Ar goll? Wedi drysu? Rhwystredig? Gall llywio'r dirwedd fuddsoddi fel cwmni technoleg newydd fod yn frawychus. Nid yw sicrhau cyllid yn ymwneud â dim ond cael syniad gwych - mae hefyd yn ymwneud â deall beth mae buddsoddwr yn ei werthfawrogi fwyaf. Er bod gwerthuso cwmnïau newydd yn aml yn cael ei ystyried yn fwy o gelfyddyd nag yn wyddoniaeth, mae'r rhan fwyaf o fuddsoddwyr yn chwilio am set graidd o feini prawf wrth asesu potensial cwmni newydd. Gall gwybod a mynd i'r afael â'r rhain yn fwriadol wella'ch siawns o sicrhau'r buddsoddiad sydd ei angen arnoch yn sylweddol.
Mae'r canllaw hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu chi. Nid rhestr wirio gynhwysfawr na set anhyblyg o ofynion mohoni, ond yn hytrach trosolwg ymarferol o'r hyn y mae buddsoddwyr fel arfer yn ei ystyried wrth werthuso cwmnïau technoleg sy’n dechrau o’r newydd.
Rhinweddau cwmni technoleg sy’n dechrau o’r newydd y gellir buddsoddi ynddo
1. Mae’n datrys problem fawr gyda chwsmeriaid
Yn ôl CB Insights, y prif reswm pam mae busnesau newydd yn methu yw diffyg angen yn y farchnad. Mae'n bwysig nid yn unig bod y busnes yn datrys problem i gwsmeriaid, ond problem gref hefyd. Wedi'i fesur ar raddfa o 1-10, lle mae 10 yn cynrychioli problem ddifrifol ac 1 yn rhyw anghyfleustra bach, anelwch at sgôr o 8 neu uwch. Fodd bynnag, gall fod yn anodd nodi a dilysu'r lefel hon o angen yn gywir.
Mae hyn yn bwysig oherwydd bod cwsmeriaid yn llawer mwy parod i dalu am atebion sy'n datrys problemau hanfodol. Os yw eich cynnyrch yn "rhywbeth braf ei gael", gall eich costau marchnata fod yn uchel iawn am ychydig iawn o gofrestriadau. Gall hyn gynyddu eich cost caffael cwsmeriaid (CCC), sef un o'r metrigau pwysicaf ar gyfer busnesau technoleg. Os yw eich CAC yn rhy uchel, efallai y byddwch yn ei chael hi'n anoddach argyhoeddi buddsoddwyr am hyfywedd eich model busnes.
2. Rhwystrau cryf i fynediad
Fel arfer, buddsoddwyr sefydliadol sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch ble i fuddsoddi arian rhywun arall, boed o gronfeydd pensiwn, cronfeydd buddsoddi, y pwrs cyhoeddus neu unigolion â gwerth net uchel. Dyna pam maen nhw'n chwilio am syniadau busnes sy'n ei gwneud hi'n anodd i gystadleuwyr ymuno a llwyddo yn yr un farchnad.
Gall rhwystrau i fynediad ddod ar sawl ffurf, megis ymwybyddiaeth o frand, sylfaen cwsmeriaid 'gludiog' (lle mae'n annhebygol y bydd eich cwsmeriaid yn newid darparwyr), eiddo deallusol, neu dechnoleg berchnogol. Mae buddsoddwyr eisiau gweld rheswm clir a chynaliadwy sut a pham y bydd eich busnes yn parhau i fod wedi'i ddiogelu dros amser.
3. Tîm rheoli cydlynol
Dyma efallai'r rhan bwysicaf o unrhyw fusnes newydd, oherwydd mae tîm gwych yn bwysicach na syniad gwych. Mae’n well gan fuddsoddwyr gefnogi tîm cryf gyda chysyniad cymedrol na syniad chwyldroadol heb y gallu iawn i’w weithredu.
Wrth adeiladu eich tîm, ystyriwch y tri chwestiwn allweddol hyn:
Oes gennym ni'r sgiliau a'r profiad mewnol i gyflawni??
A yw ein cysylltiadau â'r diwydiant yn ddigon cryf i ddatgloi ein llawn botensial?
Ydyn ni i gyd yn unedig ac wedi ymrwymo i fod ar y daith hon?
4. Arloesedd
Ni all pob syniad fod yr Uber, Airbnb, neu Facebook nesaf, ond dylai o leiaf fod â'r potensial i sefyll allan. Gallai copïo modelau presennol (a elwir yn aml yn fusnesau "fi hefyd") gynhyrchu rhywfaint o refeniw ond yn aml maent yn llai tebygol o gyffroi buddsoddwyr sy'n chwilio am botensial twf uchel. Mae buddsoddwyr yn chwilio am syniadau newydd, arloesol sy'n newid y ffordd rydym yn byw er gwell.
