Uwch Weinyddydd Cyfleusterau

Rydym am benodi Uwch Weinyddydd Cyfleusterau yn seiliedig yng Nghaerdydd

Pwrpas y swydd

Rydym yn fanc datblygu sy'n rhoi potensial Cymru wrth wraidd ein penderfyniadau. Rydym yn ariannu busnesau a fydd yn cyfrannu’n ariannol, yn gymdeithasol, yn foesegol ac yn amgylcheddol i’n cymunedau ac i’r byd ehangach. Bob dydd, rydym yn tanio posibiliadau a dod ag uchelgeisiau yn fyw.

Rydym hefyd yn gweithredu yng Ngogledd Lloegr fel FW Capital, gan arbenigo mewn cyllid BBaChau.

Rydym yn gweithredu o 12 lleoliad swyddfa ledled Cymru a Lloegr, gyda'r tîm cyfleusterau wedi'u lleoli'n bennaf yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, sef y mwyaf o blith ein swyddfeydd.

Mae'r Uwch Weinyddydd Cyfleusterau yn darparu cyfleusterau, iechyd a diogelwch a gwasanaethau cymorth gweinyddol i Fanc Datblygu Cymru a'r Grŵp. Mae’r dyletswyddau’n cynnwys gweithio gyda chontractwyr a chyflenwyr i ddarparu gwasanaethau rheoli cyfleusterau ar gyfer Caerdydd a swyddfeydd eraill yn ôl yr angen, delio â cheisiadau cymorth cyfleusterau mewnol, cyflawni tasgau iechyd a diogelwch, cymorth cyntaf a diogelwch tân, agweddau cyffredinol ar reoli cyfleusterau, gweinyddu swyddfa a chyflenwi yn achlysurol ar gyfer gwasanaethau blaen tŷ.

Mae hon yn rôl sy’n seiliedig ar y safle sy'n gofyn am bresenoldeb yn swyddfa Caerdydd. Mae'n bosibl gweithio gartref o bryd i'w gilydd ond mae’n rhaid i hyn gyd-fynd ag anghenion y busnes.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau 

Gwasanaethau

Sicrhau bod swyddfa Caerdydd yn cael ei rhedeg yn effeithlon o ddydd i ddydd, gan ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda phob adran.

  • Cefnogi defnyddwyr i ddefnyddio ystafelloedd cyfarfod MS Teams ac offer clyweledol.
  • Cefnogi defnyddwyr a rheoli cyfleusterau, adnoddau ac offer meddalwedd rheoli teithio. 
  • Cydlynu a delio â cheisiadau am gymorth cyfleusterau i gael datrysiad boddhaol ac yn unol â Chytundebau Lefel Gwasanaeth (CLG).
  • Cynnal cofnodion cywir a chyfredol, gan ddarparu gwybodaeth ac adroddiadau yn ymwneud â gweithrediadau cyfleusterau.
  • Cyflenwi ar gyfer gweinyddwyr cyfleusterau a derbynfa blaen y tŷ.

Adeiladau / Eiddo

  • Ymdrin â landlordiaid yng Nghaerdydd a swyddfeydd eraill yn ôl yr angen, gan weithio gyda'u timau ar bob agwedd ar reoli cyfleusterau a'r amgylchedd gwaith.
  • Rheoli gwasanaethau cyfleusterau allanol o ddydd i ddydd ee glanhau, rhwygo / gwaredu â dogfennau.
  • Rheoli a threfnu tasgau cynnal a chadw cynlluniedig ac adweithiol ar gyfer swyddfa Caerdydd a swyddfeydd eraill yn ôl yr angen.
  • Sicrhau bod offer ac adnoddau swyddfa yn gweithio, gan ymchwilio i ddiffygion a darparu datrysiadau.
  • Cefnogi'r gwaith o symud swyddfeydd a phrosiectau adnewyddu.
  • Cefnogi rheolaeth prydlesi a thrwyddedau swyddfa.

Contractau / Cyflenwyr / Pwrcasu

  • Rheoli a phrosesu archebion prynu, anfonebau a thaliadau cardiau credyd o fewn cylch awdurdod dirprwyedig, gan ymdrin ag ymholiadau cyflenwyr neu gontractwyr.
  • Cefnogi caffael a rheoli contractau cyflenwyr.
  • Prynu offer swyddfa, adnoddau a nwyddau traul o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod lefelau stoc yn cael eu rheoli'n effeithlon.

Iechyd a diogelwch

  • Cydlynu a chyflawni tasgau angenrheidiol i gefnogi cydymffurfiaeth â gofynion statudol iechyd a diogelwch.
  • Cefnogi gweinyddiaeth asesiadau risg contractwyr, datganiadau dull a thrwyddedau i weithio.
  • Darparu cefnogaeth i gydweithwyr a chynnal sesiynau sefydlu i ddechreuwyr newydd, Offer Sgrin Arddangos (OSA), gweithio ar eich pen eich hun ac asesiadau Iechyd a Diogelwch eraill.
  • Cydlynu a chefnogi trefniadau warden tân a chymorth cyntaf.

Cynaliadwyedd

  • Cefnogi gweithgareddau cynaliadwyedd y grŵp gan gynnwys cyfrannu at adrodd ar gynaliadwyedd, a hyrwyddo arferion cynaliadwy o fewn amgylchedd y swyddfa.

Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan y Rheolwr Grŵp Cyfleusterau i gwrdd ag anghenion gweithredol yr adran.

Gwybodaeth, Sgiliau, Galluoedd a Phrofiad

Hanfodol

  • Profiad perthnasol mewn rôl cyfleusterau mewn amgylchedd swyddfa prysur.
  • Y gallu i ddatrys problemau a darparu atebion cadarnhaol o ansawdd uchel.
  • Sgiliau cyfathrebu gwych wyneb yn wyneb a thros y ffôn / galwadau fideo.
  • Agwedd hyblyg gyda chapasiti i ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau gan weithio ar draws pob agwedd ar y tîm Cyfleusterau ehangach yn ôl yr angen.
  • Sgiliau gweinyddol a threfnu rhagorol gyda'r gallu i flaenoriaethu a chyflawni tasgau mewn amgylchedd pwysau uchel.
  • Rhaid gallu gweithio fel rhan o dîm bach ond hefyd ar eich menter eich hun.
  • Diddordeb brwd mewn iechyd a diogelwch, lles a diwylliant swyddfa.
  • Diddordeb brwd mewn datblygu ym maes rheoli cyfleusterau.
  • Sgiliau TG da gyda'r gallu i addasu i feddalwedd a systemau newydd, yn hyfedr wrth ddefnyddio pecynnau Microsoft Office gan gynnwys MS Teams.
  • Lefel TGAU gan gynnwys Saesneg a Mathemateg.

Dymunol

  • Yn gallu siarad Cymraeg.
  • Hyfforddwyd fel swyddog cymorth cyntaf a / neu warden tân.
  • Hyfforddiant neu brofiad iechyd a diogelwch (IOSH neu gyfwerth).

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, dilynwch y ddolen yma os gwelwch yn dda