Datganiad hygyrchedd ar gyfer Banc Datblygu Cymru

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Banc Datblygu Cymru (bancdatblygu.cymru).

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Fanc Datblygu Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais
  • chwyddo hyd at 400% heb broblemau fformatio 
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd 

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.


Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch ar gyfer bob math o ddefnyddwyr
  • mae gan rai o'n ffurflenni ar-lein feysydd rhifiadol sy'n ymddwyn yn wahanol ar ffonau symudol gyda rhai porwyr penodol 

     

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio ein ffurflen gysylltu ar-lein, neu ffoniwch ni ar 08005874140.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg / We welcome calls in Welsh.

Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen saith diwrnod.

Os na allwch weld y map ar ein tudalen 'cysylltwch â ni', ffoniwch neu e-bostiwch ni gan ddefnyddio'r manylion a geir uchod am gyfarwyddiadau. 



Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (GCCC) .

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Banc Datblygu Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 oherwydd yr eithriadau a restrir isod:

  • Nid yw cyfran o’n dogfennau PDF a gyhoeddwyd ers 2018 yn gwbl hygyrch.
  • Yn ein ffurflenni ar-lein, nid yw'r saethau 'cynnyddu/lleihau' ar feysydd rhifiadol ar gael yn y golwg symudol.

     

Cynnwys An-hygyrch 

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:

Baich anghymesur

Nid yw cyfran o’n dogfennau PDF a gyhoeddwyd ers 2018 yn gwbl hygyrch, yn unol â meini prawf safonol CHCG fersiwn 2.1 AA.

Meini prawf llwyddiant wedi methu:

  • CHCG 1.4.4 - Gwneud y testun fel y gellir newid ei faint ≥ 200% heb golli cynnwys / swyddogaeth
  • CHCG 1.4.10 - Rhaid i'r cynnwys fod yn ail-lifol (dim sgrolio llorweddol) hyd at ei chwyddo 400%
  • CHCG 2.1.1 - Rhaid i'r holl swyddogaethau allu gweithredu gyda'r bysellfwrdd

Rydym wedi asesu cost trwsio'r materion hyn ar draws yr holl ddogfennau PDF gofynnol. Credwn y byddai diweddaru’r rhain i gyd yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd.

Cwblhawyd asesiad baich anghymesur ar y mater hwn a’i gyflwyno i Wasanaeth Digidol y Llywodraeth ar 26 Ionawr 2024.

 

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Yn ein ffurflenni ar-lein, nid yw'r saethau 'cynyddu/lleihau' ar feysydd rhifiadol ar gael yn y golwg symudol. Mae hyn yn methu hygyrchedd ar gyfer meini prawf safonol CHCG fersiwn 2.1 AA. 

Meini prawf llwyddiant wedi methu:

Meini prawf CHCG 1.4.10. - Gellir cyflwyno cynnwys heb golli gwybodaeth neu ymarferoldeb. 

Penderfynwyd bod y mater hwn yn cael ei achosi gan osodiad rhagosodedig gan borwyr ac felly nid yw'n broblem sydd a wnelo’r wefan. Credwn fod hyn yn golygu nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.

 

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio tuag at safon CHCG 2.2 AA newydd a’n nod yw y byddwn wedi diweddaru ein gwefan i adlewyrchu hyn erbyn mis Hydref 2024.

 

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 29 Ionawr 2024.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 12 Hydref 2023 gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth (GOV.UK). Gellir gweld yr adroddiad yma. Profwyd y wefan hon yn erbyn safon CHCG 2.1 AA.

Ers cyhoeddi'r adroddiad hwn, mae pob un o'r materion sy'n weddill wedi'u datrys.

Cyn hyn, cafodd y wefan ei phrofi ddiwethaf ar 30 Mehefin 2022. Cynhaliwyd y prawf gan S8080.

Fe wnaethom ddefnyddio Total Validator Scan; y fersiwn diweddaraf (14.1.1 ar hyn o bryd) i redeg sgan awtomataidd ar gyfer holl wallau CHCG2 AA.

Fe wnaethon ni brofi ein prif blatfform gwefan, sydd ar gael yn bancdatblygu.cymru a developmentbank.wales