Wrth gwrs, mae angen i'ch cynnyrch hefyd allu gwneud "yr hyn mae’n ddweud ar y tun." Bydd honiadau beiddgar nad ydynt wedi'u cefnogi gan dystiolaeth yn chwalu'n gyflym o dan ychydig o ddiwydrwydd dyladwy ysgafn.
Yn debyg iawn i recriwtwyr yn sgrinio CVs, mae buddsoddwyr yn adolygu cannoedd o gynlluniau busnes a chyflwyniadau bob blwyddyn. Bydd unrhyw beth sy'n ymddangos yn anghywir neu'n or-ddweud yn sefyll allan ar unwaith. Mae'n well tan-addo a gor-gyflawni - dyna sy'n cadw buddsoddwyr yn hyderus ac yn argyhoeddedig.
5. Lefel Parodrwydd Technoleg (LPT) o 7 neu uwch
Datblygwyd y raddfa LPT (a adwaenir yn y diwydiant fel TRL) gan NASA fel fframwaith safonol ar gyfer gwerthuso aeddfedrwydd datblygiadau technolegol. Er y gall gwahanol sefydliadau addasu'r raddfa ychydig, mae'r cysyniad craidd yr un fath. Mae LPTau yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer gwerthuso cwmnïau sy'n canolbwyntio'n drwm ar dechnoleg neu gwmnïau sy'n deillio o brifysgolion sy'n anodd i bobl nad ydynt yn arbenigwyr eu deall.
Mae'r rhan fwyaf o fuddsoddwyr ecwiti yn ei chael hi'n anodd ariannu technolegau islaw LPT 7 oherwydd gwelededd cyfyngedig ynghylch a fydd y cynnyrch byth yn cyrraedd y farchnad. Yn aml, mae angen cyllid sylweddol ac anrhagweladwy ar brosiectau yn y camau hyn, a all ddirymu buddsoddwyr. Fel arfer, argymhellir cyllid grant ar gyfer prosiectau yng nghyfnodau cynnar LPT.
6. Marchnad fawr
Fel canllaw, mae'r rhan fwyaf o gwmnïau newydd arloesol yn ceisio sicrhau 1% - 5% o farchnad benodol dros gyfnod o bum mlynedd. Os ydych chi'n bwriadu cipio 2% o farchnad gwerth £100 miliwn, er enghraifft, yna mae'n golygu mai dim ond £2 filiwn y gall eich refeniw blynyddol mwyaf fod. Os ydych chi'n codi £500,000 yn eich rownd ariannu gyntaf, ni fydd yr economeg yn gweithio gan na fydd buddsoddwyr yn gallu cynhyrchu elw deniadol.
Wrth gyfrifo maint eich marchnad, mae'n bwysig cyfrifo eich Marchnad Gyfeiriadwy Gyfan (MCC / a adwaenir yn y diwydiant fel TAM), ac nid dim ond y farchnad gyffredinol. Er enghraifft, os ydych chi'n gwerthu cynnyrch yn Ewrop ond bod cwsmeriaid posibl yn Japan, a fyddwch chi'n realistig yn gallu gwerthu eich cynnyrch yn Japan? Os felly, faint fydd hi'n ei gostio i feithrin ymwybyddiaeth o frand yn y tiriogaethau newydd hyn? Yn aml, mae'n well canolbwyntio ar farchnad sy'n agos at adref.
Efallai na fydd buddsoddwyr bob amser yn cytuno â'ch rhagdybiaethau am eich MCC, ond cyn belled â'ch bod yn ategu'ch ffigurau â rhesymeg ac ymchwil, bydd yn helpu i ddangos eich bod yn deall pwy yw eich cynulleidfa darged mewn gwirionedd.
7. Cystadleuaeth isel
Os na allwch ddod o hyd i unrhyw gystadleuwyr, gallai hynny fod yn faner goch i fuddsoddwyr. Mae ychydig o gystadleuaeth yn iach a gall gadarnhau bod galw am yr hyn rydych chi'n ei wneud a gall hyd yn oed godi ymwybyddiaeth yn y farchnad, a allai fod o fudd i'ch gwerthiannau eich hun.
Oni bai bod eich syniad yn arloesedd cwbl newydd sy'n wirioneddol chwyldroadol, nid yw marchnadoedd aeddfed yn ddeniadol fel arfer gan ei bod hi'n anodd i gwmni newydd gystadlu â'r cwmnïau mawr presennol.
Mae hyn yr un mor wir am sectorau yn eu dyddiau cynnar lle mae eich cystadleuwyr wedi'u hariannu'n dda iawn. Os ydych chi'n chwilio am ecwiti o £500,000 ac mae eich cystadleuwyr eisoes wedi codi £50 miliwn, efallai y byddai'n syniad da ystyried opsiynau eraill.
