Richard Jenkins

Rwy'n rheoli portffolio o fusnesau, sy’n gweithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau, wedi'u lleoli ledled de Cymru. Rwy'n canolbwyntio ar adeiladu perthnasoedd tymor hir gyda fy nghwsmeriaid, monitro eu perfformiad ac rwy'n nodi cyfleoedd newydd i'w cefnogi.

Mae gen i fwy na 12 mlynedd o brofiad ym maes manwerthu, busnes lleol a bancio corfforaethol gyda Banc Barclays Bank ccc.

Cyn hynny, roeddwn i mewn swydd rheolwr gwerthu ar sail ardal ym maes Masnach a Chyfalaf Gweithio Barclays, lle roeddwn i'n darparu atebion llif arian i BBaCh yng Nghymru a'r De Orllewin.

Cyn hyn, roeddwn yn rheolwr cymorth perthynas cyfrifon allweddol Barclays a'r tîm corfforaethol mawr, yn cefnogi rhai o gwmnïau mwyaf Cymru gyda’u hanghenion bancio a benthyca o ddydd i ddydd.