Canllaw i ymgynghorwyr - gofynion y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd

Mae’r canllaw hwn ar gyfer ymgynghorwyr neu archwilwyr sy’n cynnal archwiliad ynni ar gyfer busnes, lle mae’r busnes yn gwneud cais i’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd i gael grant i dalu rhan o’r costau ymgynghoriaeth.

Mae’n crynhoi’r broses a’r isafswm gofynion ar gyfer yr archwiliad ynni.

Beth yw pwrpas cymorth yr archwiliad ynni drwy’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd?

Mae’r gefnogaeth hon ar gyfer busnesau sydd heb y wybodaeth, yr amser, neu’r capasiti i nodi’r camau cywir i roi eu busnes ar daith Sero Net. Fel arfer, bydd y busnesau hyn megis dechrau camau cynnar datgarboneiddio, ac angen cymorth a chanllawiau arbenigol i sicrhau y bydd eu gweithredoedd yn cael yr effaith fwyaf i fanteisio i’r eithaf ar ostyngiadau ynni a chostau.

Does dim rhaid i’r busnes barhau i wneud cais am gyllid prosiect drwy’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd ar ôl i archwiliad ynni ddod i ben. Os hoffai’r busnes wneud cais am gyllid, bydd hyn yn amodol ar fodloni cymhwysedd ariannol a thechnegol.

Beth yw’r isafswm gofynion o ran darparu cymorth ymgynghoriaeth drwy’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd?

Gall busnesau ymgysylltu ag unrhyw ymgynghorydd ynni o’u dewis, cyn belled ag y bo’r meini prawf canlynol yn cael eu bodloni:

  • Mae gennych gymhwyster perthnasol gyda sefydliad proffesiynol mewn asesiadau ynni neu archwiliadau ynni adeiladau.  
  • Rydych wedi darllen y canllawiau hyn, a gallwch roi sicrwydd i’r busnes y byddwch yn creu allbwn archwiliad ynni sy’n alinio â’r isafswm gofynion.
  • Byddwch yn darparu dyfyniad ysgrifenedig i’r busnes i ganiatáu iddynt wneud cais i’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd ar gyfer cynnig o arian cyfatebol.  
  • Ni fydd gwaith yn dechrau nes i’r busnes gael cadarnhad bod y cais yn llwyddiannus.  

Beth yw’r isafswm gofynion o ran allbwn yr archwiliad ynni?

Fel ymgynghorwyr/archwilwyr, deallwn y bydd gennych ddulliau personol o ran cynnal a chyflwyno allbynnau eich gwaith archwilio. Fodd bynnag, i sicrhau bod y cyllid grant yn cael ei ddyfarnu lle bo allbwn cynhwysfawr wedi’i roi i’r busnes, ac i’ch helpu i gyflwyno dyfynbris priodol, mae’r tabl isod yn darparu amlinelliad o’r isafswm gofynion adrodd. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr o’r gwaith a ddylai gael ei wneud. Yn hytrach, mae’n adlewyrchu’r elfennau allweddol a fydd yn cefnogi busnesau i nodi a bwrw ymlaen â chyfleoedd effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio.

 

1. Casglu gwybodaeth berthnasol am y busnes

Rhaid i hyn gynnwys o leiaf:

  • Nifer y gweithwyr ac oriau gwaith arferol
  • Gwybodaeth am y safle gan gynnwys lleoliad, math o adeilad, cyfradd llenwi
  • Dull amgylcheddol presennol
  • Natur y busnes - sector, SIC

2. Asesu defnydd ynni’r busnes

Rhaid i hyn gynnwys o leiaf:

  • Manylion am ddefnydd a phris ynni (yn ôl offer/proses) ar sail o leiaf 12 mis o ddata y gellid ei ddilysu
  • Adolygu darparwyr ynni presennol
  • Dadansoddi amlen, gwasanaethau a rheolaethau’r adeilad

3. Dadansoddi, cynllunio a chyfrifo costau

Rhaid i hyn gynnwys o leiaf:

  • Dadansoddiad yn nodi manylion misol defnydd a chostau ynni
  • Adolygu’r gweithdrefnau rheoli ynni, gan gynnwys cynnal a chadw
  • Meincnodi perfformiad ynni yn erbyn eiddo/prosesau tebyg
  • Ystyried unrhyw ofynion cysylltiad â’r grid a chostau cysylltiedig
  • Nodi cyfleoedd i arbed ynni a chostau ynghyd â chyfnodau talu nôl y buddsoddiad sydd ei angen i weithredu’r mesurau arbed ynni

                                                                                                                                          

4. Creu cyfres o argymhellion a chynllun gweithredu

Rhaid i hyn gynnwys o leiaf:

  • Crynodeb o’r canfyddiadau ac argymhellion i’r busnes
  • Blaenoriaethu cyfleoedd dim cost neu gost isel hyd at gyfleoedd buddsoddi cyfalaf mwy, a chreu cynlluniau gweithredu penodol i’r busnes gyda manylion am yr arbediad ynni ac allyriadau CO2 blynyddol
  • Nodi cyflenwyr posibl i gefnogi’r camau nesaf
  • Argymhellion ar sut i gyfathrebu â gweithwyr am newidiadau, gan ganiatáu iddynt fod ynghlwm wrth leihau ôl-troed carbon cyffredinol y cwmni

 

5. Gweithgareddau datblygu prosiectau

Rhaid i hyn gynnwys o leiaf:

  • Profion marchnad meddal i nodi cyflenwyr priodol
  • Cynllunio cymorth - lle bo angen
  • Datblygu manylebau
  • Cymorth o ran ymgeisio am gyllid - lle bo angen

 

I gael rhagor o ganllawiau ar gyflawni asesiadau ynni, cyfeiriwch at ganllawiau Cynllun Cyfleoedd Arbed Ynni Llywodraeth y DU. Er ei fod ar gyfer busnesau mwy, gallwch gael cyngor ar bennu arfer gorau o ran dulliau asesu yma.

 

Pwy sy’n gyfrifol am gadarnhau bod yr archwiliad ynni yn foddhaol?

Dylid defnyddio’r rhestr isafswm gofynion uchod i sicrhau bod yr allbynnau’n alinio â gofynion Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd. Bydd y busnes a’r ymgynghorydd yn cytuno ar gwblhau’r gwaith i raddau boddhaol. Ni fydd y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn asesu derbyniad pob archwiliad, fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwn yn arfarnu allbynnau o bryd i’w gilydd ac yn monitro cydymffurfiaeth â gofynion y rhaglen.  

Sut mae anfonebu ar gyfer taliadau?

Byddwch yn ymgysylltu â’r busnes bob amser, nid y cynllun ei hun. Unwaith i’r gwaith gael ei wneud a’i gwblhau yn unol â’r isafswm gofynion a nodwyd uchod, byddwch yn anfon anfoneb i’r busnes am gost llawn y gwaith. Unwaith y bydd hyn wedi’i gadarnhau, bydd y busnes yn hawlio cymorth grant drwy’r cynllun.

Gyda phwy y dylwn i gysylltu i gael rhagor o wybodaeth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd, neu’r cynnig cyllid ymgynghoriaeth yn benodol, cysylltwch â greenloans@developmentbank.wales