Michelle Noble

Mae fy rôl yn cynnwys gweithio gyda busnesau newydd a phresennol ar draws de ddwyrain Cymru i gael mynediad at gyllid benthyciad hyd at £50,000.

Cyn dechrau gyda Banc Datblygu Cymru, roeddwn yn swyddog cymorth menter a chyllid ar gyfer Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd, yn gweithio gyda busnesau a oedd yn chwilio am gyllid i lansio, tyfu neu arallgyfeirio eu busnesau ymhellach.

Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda busnesau ar bob cam o'r broses, o'r cyfnod ymholi i fonitro eu cynlluniau a rheoli'r portffolio benthyciadau ar ôl i ddyfarniad gael ei roi. 

Sefydlais a rhedais fy menter gymdeithasol fy hun am bum mlynedd, gan gyflogi 24 aelod o staff a gweld drosof fy hun yr uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau sy'n digwydd wrth redeg eich busnes eich hun. 

Mae’r profiad o redeg fy musnes fy hun, yn ogystal â chefnogi busnesau ar hyd eu teithiau, yn fy ngalluogi i weithio gyda sefydliadau o bob maint wrth iddynt gael mynediad at gyllid drwy gyfrwng y cynllun micro fenthyciadau.