Busnesau o Abertawe yn cael eu hannog i ‘Blygio i Mewn’ i Gower Power Er Mwyn Buddsoddi yn eu Cymuned Leol

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Solar panels

Mae'r fferm ynni heulol (solar) gyntaf dan berchnogaeth gymunedol yng Nghymru yn cynnig cyfle i fusnesau Abertawe i blygio i mewn i ynni gwyrdd a gynhyrchir yn lleol a chefnogi prosiectau cymunedol ar lawr gwlad ar garreg eu drws.


Bydd Gower Power Solar Storage, prosiect a wnaed yn bosibl gyda chyllid gan Fanc Datblygu Cymru ynghyd â chefnogaeth gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a Chronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn galluogi hyd at 300 o fusnesau a chartrefi lleol i gael ynni gwyrdd o'r fferm solar sydd 100 y cant yn eiddo i'r mudiad budd cymunedol, Gower Regeneration Ltd. Bydd yr holl elw o'r prosiect yn cael ei hau yn ôl i brosiectau cymunedol llawr gwlad lleol.

Dechreuodd y fferm solar 1MW yn Fferm Killan Fach, Dunvant, gynhyrchu pŵer ar Fawrth 31ain 2017 a hon oedd y fferm solar gyntaf o dan berchnogaeth-gymunedol yng Nghymru ar ôl i gynnig cyfranddaliadau llwyddiannus godi tua £900,000 gan fuddsoddwyr moesegol, yn ardal Abertawe yn bennaf.
Mae Gower Power Solar Storage wedi ymuno â'r darparwr tanwydd gwyrdd blaenllaw Ecotricity fel rhan o'r prosiect, a byddant yn darparu'r gwasanaethau cwsmeriaid a'r biliau angenrheidiol. Bydd ecotricity yn gallu ychwanegu at unrhyw drydan nad yw'n cael ei gynhyrchu ar y safle gyda ffynonellau adnewyddadwy 100 y cant, a hefyd cynnig nwy niwtraleiddio carbon i gwsmeriaid busnes Gower Power Solar Storage.


Disgwylir y bydd y fferm solar yn cynhyrchu trydan glân, adnewyddadwy am 30 mlynedd, a dros amser bydd yn cynhyrchu gwarged o oddeutu hanner miliwn o bunnoedd.


Dywedodd Ant Flanagan o Gower Power: “Rydym yn falch iawn o lansio’r cynnig hwn ar gyfer busnesau Abertawe. Gwyddom o'n hymchwil fod busnesau yn blaenoriaethu arferion gwyrdd ac yn awyddus i barhau i'w hymgorffori yn eu gweithrediadau. Mae hyn yn rhan bwysig o'u harferion Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CCC), mae'n bwynt gwerthu go iawn i recriwtiaid iau i'w cwmnïau ac yn gynyddol, mae'n gwneud synnwyr busnes cadarn. Gobeithiwn y bydd cwmnïau yn ardal Abertawe yn edrych ar y cynnig yr ydym yn ei wneud ac yn ystyried plygio I mewn i'r tariff newydd fel ffordd ddi-drafferth o wneud eu gweithrediadau'n wyrddach, yn lanach ac yn canolbwyntio mwy ar y gymuned.


“Bydd llawer o bobl yn ymwybodol o Gower Power, sydd wedi bod yn brosiect llwyddiannus a redir gan y gymuned ers blynyddoedd. Mae popeth a wnawn wedi'i gynllunio i gefnogi mentrau cymunedol lleol - yn enwedig y rhai nad ydynt bob amser yn ei chael hi'n hawdd i gael cyllid - a bydd y tariff ynni gwyrdd hwn yn cefnogi'r gwaith pwysig hwn trwy gyfrannu elw yn ôl i'r prosiectau hyn.


“Rydym yn falch ein bod wedi ennill cefnogaeth Banc Datblygu Cymru a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, - maen nhw ill dau yn gweld y cynllun hwn fel un blaengar i Gymru. Byddem yn annog busnesau sydd â diddordeb mewn ffordd lanach, wyrddach o weithio a gwneud rhywfaint o les i'w cymuned leol, i gofrestru gyda Gower Power heddiw. Dim ond 300 o fusnesau a chartrefi y gallwn eu cefnogi felly byddem yn annog busnesau i achub ar y cyfle hwn nawr cyn ei bod hi'n rhy hwyr.”

Gall busnesau gofrestru trwy ymweld â https://www.gowerpower.coop/switchbusiness/


Dywedodd Dale Vince, Prif Weithredwr Ecotricity, “Mae'n wych ein bod yn gweithio gyda chwmni ynni cymunedol y mae ei ethos wedi'i gydweddu mor dda â'n un ni yn Ecotricity. Mae'n wych gallu helpu busnesau i ddatgarboneiddio eu defnydd o ynni a helpu cymunedau lleol i elwa o'r elw a gynhyrchir o werthiannau trydan gwyrdd - gan wirioneddol symud y ffordd y mae'r farchnad ynni wedi gweithredu cyhyd.”


Dywedodd Julie James, y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd: “Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau o gynhyrchu 1GW o ynni cymunedol dan berchnogaeth leol erbyn 2030. Mae prosiectau fel Gower Power Solar Storage yn hanfodol i’n helpu i gyrraedd y targedau hyn a gweld cymunedau’n elwa o ffyniant, economi sero net. Hoffwn longyfarch pawb yn Gower Power Solar Storage a dymuno’r gorau iddynt ar gyfer y dyfodol wrth iddynt arwain y ffordd yn cyflenwi trydan fel fferm solar gyntaf Cymru o dan berchnogaeth gymunedol a gobeithio gweld llawer o rai eraill yn dilyn eu llwybr yn y dyfodol.”


Dywedodd Nicola Griffiths o Fanc Datblygu Cymru: “Mae gan gynlluniau ynni adnewyddadwy fel Gower Power Solar Storage fuddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd hir dymor i bobl Cymru. Yn wir, gallwn gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy gyda hyd at £5 miliwn o'r Gronfa Benthyciadau Ynni Lleol fel rhan o'n hymdrechion i ddatblygu economi carbon isel yng Nghymru."


Ymhen amser, bydd aelodau o'r gymdeithas budd cymunedol yn penderfynu pa brosiectau a mentrau lleol fydd yn elwa o unrhyw incwm dros ben a gynhyrchir gan y fferm. Mae Gower Power Co-op CIC eisoes yn cefnogi nifer o brosiectau lleol gyda chyllid yn cael ei godi yn yr un modd, o werthu trydan gwyrdd o asedau solar mewn mannau eraill yn Abertawe.


Mae mwy o wybodaeth ar gael yn fan hyn www.gowerpower.coop / @gowerpowercoop