Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Jo Thomas

Ymunais â’r tîm portffolio yn 2008 ac mae gennyf gefndir hir mewn rolau sy’n wynebu cwsmeriaid, gan helpu i ddarparu cyllid dilynol i gleientiaid ar draws nifer o sectorau – o fwyd a diod i weithgynhyrchu a pheirianneg.

Gan weithio allan o’n swyddfa yng Nghaerdydd, rwy’n mwynhau gweithio gyda busnesau twf a bargeinion cyfalaf datblygu a ariennir gan ecwiti.

Mae gen i fwy na 14 mlynedd o brofiad o helpu busnesau drwy ddyled mesanîn a chyllid ecwiti, ac rwy’n cefnogi  rhai o’n cronfeydd buddsoddiant allweddol, gan gynnwys Cronfa Busnes Cymru, Cronfa Buddsoddiadau Hyblyg Cymru a Chronfa Olyniaeth Rheolaeth Cymru – gyda phrofiad arbennig mewn strwythuro bargeinion ecwiti ar gyfer yr olaf.

Gyda fy nghefndir mewn meithrin perthnasoedd cryf a pharhaol gyda’n cwsmeriaid a’u cefnogi gyda chyllid, gallaf eu helpu i dyfu ar bob cam o’u busnes.