Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Dirprwy Reolwr Cronfa

Rydym yn recriwtio ar gyfer Rheolwr Ar gyfer Dirprwy Gronfa wedi ei leoli ai yng Nghaerdydd

Pwrpas y swydd

Y Dirprwy Reolwr Cronfa sy’n bennaf gyfrifol am ddarparu cymorth rheoli i’r tîm Eiddo. Bydd hyn yn cynnwys darparu arweiniad a chanllawiau i Uwch Weithredwyr Datblygu Eiddo (“SPDE”) / Swyddogion Gweithredol Datblygu Eiddo (“PDE”) / Swyddogion Datblygu Eiddo Cynorthwyol (“APDE”), awdurdodi cytundebau o fewn awdurdod dirprwyedig a chwblhau / tynnu buddsoddiadau datblygu eiddo i lawr ar ran y tîm Eiddo.

Mae’r Dirprwy Reolwr Cronfa hefyd yn gyfrifol am y broses werthuso ar gyfer ceisiadau am fuddsoddiadau datblygu eiddo, paratoi adroddiadau lle bo hynny’n briodol, strwythuro a negodi buddsoddiadau ac ymgymryd â diwydrwydd dyladwy (yn fewnol neu’n allanol) gyda’r bwriad o argymell buddsoddiadau datblygu eiddo i Reolwr y Gronfa Eiddo, y Cyfarwyddwr, y pwyllgor buddsoddi a/neu’r bwrdd.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

  • Ysgwyddo’r prif gyfrifoldeb dros reoli buddsoddiadau mewn eiddo drwy dîm o SPDE / PDE / APDE ar draws y Banc Datblygu.
  • Cyfrannu at weithredu’r cronfeydd datblygu eiddo amrywiol mae’r tîm Eiddo yn eu rheoli (y “cronfeydd”) fel uwch ddarparwr proffesiynol cyfalaf risg i fusnesau newydd a busnesau sy’n bodoli’n barod, yn unol â chanllawiau gweithredu buddsoddi a thelerau cymeradwyo Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF).
  • Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu gweithdrefnau a phrosesau fel y nodir yng nghanllawiau gweithredu buddsoddi’r Cronfeydd.
  • Gwerthuso a chymeradwyo argymhellion buddsoddi mewn datblygu eiddo hyd at lefel awdurdod dirprwyedig.
  • Asesu ceisiadau am gyllid, cynnal diwydrwydd dyladwy priodol a pharatoi adroddiadau angenrheidiol i Reolwr y Gronfa Eiddo, y Cyfarwyddwr, a’r pwyllgor buddsoddi.
  • Arwain, rheoli a chymell tîm o SPDE / PDE / APDE a staff cymorth, gan ddarparu hyfforddiant/arweiniad buddsoddi lle bo angen.
  • Creu, datblygu a chynnal rhwydwaith o gysylltiadau sy’n gallu darparu arweiniad a llif bargeinion a darparu cymorth rhagweithiol i dîm o SPDE / PDE / APDE ar gyfer gweithgareddau datblygu busnes a chynhyrchu bargeinion.
  • Bod yn gyfrifol am gwblhau a thynnu trafodion i lawr o fewn y tîm Eiddo, gan gynnwys cymeradwyo ffeiliau.
  • Ymgysylltu â thimau eraill Banc Datblygu Cymru pan fo angen.
  • Creu, datblygu a chynnal rhwydwaith o gysylltiadau sy’n gallu darparu arweiniad a llif cytundebau ar gyfer y Cronfeydd.
  • Cynorthwyo'r gwaith o ledaenu enghreifftiau o arfer gorau ar gyfer gwneud cais i’r Gronfa i gyflwynwyr busnes allweddol a sicrhau bod y broses ymgeisio’n cael ei mireinio a’i gwella’n barhaus er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i gleientiaid.
  • Cyfrannu at gynllunio a gweithredu systemau gwybodaeth gweinyddu a rheoli ar gyfer y Cronfeydd.
  • Cynorthwyo Rheolwr y Gronfa Eiddo, y Cyfarwyddwr, ac uwch dîm rheoli’r Banc Datblygu i hyrwyddo arferion gorau ar gyfer materion amgylcheddol a chyfle cyfartal o fewn y gronfa.
  • Cynorthwyo Rheolwr a Chyfarwyddwr y Gronfa Eiddo i roi cyngor ac arweiniad arbenigol i’r Banc Datblygu wrth ddatblygu cynnyrch ariannol newydd i fynd i’r afael â’r bylchau yn y ddarpariaeth a diwallu anghenion busnesau yng Nghymru.
  • Traddodi cyflwyniadau, cymryd rhan a chynrychioli’r Cronfeydd, lle bo hynny’n briodol, mewn cyfarfodydd, seminarau, digwyddiadau a gweithgareddau grŵp ar y cyd.
  • Cynorthwyo i farchnata/hyrwyddo’r Cronfeydd ar y cyd â gwaith codi ymwybyddiaeth ehangach y Banc Datblygu.
  • Dirprwyo ar ran Rheolwr y Gronfa Eiddo pan fo angen, gan gynnwys defnyddio pwerau dewisol.
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan Reolwr y Gronfa Eiddo i fodloni anghenion gweithredol y Cronfeydd.

Gwybodaeth, Sgiliau, Cymwysterau a Phrofiad

Hanfodol

  • Profiad sylweddol o fuddsoddi mewn datblygu eiddo a’r gallu i weithio drwy drafodion cymhleth a heriau technegol gyda chyn lleied â phosibl o gymorth neu oruchwyliaeth.
  • Sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a rhyngbersonol cryf ar lefel bwrdd a thîm.
  • Profiad o reoli, annog a hyfforddi adroddiadau aml-linell.
  • Credadwy, yn gallu trafod yn hyderus a chynrychioli’r Banc Datblygu yn y gymuned fusnes leol.
  • Gallu cymell eich hun, gyda’r gallu i weithredu’n rhagweithiol
  • Gallu gweithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm.
  • Hyderus yn ei sgiliau gwneud penderfyniadau ei hun.
  • Gallu blaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau.
  • Yn gallu dangos tystiolaeth o sylw trylwyr i fanylion.
  • Profiad o adolygu, cyflwyno a noddi papurau caniatáu aelodau’r tîm cyn eu cyflwyno’n ffurfiol.
  • Dealltwriaeth o brosesau a gweithdrefnau asesu risg a buddsoddi.
  • Profiad o ddadansoddi gwybodaeth ariannol, adroddiadau prisio ac astudiaethau dichonolrwydd.
  • Sgiliau TG gan gynnwys y gallu i ddefnyddio Microsoft Word, Excel, PowerPoint ac Outlook.

Dymunol

  • Profiad o wella a chynnal systemau, gweithdrefnau a thempledi allweddol.
  • Profiad o werthuso bargeinion yn feirniadol a chydbwyso ystyriaethau tanysgrifennu â blaenoriaethau buddsoddi mewn cronfeydd.
  • Profiad o reoli rhanddeiliaid allanol allweddol.
  • Dealltwriaeth o Grŵp Banc Datblygu Cymru a’i weithgareddau.
  • Rhwydwaith wedi ei sefydlu ar draws sector eiddo Cymru.
  • Siarad Cymraeg.
  • Trwydded Yrru.

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.cymru

Dyddiad cau: Hydref 24