A yw cynlluniau busnes yn angenrheidiol y dyddiau hyn?

Newidwyd:
writing on napkin

Rydym i gyd wedi clywed bod rhai o’r busnesau gorau’n dechrau mewn bwyty gyda nodiadau bras wedi’u hysgrifennu ar gefn hances bapur. Os felly, yna pam mae llu o bobl yn astudio entrepreneuriaeth ac yn mynd yn ôl i’r ysgol [fusnes] i ddysgu sut i ysgrifennu cynlluniau busnes?

Mae’r agwedd tuag at entrepreneuriaeth wedi esblygu. Yn hanesyddol, roedd cred nad oedd yn bosibl dysgu entrepreneuriaeth i rywun. Mae hynny wedi newid. Yn ogystal â bod modd ei ddysgu i bobl, mae ganddo gysylltiad cadarnhaol â llwyddiant!

Ond gadewch i ni fod yn glir - yn aml, nid yw cynllun busnes da yn diogelu yn erbyn y prif reswm pam nad yw busnesau newydd yn llwyddo. Yn ôl CB Insights, mae hyn oherwydd ‘Dim Angen yn y Farchnad’. Dim ond ar ôl eich gwerthiant cyntaf y byddwch yn gwybod hyn mewn gwirionedd.

Fodd bynnag, gall cynllun busnes ag ôl ymchwil manwl arno ddiogelu yn erbyn y pethau canlynol, y mae pob un ohonynt ar y rhestr o’r 10 prif reswm pam mae busnesau newydd yn methu.

  • Dim digon o arian – Mae model ariannol realistig yn helpu i liniaru hyn.
  • Y tîm anghywir – Gall asesu’r sgiliau a’r blychau o fewn y tîm yn feirniadol eich helpu i sylweddoli hyn cyn ei bod hi’n rhy hwyr.
  • Gormod o gystadleuaeth - Bydd dadansoddiad SWOT neu ddadansoddiad Pum Grym Porter yn eich helpu i ddeall a ydych yn ymuno â marchnad lle nad oes cystadleuaeth neu a ddylech fod yn paratoi am frwydr.
  • Problemau prisio / costau – Mae cynllun busnes yn eich gorfodi i adolygu eich costau yn fanwl ac adolygu eich pris gwerthu targed mewn perthynas â’r gystadleuaeth. Mae prisio fel arfer yn ‘ysgogydd’ pwerus y gall busnes ei ddefnyddio i wella elw, sy’n cael ei anwybyddu yn aml.  
  • Cynnyrch heb fodel busnes – Ym 1989, dywedodd Kevin Costner y geiriau enwog, “If you build it, they will come.” Yn anffodus, mae nifer y busnesau newydd sydd wedi methu wedi profi nad yw hyn yn wir. Bydd cynllun busnes priodol yn eich helpu i bennu eich model refeniw a sut y byddwch yn denu ac yn cadw cwsmeriaid.
  • Marchnata gwael – “Drwy fethu â chynllunio, byddwch yn cynllunio i fethu.” Gan fod toreth o gipolygon data ac elw o fuddsoddiadau ar gael, nid yw marchnata bellach yn gelfyddyd ddirgel.  Bydd gwaith ymchwil yn eich helpu i nodi a yw eich strategaeth farchnata yn addas ar gyfer eich cynulleidfa darged.

 

A ydych yn dal heb eich argyhoeddi bod angen cynllun busnes arnoch?

Dyma rai rhesymau pwysig eraill pam rydym yn credu bod cynlluniau busnes yn syniad da:

  1. Cyfathrebu – mae dechrau busnes newydd yn golygu llawer iawn o waith cyfathrebu er mwyn cyfleu eich syniadau – gyda’ch tîm, eich Bwrdd ac unrhyw fuddsoddwyr posibl. Mae rhoi eich syniadau ar bapur yn dangos eich bod o ddifrif a’ch bod wedi ystyried y cyfle hwn yn drwyadl, felly efallai y byddai’n werth i eraill wneud yr un peth.  
  2. Dysgu gan eraill – Manteisiwch ar y cyfle i ddysgu o gamgymeriadau eich cystadleuwyr. Nid hap a damwain oedd eu model busnes. Mae’n debygol eu bod wedi ei lunio drwy waith caled ar ôl wynebu nifer o anawsterau.
  3. Amser creadigol - Proses yw arloesedd ac mae angen neilltuo amser ar ei gyfer. Yn y gymdeithas sydd ohoni, gall gormod o wybodaeth lethu ein creadigrwydd. Cymerwch amser i feddwl. Pwy a ŵyr lle y bydd eich dychymyg yn eich arwain ar y llwybr tuag at lwyddiant eich busnes. 

Rydym yn eich annog i ddilyn yr union syniad y gwnaethoch ei ysgrifennu ar gefn yr hances bapur, ond dylech lunio cynllun busnes yn gyntaf fel eich bod yn gwybod a ddylech fframio’r hances honno neu fynd yn ôl, o bosibl, i’r un bwyty i weld a fyddwch yn cael eich ysbrydoli unwaith eto.

Os ydych yn byw yng Nghymru ac os oes gennych ddiddordeb mewn llunio cynllun busnes ond nid ydych yn gwybod lle i ddechrau, mae Busnes Cymru yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim.

 

Cyfranwyr:

Alexander Leigh, Swyddog Buddsoddi Banc Datblygu Cymru

Michael Rees, Dadansoddwr Cymorth Buddsoddi Banc Datblygu Cymru