Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Gweithredwr Buddsoddi Cynorthwyol (AIE)

Pwrpas y swydd

Rôl y Gweithredwr Buddsoddi Cynorthwyol (AIE) yw darparu cymorth gyda thrafodion, o’r dechrau i’r diwedd, i’r Tîm Buddsoddiadau Sbarduno Technoleg ehangach.  Gan weithio ochr yn ochr â Swyddogion Gweithredol Buddsoddi/Uwch Swyddogion Gweithredol Buddsoddi a Rheolwyr Cronfeydd, bydd y Gweithredwr Buddsoddi Cynorthwyol yn cael cyfle i arwain rhai agweddau ar drafodion Buddsoddiadau Sbarduno Technoleg, gan gynnwys cau rhai cytundebau Buddsoddiadau Sbarduno Technoleg llai, yn dilyn hyfforddiant. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys monitro asedau portffolio Buddsoddiadau Sbarduno Technoleg a thasgau cysylltiedig, a darparu cefnogaeth ad hoc. 

Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau rhyngbersonol datblygedig, gyda diddordeb amlwg mewn buddsoddi mewn technoleg, sylw i fanylion ac agwedd ymarferol ragweithiol.   

Byddem yn disgwyl i’r ymgeisydd ddatblygu’n Swyddog Gweithredol Buddsoddi fel arfer o fewn cyfnod o 2-3 blynedd, yn dibynnu ar brofiad. 

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau (yn annibynnol a/neu dan oruchwyliaeth)

Bydd yn ofynnol i Weithredwr Cynorthwyol Buddsoddiadau Sbarduno Technoleg wneud y canlynol:- 

  • darparu cymorth gyda thrafodion i Swyddogion Gweithredol Buddsoddi/Uwch Swyddogion Gweithredol Buddsoddi/Rheolwyr Cronfeydd yn y tîm Buddsoddiadau Sbarduno Technoleg i helpu i asesu a chwblhau cyfleoedd buddsoddi newydd;  

  • bod yn rhan o’r broses o negodi telerau masnachol a’u trosi’n ddogfennau sy’n rhoi amlinelliad  o’r telerau /cyfarwyddiadau cyfreithiol/dogfennau buddsoddi;  

  • cysylltu â darparwyr diwydrwydd dyladwy allanol, gan gwmpasu aseiniadau gwaith a negodi’r gwerth gorau am arian i gleientiaid.  

  • Ar ôl cyfnod cychwynnol o hyfforddiant, byddai disgwyl i Weithredwr Buddsoddi Cynorthwyol  allu cau buddsoddiadau llai gyda goruchwyliaeth gan uwch gydweithwyr.  

  • Bwrw iddi i chwilio am gyfleoedd ar gyfer Buddsoddiadau Sbarduno Technoleg drwy gynnal cysylltiadau a rhwydweithiau gyda darparwyr busnes a chyfryngwyr allweddol, a mynd i ddigwyddiadau yn ôl yr angen.  

  • Cyfrannu at farchnata/hyrwyddo Banc Datblygu Cymru.

Mae cyfrifoldebau eraill yn cynnwys y canlynol:  

 Buddsoddiad  

  • Mynychu cyfarfodydd gyda chleientiaid a chyfryngwyr i sicrhau Buddsoddiadau Sbarduno Technoleg llwyddiannus. 

  • Sgrinio ceisiadau yn ystod y camau cychwynnol. Gwneud gwaith ymchwil er mwyn cynnal asesiad, ac ymateb yn ffurfiol i gleientiaid er mwyn gwrthod neu ofyn am ragor o wybodaeth os oes angen. 

  • Helpu i baratoi papurau cryno ac adroddiadau sancsiwn a chyflwyno achosion buddsoddi ar gyfer sancsiwn. 
  • Adolygu modelau ariannol a chynorthwyo gyda’r broses dadansoddiad ariannol, gan gynnwys awgrymu a chynnal dadansoddiadau o sensitifrwydd ar gyfer cyfleoedd buddsoddi newydd a phresennol.
  • Cynnal diwydrwydd dyladwy o ran gwaith masnachol, ariannol, rheoli a thechnegol wrth ystyried cyfleoedd buddsoddi. 
  • Bod yn benderfynol wrth wneud penderfyniadau, cymryd cyfrifoldeb a bod yn barod i gael sgyrsiau a allai fod yn anodd gyda chleientiaid posibl/presennol. 
  • Cynnal a datblygu gwybodaeth am y diwydiant a deall arferion gorau o ran gweithgareddau buddsoddi. 
  • Lledaenu enghreifftiau o arferion gorau ar gyfer gwneud cais i’r Gronfa Buddsoddiadau Sbarduno Technoleg i gyflwynwyr busnes allweddol, a sicrhau bod y broses ymgeisio yn ei mireinio a’i gwella’n barhaus er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r cleient. 

