Cadeirydd - Banc Datblygu Cymru

£60,000 y flwyddyn

20-24 diwrnod y flwyddyn

Wrecsam a Chaerdydd

Wedi’i sefydlu yn 2017, amcan Banc Datblygu Cymru yw datgloi potensial yn economi Cymru drwy gynyddu’r cyflenwad o, a mynediad at gyllid cynaliadwy, effeithiol. Mae’r Banc yn gweithio’n agos gyda Gweinidogion Cymru i ddatblygu a defnyddio cronfeydd buddsoddi dyled ac ecwiti i gefnogi amcanion polisi pwysig ledled Cymru. Mae gan y Banc dri nod: Darparu cyllid dyled ac ecwiti gydag effaith gymdeithasol; Hyrwyddo a hybu dyfodol gwyrdd yng Nghymru; a Chyflawni sefydlogrwydd ariannol gyda rhagoriaeth a rhoi'r cwsmer yn gyntaf. Mae BDC yn gwmni cyfyngedig a’i brif gyfranddaliwr yw Llywodraeth Cymru ac y mae’n mwynhau perthynas waith agored a rhagweithiol â hi.

Yn y 5 mlynedd ers ei lansio, mae Banc Datblygu Cymru wedi buddsoddi mewn dros 2,000 o fusnesau ac wedi creu/cefnogi dros 20,000 o swyddi. Mae ei lwyddiant o ran cyflawni a dylanwadu ar lawer o amcanion polisi busnes allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru yn golygu bod ei asedau sy’n cael eu rheoli bellach wedi cynyddu i £1.9 biliwn mewn 13 o gronfeydd sy’n gwasanaethu llawer o wahanol sectorau diwydiant ar bob cam o gylch bywyd busnes. Mae'n gwasanaethu tua 3,000 o gwsmeriaid o’i swyddfeydd ledled Cymru ac mae’n cyflogi tua 280 o bobl, ac mae ganddo fusnes rheoli cronfeydd a reoleiddir llwyddiannus (FW Capital) sy’n rheoli arian gan Fanc Busnes Prydain sy’n gwasanaethu rhanbarthau cyfagos yn Lloegr (fel Pwerdy’r Gogledd), rhwydwaith buddsoddi angylion busnes, ac uned sy’n dirnad yr economi.

Bydd y Cadeirydd yn ymddeol erbyn mis Medi 2024 ar ôl 9 mlynedd o wasanaeth, yn unol â Chod Llywodraethu Corfforaethol y DU. Mae Banc Datblygu Cymru nawr yn chwilio am Gadeirydd newydd i roi arweiniad i’r Bwrdd, a llunio cynlluniau strategol a chorfforaethol, gan gynnwys yr holl gyfrifoldebau arferol ar gyfer bwrdd ccc sy’n ceisio cydymffurfio â’r Cod Cyfun cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Mae’r Cadeirydd yn atebol i’r Senedd a Gweinidogion Cymru am sicrhau llywodraethu corfforaethol o ansawdd uchel ac mae ganddo’r prif gyfrifoldebau o arwain Bwrdd BDC i gyflawni’r amcanion sydd wedi’u hymgorffori yn y Llythyr Cylch Gwaith ac o ddwyn y swyddogion gweithredol i gyfrif. Mae eu cyfrifoldebau hefyd yn cynnwys gweithredu fel cynghorydd dibynadwy i Weinidogion Llywodraeth Cymru, darparu prif sianel gyfathrebu rhwng Bwrdd BDC a Gweinidogion Cymru, a sicrhau bod polisïau a chamau gweithredu Bwrdd BDC yn cefnogi polisïau strategol ehangach y Gweinidogion.

Mae'r swydd hon yn un o'r rolau mwyaf gwreiddiol a chyffrous ym meysydd gwasanaethau ariannol a pholisi cyhoeddus y DU. Banc Datblygu Cymru oedd y banc datblygu cyntaf yn y DU, mae’n sefydliad sy’n tyfu o ran maint a chwmpas gweithredol ac mae rôl y Cadeirydd yn gyfle unigryw i sicrhau bod nodau polisi’n cael eu galluogi drwy ganlyniadau effeithiol yn amgylchedd busnes Cymru.

Bydd gan ymgeiswyr gysylltiad â ac uchelgais personol ar gyfer Cymru; profiad lefel bwrdd o’r Gwasanaethau Ariannol a reoleiddir (yn ddelfrydol banc masnachol, cwmni buddsoddi ecwiti neu sefydliad buddsoddi cysylltiedig) a phrofiad blaenorol fel Cadeirydd prif fwrdd neu Gadeirydd is-bwyllgor yn y sector breifat. Gan feddu ar sgiliau arwain, cyfathrebu a rhyngbersonol cryf, bydd ganddynt y gallu i feithrin ymddiriedaeth a datblygu perthnasoedd cynghori â Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yn meddwl mewn ffordd strategol, yn gallu meithrin arloesedd a gwneud penderfyniadau cadarn.

Mae chwe chyfarfod Bwrdd bob blwyddyn ac un cyfarfod strategaeth, pob un yn para’ tua hanner diwrnod, fel arfer yng Nghaerdydd neu’n Wrecsam. Bydd y Cadeirydd hefyd yn eistedd ar y Pwyllgorau Cydnabyddiaeth Ariannol; Enwebiadau; a’r Pwyllgorau Cyllid, Risg ac Archwilio (a gynhelir bedair gwaith y flwyddyn).

Mae Banc Datblygu Cymru yn recriwtio, yn cyflogi, yn hyfforddi ac yn dyrchafu waeth beth fo hil, crefydd, lliw, tarddiad cenedlaethol, rhyw, anabledd, oedran, hunaniaeth rhywedd a/neu fynegiant, neu unrhyw statws gwarchodedig arall. Mae'r Banc yn ymroddedig i feithrin amgylchedd cynhwysol lle gall gweithwyr fod yn nhw eu hunain yn gyfan gwbl yn y gwaith; mae'n dathlu amrywiaeth meddwl ac yn cydnabod y cryfder a'r deinamigrwydd a ddaw yn ei sgil.

I gael sgwrs gyfrinachol am y rôl gyda thîm Odgers Berndtson yng Nghymru, ffoniwch Jemma Terry neu Steffan Griffiths ar 029 2078 3050 neu anfonwch e-bost atom yn OdgersWalesPractice@odgers.com