Cwmni fferyllol byd-eang yn caffael busnes technoleg feddygol Gogledd Cymru

Michael-Bakewall
Dirprwy Pennaeth Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cyllid a chyfrifo
Ariannu
Twf
Aparito

Mae’r cwmni fferyllol byd-eang Eli Lilly and Company wedi caffael Aparito, y busnes meddygol technoleg o Wrecsam a sefydlwyd gan Dr Elin Haf Davies ac a ariennir yn rhannol gan Fanc Datblygu Cymru sydd bellach yn gadael gyda enillion cychwynnol o 2.9x ar eu £ 1.2 miliwn o fuddsoddiad ecwiti gyda'r potensial i hyn godi i 3.2x yn dibynnu ar berfformiad y Cwmni maes o law.

Wedi'i sefydlu yn 2014 fel rhan o'r Bethnal Green Ventures Accelerator, mae Aparito yn fusnes meddalwedd sy'n canolbwyntio ar gyflymu datblygiad cyffuriau trwy ddigideiddio treialon clinigol datganoledig. Wedi'i ddatblygu i ddechrau ar gyfer clefydau prin, Aparito's Atom5™ platfform eCOA mae’n caniatáu i astudiaethau clinigol gael eu cynnal unrhyw bryd, unrhyw le, gan alluogi cleifion a'u gofalwyr i gymryd rhan mewn treialon clinig gartref. Cesglir data gan gleifion gan ddefnyddio asesiadau fideo, dyfeisiau gwisgadwy a chanlyniadau electronig a adroddir gan gleifion (a adwaenir yn y maes fel ePROs).

Yn 2017, ymunodd Aparito â chyflymydd technoleg iechyd G4A Bayer Pharmaceuticals. Yna gwnaeth Banc Datblygu Cymru y cyntaf o dri buddsoddiad ecwiti gwerth cyfanswm o £1.2 miliwn ochr yn ochr â chyd-fuddsoddwyr Bethnal Green Ventures, Wealth Club ac Ascension VC.

Gyda'i bencadlys yn Indianapolis, Indiana, mae gan Eli Lilly and Company swyddfeydd mewn 18 o wledydd ac mae'n gwerthu cynhyrchion meddygol ledled y byd. Mae Aparito bellach yn is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Eli Lilly and Company. Mae Dr Davies yn parhau gyda'r busnes fel Prif Weithredwr ynghyd â phob un o'r 26 aelod o staff yn Wrecsam a phump yn Barcelona. Bydd y cwmni'n parhau â'i weithrediadau yn Wrecsam.

Dywedodd Mike Bakewell, Dirprwy Reolwr Portffolio Tîm Buddsoddiadau Mentrau Technoleg yn y Banc Datblygu: “Mae Elin yn arloeswr gwirioneddol ac yn llysgennad gwych i fentergarwyr benywaidd yng Nghymru. Mae hi wedi adeiladu busnes rhyngwladol llwyddiannus gyda gwerthoedd cryf sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r sector meddygol byd-eang a'r economi leol yng Ngogledd Cymru. Mae Aparito wedi dangos potensial gwirioneddol o'r diwrnod cyntaf. Rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan yn nhwf llwyddiannus y busnes gyda’n cyllid ecwiti cyfnod cynnar a helpodd i ariannu costau ymchwil a datblygu. Bydd ein henillion yn awr yn cael ei ailgylchu i gwsmeriaid newydd sydd hefyd ag addewid masnachol, gan greu gwerth am arian hirdymor i Gymru.”

Dechreuodd Dr Elin Haf Davies ei gyrfa fel nyrs plant yn Ysbyty Great Ormond Street yn 2001, gan gwblhau ei PhD yng Ngholeg Prifysgol Llundain cyn symud i fod yn Weinyddwr Gwyddonol yn y Tîm Pediatrig gyda'r Asiantaeth Gwerthuso Meddyginiaeth Ewropeaidd cyn sefydlu Aparito. Mae hi'n hoff o chwaraeon ac mae hi hefyd wedi gwneud enw iddi'i hun ym myd rygbi, gan ennill 13 Cap i dîm A Cymru a rhwyfo ar draws Môr Iwerydd a Chefnfor India.