Cwmni cymorth TG o Gaerdydd yn ehangu yn dilyn cefnogaeth Banc Datblygu Cymru

Jo-Thomas
Dirprwy Reolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
b2b IT

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan b2b IT Services.

Mae b2b IT Services wedi cwblhau caffaeliad yn dilyn buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru.

O ganlyniad i'r caffaeliad mae b2b IT, sy'n darparu cymorth TG, datrysiadau cwmwl, gwasanaethau parhad busnes a seiber ddiogelwch, wedi ychwanegu rolau technegol newydd ac wedi symud i adeiladau newydd yng Nghanolfan Cyfryngau S4C, Caerdydd.

Dywedodd y Sylfaenydd Gyfarwyddwr, Luke Hodge “Mae ein twf hyd yma wedi bod yn ganlyniad uniongyrchol i allu'r cwmni i ddeall pob cleient ac yn eu tro eu gofynion TG. Mae darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid bob amser wedi bod, ac yn parhau i fod, yn brif flaenoriaeth i ni.”

Mae Cyfarwyddwr b2b IT, John Hurst, yn tynnu sylw at natur gaffaeliadol y busnes gan ddweud “Rydym bellach mewn sefyllfa lle mae gennym uwch dîm arweinyddol cryf a phartneriaethau allweddol i fynd ar drywydd caffaeliadau pellach. Mae ein symudiad i Ganolfan Cyfryngau S4C yn golygu bod gennym ofod swyddfa a chyfleusterau o'r radd flaenaf i ehangu.”

Meddai Joanna Thomas, Swyddog Buddsoddi, Banc Datblygu Cymru: “Mae b2b IT Services yn fusnes uchel ei barch yn y gofod cymorth TG ac mae ganddo sylfaen gref ac amrywiol o gleientiaid. Cefnogi timau rheoli galluog ac uchelgeisiol fel Luke a John yw'r union reswm pam fod y banc datblygu yn bodoli. Roeddem yn falch o wneud y buddsoddiad hwn i gefnogi'r caffaeliad busnes hwn a fydd yn helpu i gyflymu eu twf a dymunaf bob llwyddiant iddynt yn eu hadeiladau newydd.”

Mae'r symudiad yn rhoi B2B mewn lleoliad allweddol i gael mynediad at gysylltiadau trafnidiaeth a'r M4.

Aeth John ati i ddweud “Bydd y symudiad yn ein galluogi i barhau i ddenu a meithrin Gweithwyr TG proffesiynol eithriadol yn ogystal â chanolbwyntio ein harlwy busnes yn Ne Cymru a'r Gorllewin.”

Meddai Rhidian Dafydd, Cyfarwyddwr Prosiectau S4C, “Rydym yn falch iawn o gael b2b IT Services yn ymuno â ni yn un o'n swyddfeydd sydd newydd gael eu hadnewyddu yng Nghanolfan Cyfryngau S4C, Caerdydd. Mae prif leoliad y Ganolfan yn denu amrywiaeth o fusnesau fel b2b IT, gan agor mwy o gyfleoedd i dyfu yng Nghaerdydd a'r cyffiniau. Dymunwn bob llwyddiant i'r tîm yn b2b.”

Daeth y cyllid o Gronfa Fusnes Cymru, a ariennir yn rhannol gan yr ERDF, drwy Lywodraeth Cymru. Fe'i crëwyd yn benodol i gefnogi busnesau â llai na 250 o weithwyr yng Nghymru a'r rhai sy'n barod i symud yma.