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a rhyngbersonol da. Sgiliau datrys problemau cryf.
  • Profiad blaenorol o baratoi adroddiadau credyd
  • Dealltwriaeth o brosesau asesu risg a buddsoddi
  • Hyderus yn eich gallu eich hun i wneud penderfyniadau
  • Y gallu i asesu cynigion buddsoddi a chynnal diwydrwydd dyladwy.
  • Sgiliau ysgrifennu adroddiadau ardderchog.
  • Profiad o weithio mewn rôl rheoli perthynas o fewn banc neu amgylchedd ariannol tebyg ac yn benodol profiad o ddadansoddi gwybodaeth ariannol.
  • Llythrennog mewn TG / PC gyda'r gallu i ddefnyddio pecynnau Microsoft Office.
  • Cymhwyster proffesiynol perthnasol neu brofiad perthnasol yn y diwydiant mewn bancio neu gyfrifeg. 


Dymunol

  • Profiad mewn banc / ariannu
  • Profiad o fuddsoddi / fenthyg arian i BBaCh
  • Dealltwriaeth o rôl y sector gyhoeddus mewn cyllid BBaCh 
  • Dealltwriaeth o amgylchedd busnes rhanbarthol
  • Y gallu i siarad Cymraeg
  • Trwydded yrru
  • Llythrennog mewn TG gan gynnwys defnyddio Word, Excel, Powerpoint, Sage Winforecast

Y dyddiad cau yw'r 7ain o Mehefin.

I wneud cais anfonwch eich ffurflen gais at: recriwtio@bancdatblygu.cymru

Ffurflen gais