Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Joseph Rose

Yn fy swydd rwy’n gweithio gyda’r tîm marchnata i ddarparu cynnwys amlgyfrwng ar gyfer amrywiaeth o ymgyrchoedd a digwyddiadau, yn ogystal â sianeli cyfathrebu mewnol ac allanol.

Ymunais â’r Banc Datblygu ym mis Mehefin 2022, ac rwy’n gweithio yn y swyddfa yng Nghaerdydd.

Cyn i mi ddechrau gweithio gyda’r Banc Datblygu, roeddwn i’n gweithio gyda’r GS Verde Group fel Swyddog Marchnata. Wrth wneud y gwaith hwn, cefais brofiad o amrywiaeth o wahanol weithgareddau marchnata. Mae gen i brofiad blaenorol o weithio i gwmnïau megis Bristol Live, Media Cymru, a TalkSport.

Graddiais â gradd Dosbarth Cyntaf mewn Newyddiaduraeth Chwaraeon o Brifysgol Caerloyw yn 2018. Yn 2019, cwblheais radd meistr mewn Cyfryngau Digidol ym Mhrifysgol Caerdydd, a graddiais â Rhagoriaeth.