I grynhoi, yn gyffredinol mae angen i chi fod ar flaen y gad ac wedi dod i mewn i'r farchnad ar yr un pryd neu ychydig o flaen eich cystadleuwyr.
8. Mantais gystadleuol barhaus
Gelwir hyn yn aml yn rhywbeth sy’n "fantais annheg" i chi. Mae angen i chi roi rheswm i fuddsoddwyr pam y dylent fod yn cefnogi eich busnes chi yn hytrach nag un rhywun arall. Pam y byddwch chi'n ennill yn y farchnad bresennol? Gan edrych i'r dyfodol, a fyddwch chi'n dal i fod yn well na'r gystadleuaeth? Yn aml, mae ffynhonnell mantais gystadleuol yn y flwyddyn gyntaf yn diflannu'n gyflym ac yna efallai y byddwch chi'n ceisio cystadlu ar bris (a elwir hefyd yn "ras i'r gwaelod") am reswm.
Yn y byd modern o gwmnïau technoleg newydd, nid yw "mantais symudwr cyntaf" bellach yn cael ei ystyried yn ffynhonnell mantais gystadleuol ac mewn gwirionedd mae safle "dilynwr cyflym" yn aml wedi profi'n well.
9. Dangoswch drosoledd marchnad
Y person gorau i ddarparu gwybodaeth am eich cwmni yw eich cwsmeriaid. Dyma pam mae'r rhan fwyaf o fuddsoddwyr eisiau rhyw fath o arddangosiad y bydd y farchnad yn prynu eich cynnyrch neu wasanaeth. Mae refeniw yn ddymunol ond mae ffyrdd eraill o ddangos trosoledd.
10. Cyd-fuddsoddi â phrofiad yn y sector
Anaml y bydd buddsoddwyr eisiau mynd ati ar eu pen eu hunain ac maent yn gwerthfawrogi gallu rhannu risg gydag eraill. Mewn byd delfrydol, byddai cyd-fuddsoddwr yn arbenigwr sector gyda chysylltiadau cryf â'r diwydiant a byddai'n gallu cymryd sedd weithredol ar fwrdd y cwmni.
11. Prisio a chodi priodol
Mae rhoi gwerth neu brisio cwmni newydd yn anodd heb ddata ariannol hanesyddol i seilio'r rhifau arno, ac mae gwahanol fuddsoddwyr yn defnyddio gwahanol ddulliau.
Os ydych chi'n fusnes cyn-refeniw yn y DU, gall gwerthusiad cyn-arian uwchlaw £1 miliwn danseilio'ch siawns o godi cyllid gan fuddsoddwyr angel sy'n hynod bwysig yn ystod y camau cynnar.
Yn aml, mae ysgolion busnes yn cynghori codi digon o arian i bara 12-18 mis a disgwyl gwerthu tua 15% – 30% o'r ecwiti ym mhob rownd ariannu. Mae hynny'n golygu, erbyn i chi ymadael, eich bod yn dal i fod yn berchen ar tua 15% - 30% o'r ecwiti yn ddelfrydol, yn dibynnu ar ba mor fawr yw'r cwmni. Mae hyn yn rhoi syniad bras i chi o beth ddylai eich prisiad fod. Os nad yw'r rhifau yn hollol gywir, ystyriwch adolygu eich llosg arian parod a chymryd dull mwy darbodus nes y gallwch gyfiawnhau prisiad uwch.
Darllenwch ein canllaw ar brisio busnesau sy’n dechrau o’r newydd i ddysgu mwy.
12. Rhagamcanion ariannol realistig
Mae buddsoddwyr yn disgwyl gweld twf ond gall rhagamcan rhy optimistaidd fel arddull "ffon hoci" fod yn aneffeithiol. Mae angen i'r sefyllfa ariannol fod yn realistig ac yn gyraeddadwy. Does dim pwynt peintio darlun rhy optimistaidd. Mae'n annhebygol y bydd yn creu argraff a gallai eich rhoi mewn sefyllfa lle byddwch yn methu'r tro nesaf y byddwch yn ceisio sicrhau cyllid. Dewiswch fynd gyda rhywbeth ceidwadol bob amser ac os oes rhaid, dangoswch senario gobeithiol er mwyn arddangos potensial y busnes, cadwch ef ar wahân i'r prif gynllun.
Gall creu cyfrifon cynnar deimlo braidd fel ceisio rhagweld y dyfodol. Y ffordd orau o edrych ar yr ymarferiad hwn yw ei rannu'n wahanol gydrannau. Mae costau'n rhagweladwy felly dechreuwch yn y fan hyn. Mae economeg unedau yn syml i'w llunio a'i dilyn - er enghraifft, os ydych chi'n prynu teclynnau am £5, yn eu prosesu am £2 ac yn eu gwerthu am £12, eich elw fesul uned yw £5 (£12 - £5 - £2). Yna gallwch chi gyfrifo cost caffael eich cwsmer a gwerth oes (CGO a adwaenir yn y diwydiant fel LTV) pob cwsmer. Bydd yr ymarferion syml hyn yn eich helpu i ddeall eich busnes yn well ac yn rhoi hygrededd i'ch cynllun busnes.
