Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Cynorthwy-ydd Pobl a Datblygu

Rydym yn chwilio am Cynorthwy-ydd Pobl a Datblygu i weithio yng Nghymru

Pwrpas y swydd

Darparu cyngor Pobl a Datblygu proffesiynol ac effeithlon ar gyfer Grŵp Banc Datblygu Cymru. Darparu ymatebion cyfrinachol, cywir, defnyddiol ac amserol ynghylch materion Pobl a Datblygu megis hyfforddiant, rheoli absenoldeb, recriwtio, rheoli perfformiad, ymchwiliadau a disgyblaethau. Cyfeirio at bolisïau a gweithdrefnau Pobl a Datblygu yn ogystal ag arfer gorau. Gweithio'n agos gyda'r Partneriaid Busnes i sicrhau bod yr adran yn rhedeg yn esmwyth. 

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau:

  • Cymryd cyfrifoldeb am y system a'r broses Rheoli Perfformiad
  • Arwain ar hyfforddiant a datblygu ar gyfer y grŵp, gan sicrhau bod y broses gywir yn cael ei dilyn a bod yr holl hyfforddiant yn cael ei ddogfennu'n gywir.
  • Cydgysylltu â Rheolwyr Llinell a'r Pwyllgor Gwaith i ddatblygu cynlluniau a rhaglenni hyfforddi;
  • Rheoli darpariaeth darparwyr hyfforddiant allanol fel y bo'n briodol – datblygu cynnwys y cwrs, negodi a meincnodi darparwyr;
  • Darparu arweiniad a chymorth ymarferol yn ymwneud â materion Pobl a Datblygu ar gyfer rheolwyr a gweithwyr.
  • Darparu sgiliau hyfforddi a mentora ar gyfer rheolwyr llinell er mwyn eu cynorthwyo i hyfforddi cydweithwyr a, hyfforddi cydweithwyr yn uniongyrchol  yn ôl yr angen;
  • Sicrhau cysondeb wrth gymhwyso polisïau a gweithdrefnau Banc Datblygu Cymru ar draws y grŵp.
  • Darparu adroddiadau Pobl a Datblygu cywir ar absenoldeb, gweithwyr sy’n dechrau o’r newydd, ymadawyr ac adroddiadau rheoli, gan ymchwilio i dueddiadau i gefnogi'r cwmni a chreu adroddiadau ar hap yn ôl yr angen.
  • Adolygu, datblygu a gweithredu polisïau Pobl a Datblygu o fewn y Banc Datblygu, gan ymchwilio i arferion gorau i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth
  • Cynorthwyo rheolwyr i ddrafftio proffiliau rôl i sicrhau cydymffurfiaeth â system werthuso Mercer
  • Bod yn gyfrifol am holl weinyddiaeth Pobl a Datblygu’r grŵp, gan sicrhau y cedwir cofnodion cywir perthnasol i’r gweithwyr
  • Cefnogi’r broses recriwtio mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’r gyfraith, helpu i baratoi hysbysebion, gwirio ffurflenni cais, cyfathrebu ag ymgeiswyr, cynorthwyo rheolwyr llinell i lunio rhestr fer, cyfweld a dewis ymgeiswyr, gan sicrhau y cedwir at y polisi recriwtio
  • Cynllunio a gweithredu'r rhaglen sefydlu ar gyfer gweithwyr sy’n dechrau o’r newydd, gan gysylltu â rheolwyr llinell a’r gweithwyr perthnasol
  • Cydlynu ymchwiliadau a gwrandawiadau disgyblu, gan sicrhau dull gweithredu deg a chyson.
  • Cefnogi'r broses gyflogres yn ôl yr angen.
  • Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth fel rhan o ddiwylliant Grŵp Banc Datblygu Cymru
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan y Partneriaid Busnes i ddiwallu anghenion gweithredol y sefydliad.

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad: 

Hanfodol 

  • Hanes profedig o hyfforddi a hyfforddiant
  • Meddu ar ddealltwriaeth o bolisïau a gweithdrefnau Pobl a Datblygu. Sicrhau gwybodaeth am arfer gorau
  • Y gallu i ddadansoddi materion Pobl a Datblygu a gwerthuso atebion a chanlyniadau tebygol
  • Cymhwyster lefel 5 CIPD
  • Y gallu i gyfathrebu ac ymdrin yn effeithiol ac yn ddiplomyddol ag ystod eang o bobl ar bob lefel
  • Cynnal lefel uchel o gyfrinachedd bob amser
  • Sgiliau datrys problemau a blaenoriaethu da
  • Lefel uchel o sgiliau trefnu, gweinyddu a rheoli amser
  • Ffocws cryf ar y 'cwsmer' 
  • Llygad grff am fanylion a dull gweithredu trefnus
  • Yn meddu ar hunan-gymhelliant a'r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • Llythrennog mewn TG gan gynnwys defnyddio Word, Excel, Powerpoint

Dymunol

  • Yn gyfarwydd â systemau Pobl a Datblygu (Cascade, Docusign, EmPerform)
  • Yn gallu siarad Cymraeg
  • Ymwybyddiaeth o farchnad BBaChau Cymru a Lloegr

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, dilynwch y ddolen yma os gwelwch yn dda