Rheoli Portffolio

  • Bod yn gyfrifol am reoli portffolio o Fuddsoddiadau Sbarduno Technoleg.  
  • Cynnal cyswllt rheolaidd (fel arfer yn fisol), cymesur â busnesau cleientiaid yn y     portffolio i sicrhau dealltwriaeth gyfredol o’u hamgylchiadau a meithrin perthnasoedd cynhyrchiol â rheolwyr. Rhaid i strategaethau cyswllt gael eu teilwra’n unol ag amgylchiadau’r busnes dan sylw.  
  • Casglu cymaint â phosibl o ddata Dangosyddion Perfformiad Allweddol cywir gan fusnesau portffolio mewn modd amserol, gan gynnwys ysgrifennu adroddiadau/diweddaru dangosfyrddau yn dilyn cyfarfodydd â chleientiaid.   
  • Defnyddio’r matrics risgiau i argymell gradd perfformiad a deall pryd mae angen uwchgyfeirio perfformiad i’r Tîm Risg.  
  • Dangos y gallu i ychwanegu gwerth i gwmnïau portffolio sy’n fwy na monitro’n unig. 

Cymorth ychwanegol 

  • Goruchwylio’r gwaith o gwblhau’r broses buddsoddi ar eich trafodion penodol, gan weithredu fel pwynt cymeradwyo cychwynnol, a sicrhau bod holl amodau’r sancsiwn wedi’u bodloni.  
  • Rhoi arweiniad i Ddadansoddwr Cynorthwyol Buddsoddi TSF y Tîm Buddsoddiadau  Sbarduno Technoleg. 
  • Cwblhau tasgau ad-hoc fel y’u diffinnir gan Swyddogion Gweithredol Buddsoddi, Uwch Swyddogion Gweithredol Buddsoddi, Rheolwyr Cronfeydd neu’r Cyfarwyddwr Cronfa i fodloni anghenion gweithredol y tîm Buddsoddiadau Sbarduno Technoleg.  

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad  

Hanfodol: 

  • Yn gallu cymell eich hun, gyda’r gallu i weithredu’n rhagweithiol a gweithio’n effeithiol heb lawer o oruchwyliaeth.   
  • Yn gyfforddus yn delio â gwaith sensitif i gleientiaid lle mae amser yn hollbwysig.  
  • Canolbwyntio ar ganlyniadau. Y gallu i flaenoriaethu a threfnu eich llwyth gwaith a gweithio’n effeithiol dan bwysau, a chyrraedd targedau.   
  • Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a dylanwadu da Y gallu i addasu eich dull gweithio eich hun er mwyn meithrin perthnasoedd gwaith cynhyrchiol.  
  • Sgiliau datrys problemau  
  • Sgiliau trefnu a gweinyddu cryf.  
  • Rhoi sylw i fanylion  
  • Wedi ymrwymo i ddatblygu gwybodaeth ac arbenigedd mewn cyfalaf menter. 
  • Sgiliau cyflwyno rhagorol a lefel uchel o gymhwysedd gyda chynnyrch MS Office safonol fel Word, PowerPoint ac Excel yn benodol.  
  • Sgiliau ymchwil cryf, gyda’r gallu i gymhathu, hidlo a chadw llawer o wybodaeth yn gyflym.  
  • Gallu gweithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm.  
  • Gradd wyddonol uwch a/neu gymhwyster proffesiynol.  

Dymunol:  

  • Profiad o fuddsoddi mewn mentrau cyfalaf.  

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r amgylchedd buddsoddi cynnar mewn technoleg.  

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl y sector cyhoeddus o ran cyllid ar gyfer busnesau bach a chanolig.  

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r amgylchedd Busnes yng Nghymru  

  • Gallu siarad Cymraeg.  

Y ddolen i wneud cais yw: https://developmentbankofwales.current-vacancies.com/Jobs/Advert/3626406?cid=3203