Cyfrifydd Adrodd Ariannol

Rydym yn llogi i gael Cyfrifydd Adrodd Ariannol wedi ei leoli yng Nghymru

Pwrpas y swydd

Wedi’i leoli yn Adran Gyllid Grŵp Banc Datblygu Cymru, diben y rôl hon yw cefnogi’r Rheolwr Cyllid gyda’r holl faterion cyfrifyddu technegol a helpu i baratoi adroddiadau ariannol ar gyfer Banc Datblygu Cymru a’i is-gwmnïau

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:

  • Datblygu a chynnal modelau darparu benthyciadau sy’n cael eu colli yn unol  â Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IRFS) 9 a Safon Adrodd Ariannol (FRS) 102.
  • Llunio amserlenni diwedd blwyddyn a datgeliadau ar gyfer y llyfr benthyciadau o dan IFRS 9, gan gynnwys dadansoddi risg credyd a materion sensitif allweddol.
  • Paratoi papurau materion archwilio allweddol ar gyfer y Pwyllgor Archwilio a Risg ar faterion cyfrifyddu technegol.
  • Helpu i roi safonau IFRS newydd a gofynion adrodd eraill ar waith yn y Grŵp ac yn y datganiadau ariannol ategol.
  • Helpu i baratoi datganiadau ariannol blynyddol ar gyfer is-gwmnïau o fewn Grŵp Banc Datblygu Cymru.
  • Adolygu cyfrifon rheoli misol yn unol â’r fformat a’r amserlen y cytunwyd arnynt.
  • Adolygu cysoniadau diwedd mis o gyfrifon rheoli allweddol.
  • Rhoi adborth ar y cyfrifon rheoli a chymorth i aelodau’r tîm sy’n ymwneud â’u paratoi.
  • Adolygu ac awdurdodi taliadau banc.
  • Arwain a chymell is-weithwyr uniongyrchol i sicrhau eu bod yn manteisio i’r eithaf ar eu potensial. Bydd hyn yn cynnwys pennu amcanion a monitro yng nghynllun adolygu rheoli perfformiad Banc Datblygu Cymru.
  • Helpu i reoli’r gweithdrefnau cyfrifyddu a rheoli ariannol sy’n diogelu asedau’r cwmni.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i nodi meysydd gwan a gweithio ar draws adrannau i nodi/gweithredu gwelliannau i’r systemau cyfrifyddu a’r systemau cysylltiedig yn unol ag arferion gorau.
  • Cydweithredu ag archwilwyr mewnol ac allanol, cynghorwyr a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ôl yr angen.
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan y Rheolwr Cyllid i ddiwallu anghenion gweithredol Banc Datblygu Cymru.

Gwybodaeth, Sgiliau, Cymwysterau a Phrofiad

Hanfodol

  • Meddu ar gymhwyster cyfrifyddu cydnabyddedig yn y DU gydag o leiaf 2 flynedd o brofiad ôl-gymhwyso mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol.
  • Gwybodaeth gyfredol am ddatblygiadau cyfrifyddu technegol, gan gynnwys gwybodaeth fanwl am IFRS 9.
  • Profiad o baratoi datganiadau ariannol o dan IFRS, FRS 101 ac FRS 102.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn llafar ac ysgrifenedig.
  • Hyddysg ym maes TG ac yn gallu defnyddio cyfres o gynnyrch Microsoft Office.
  • Gallu gweithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm.
  • Agwedd hyblyg a hunan-gymhellol at waith.

Dymunol

  • Gallu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Ymwybyddiaeth o Grŵp Banc Datblygu Cymru.
  • Cyfarwydd â rhaglen SAGE 200 neu becynnau cyfrifyddu tebyg.
  • Profiad o fod yn rheolwr llinell mewn adran Gyllid.
  • Cyfarwydd â systemau rheoli Portffolio.
  • Cyfarwydd â Power BI neu offer rheoli data eraill.

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i ein tudalen recriwtio