13. Sector deniadol
Nid yw pob sector yn apelio at fuddsoddwyr yn yr un ffordd. Mae rhai sectorau, fel eiddo ac adeiladu, yn gwrthsefyll newid ac mae ganddynt gylchoedd gwerthu hir ond maent yn gyfoethog mewn asedau sy'n golygu risg is. Mae eraill fel arian cyfred digidol yn cario anwadalrwydd a risg uchel.
Gofynnwch i chi eich hun a yw eich sector yn tyfu, a yw'n arloesi ac a yw buddsoddwyr yn weithgar yn y maes.
14. Model busnes cadarn
Mae angen i'ch strategaeth brisio a'ch model refeniw fod yn realistig tra'n dal i gynhyrchu elw deniadol. Fel arfer, nid yw modelau sy'n dibynnu ar hysbysebu yn fuddsoddadwy oherwydd ei fod fel arfer yn costio mwy i gaffael cwsmer nag y gallwch ei echdynnu oddi wrthynt.
Prawf da o hyfywedd eich busnes yw codi tâl ar eich cwsmeriaid posibl cyn gynted â phosibl. Gallwch, fe allwch chi wneud arian yn ddiweddarach ond yn aml erbyn y cam hwnnw mae cwmnïau'n darganfod nad yw eu cwsmeriaid yn fodlon talu neu eu bod wedi adeiladu'r cynnyrch anghywir.
Codi pris llawn ar eich cwsmeriaid yw'r unig ffordd o wybod a yw eich busnes yn gynaliadwy. Dros y blynyddoedd diwethaf bu enghreifftiau o gwmnïau newydd dosbarthu prydau bwyd a gefnogir gan fenter risg uchel a gynigiodd brisiau gostyngol. Mewn sawl achos, unwaith y dechreuodd y cyllid redeg yn isel, gorfodwyd y busnesau i basio'r costau llawn i'r cwsmer. Yna fe wnaeth cwsmeriaid roi'r gorau i brynu'n gyfan gwbl gan mai dim ond islaw pwynt pris penodol yr oedd y cynnig yn ddeniadol a chwalodd y busnesau. Peidiwch â gwneud y camgymeriad hwnnw.
15. Strategaeth ymadael glir
Gellir dadlau mai cyfleoedd ymadael go iawn yw'r meini prawf pwysicaf y mae buddsoddwyr yn eu hystyried. Mae hyn yn arbennig o wir gyda buddsoddwyr menter cyfnod cynnar oherwydd mae'n annhebygol y byddant yn cael eu cyfalaf yn ôl trwy ddifidendau. Felly, y flaenoriaeth fel arfer yw gwerthu'r cwmni. Mae angen i hyn fod yn realistig o fewn amserlen o bump i saith mlynedd.
Mae'n dda ymchwilio i ba gaffaeliadau sydd wedi bod yn digwydd yn y diwydiant, pwy sy'n prynu ac am ba bris. Fel arfer, mae hwn yn lluosrif o refeniw neu EBITDA hyn hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer gosod gwerth bras ar gyfer eich busnes. Mae busnesau Meddalwedd fel Gwasanaeth (a adwaenir yn y diwydiant fel SAAS) fel arfer yn denu lluosrifau uwch o refeniw, yn enwedig os gall y busnes ddangos twf uchel iawn.
Mae gwneud eich gwaith cartref yma yn debygol o ychwanegu hygrededd at eich cynnig ac mae'n debyg y bydd yn eich helpu i ddeall y sector yn llawer gwell.
Casgliad
Mae adeiladu cwmni newydd buddsoddadwy yn cynnwys llawer o rannau symudol, ac mae'r dirwedd yn esblygu'n gyson. Nid oes dim byd fel gwybodaeth berffaith - ond os gallwch chi roi 90% o hyder i fuddsoddwyr, byddan nhw'n cymryd risg gyfrifedig ar y 10% sy'n weddill.
Cofiwch, nid darparwyr cyllid yn unig yw buddsoddwyr - maent yn dod yn bartneriaid hirdymor yn eich busnes. Ystyriwch fuddsoddi fel dechrau perthynas a dewiswch yn ddoeth o'r cychwyn cyntaf.
Os ydych chi'n credu bod eich busnes newydd yn barod ar gyfer cyllid ecwiti ac eisiau archwilio'ch opsiynau, ewch i'n tudalen Buddsoddi Technoleg am fwy o fanylion.