Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Uwch Swyddog Buddsoddi

Rydym yn chwilio am rywun ar gyfer swydd Uwch Swyddog Buddsoddi yng Nghaerdydd.

Pwrpas y swydd

Mae’r uwch swyddog buddsoddi yn gyfrifol am gasglu a gwerthuso ceisiadau am fuddsoddiadau i Gronfeydd y Banc Datblygu. Gwneir buddsoddiadau o dan delerau masnachol ac yn unol â’r meini prawf buddsoddi a bennir gan y Banc Datblygu. Mae modd strwythuro buddsoddiadau fel ecwiti, benthyciadau neu fesanîn neu gyfuniad o’r uchod.

Ar ben hynny, darparu cymorth rheoli tîm i Reolwr y Gronfa Buddsoddiadau Newydd, gan ddarparu arweinyddiaeth a chyfarwyddyd i’r tîm Buddsoddiadau Newydd ac o bosibl bod yn rheolwr llinell uniongyrchol ar Swyddogion Buddsoddi.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:

  • Canfod a gwerthuso cynigion buddsoddi. Fel arfer, bydd buddsoddiadau’n ddiwarant felly mae’r gallu i ddeall tybiaethau llif arian sylfaenol a’r hyder i ymchwilio i’r rhain yn fanwl a herio rhagdybiaethau yn hollbwysig.
  • Cyflawni yn erbyn targedau buddsoddi a chynhyrchu, ac unrhyw dargedau eraill sy’n benodol i’r gronfa fel y nodir yn flynyddol.
  • Cynnal diwydrwydd dyladwy trylwyr a chadarn o ran gwaith rheoli, ariannol a masnachol wrth ystyried cyfleoedd buddsoddi ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â phob buddsoddiad. Meddu ar yr hyder i herio gwybodaeth ariannol ar lefel bwrdd.
  • Negodi telerau ac amodau sy’n ymwneud â dogfennau cyfreithiol ar draws ystod eang o fathau o gytundebau a darparu cymorth i gydweithwyr.
  • Paratoi adroddiadau buddsoddi sydd o safon uchel gyson ar gyfer caniatáu credyd.
  • Sicrhau bod dogfennau cyfreithiol yn cael eu cwblhau.
  • Cyfrannu at weithredu’r Banc Datblygu fel cwmni rheoli cronfeydd proffesiynol a darparwr cyfalaf risg i fusnesau newydd a busnesau sy’n bodoli eisoes, yn unol â thelerau cymeradwyo Llywodraeth Cymru a Chronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF)
  • Cynnal a datblygu gwybodaeth dechnegol ac sy’n benodol i’r diwydiant a chymryd yr awenau er mwyn sicrhau arferion gorau a chydymffurfiad mewn gweithgareddau buddsoddi ar draws Buddsoddiadau Newydd
  • Cysylltu’n agos â’r tîm portffolio ar ôl buddsoddi a’u cefnogi yn ôl yr angen i gynnal y berthynas gyda’r cwmni sydd wedi cael y buddsoddiad a hwyluso buddsoddiadau ychwanegol fel sy’n briodol.
  • Bod yn arweinydd busnes amlwg wrth siarad am ddatrysiadau cyllido. Lledaenu enghreifftiau o arfer gorau ar gyfer gwneud cais i’r gronfa i gyflwynwyr busnes allweddol a sicrhau bod y broses ymgeisio’n cael ei mireinio a’i gwella’n barhaus er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i gleientiaid
  • Cynnal rhwydwaith eang gyda nifer o berthnasau cynhwysfawr gyda darparwyr busnes allweddol a chyfryngwyr i ddod o hyd i gyfleoedd buddsoddi addas.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i gynnal ac arwain digwyddiadau sy’n hybu llif o gytundebau. Dylunio a chynnal gweithdai. Cymryd rhan a chynrychioli’r Banc Datblygu, lle bo hynny’n briodol, mewn cyfarfodydd, seminarau, digwyddiadau a gweithgareddau grŵp ar y cyd.
  • Gweithredu o dan gyfyngiadau awdurdod dirprwyedig a Chanllawiau Gweithredol Buddsoddi. Bod yn arbenigwr mewn cymhwysedd ac IOGs a chefnogi cydweithwyr yn y tîm yn y maes hwn.
  • Cymryd yr awenau gyda gwaith marchnata/hyrwyddo y Banc Datblygu
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan reolwr y gronfa i fodloni anghenion gweithredol yr adran

Gwybodaeth, Sgiliau, Galluoedd a Phrofiad

Hanfodol 

  • Profiad sylweddol o fuddsoddi neu roi benthyg i fusnesau bach a chanolig
  • Profiad blaenorol o baratoi adroddiadau credyd
  • Dealltwriaeth ddofn o brosesau a gweithdrefnau asesu risg a buddsoddi
  • Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a dylanwadu cadarn
  • Gallu gweithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm
  • Hyderus yn ei sgiliau gwneud penderfyniadau ei hun
  • Gallu blaenoriaethu a threfnu gwaith o dan bwysau
  • Gallu arwain a rheoli prosiectau tîm ar drafodion mwy
  • Rhoi sylw i fanylder
  • Profiad helaeth o ddadansoddi gwybodaeth ariannol
  • Rhwydwaith o gyflwynwyr sydd â lle i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.

 

Dymunol 

  • Profiad o Gyfalaf Menter/Ecwiti neu gyllid drwy ddyledion
  • Profiad uniongyrchol o gyllid corfforaethol neu wasanaethau trafodion
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl y sector cyhoeddus o ran cyllid ar gyfer busnesau bach a chanolig
  • Dealltwriaeth o’r amgylchedd busnes rhanbarthol
  • Siarad Cymraeg (ar gyfer swyddi yng Nghymru)
  • Trwyddd Yrru
  • Sgiliau TG gan gynnwys y gallu i ddefnyddio Microsoft Word, Excel, PowerPoint, Sage Winforecast

 

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i ein tudalen recriwtio