Dechrau newydd i Nu-Staff wrth i Fanc Datblygu Cymru gyflawni all-bryniant rheolwyr

Kelly-Freeman
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Prynu busnes
Ariannu
Marchnata
Nu-Staff

Mae Cyfarwyddwyr asiantaeth recriwtio Cas-gwent Nu-Staff wedi cwblhau all-bryniant rheolwyr sydd wedi’i ariannu’n rhannol gan fenthyciad chwe ffigur gan Fanc Datblygu Cymru.

Cynghorodd GS Verde Group David Matthews a Paul Fletcher ar gaffael y busnes a sefydlwyd gyntaf gan y diweddar John Scriven yn 1993. Dechreuodd Paul gyda Nu-Staff yn 2001 tra ymunodd David â’r cwmni fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau ym mis Chwefror 2021, ar ôl gwario dros 20 mlynedd yn gweithio ym maes recriwtio yn Ne Cymru. Byddant yn gweithio ochr yn ochr â'r cyd-gyfarwyddwr Michelle Mallett.

Yn gweithredu ledled De Cymru a'r Gorllewin, mae gan Nu-Staff swyddfeydd yng Nghas-gwent a Chwmbrân. Mae sectorau craidd yn cynnwys awyrofod, gweithgynhyrchu, modurol, masnachol a pheirianneg gyda chleientiaid sy'n cynnwys enwau cyfarwydd.

Meddai’r Cyfarwyddwr David Matthews: “Roedd John yn weithiwr recriwtio proffesiynol uchel ei barch a hoffus a weithiodd yn galed i ddatblygu Nu-Staff dros gyfnod o 30 mlynedd. Roedd yn ymfalchïo'n fawr mewn mynd gam ymhellach i baru'r unigolion cywir â'r cyflogwyr cywir. Iddo ef, roedd enw da yn golygu popeth.

“Rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar etifeddiaeth John a byddwn yn parhau i dreulio’r amser angenrheidiol i ddeall gofynion parhaus a chyfnewidiol y cleient a’r farchnad. Yn wir, rydym i gyd yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth hir dymor gyda gwasanaethau wedi'u teilwra sy'n diwallu anghenion ein cleientiaid ar draws de Cymru a gorllewin Lloegr. Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gawsom gan GS Verde Group a’r Banc Datblygu i’n galluogi i symud y busnes yn ei flaen.”

Dywedodd Mike Fenwick, Cyfarwyddwr a Phennaeth Cyllid Corfforaethol ar gyfer GS Verde Group: “Roeddem yn falch iawn o fod wedi gweithio ar yr all-bryniant rheolwyr ochr yn ochr â’r Banc Datblygu, oherwydd bydd yn golygu bod parhad y busnes yn cael ei sicrhau. Roedd yn bleser cynorthwyo’r tîm rheoli ac rydym yn gyffrous i weld beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig iddynt.”

Mae Kelly Freeman yn Swyddog Buddsoddi gyda'r Banc Datblygu. Meddai: “Mae asiantaethau recriwtio yn chwarae rhan fawr ym marchnad lafur Cymru; gan helpu cyflogwyr i recriwtio'r sgiliau sydd eu hangen arnynt a chefnogi symudedd cymdeithasol. Mae Nu-Staff wedi goroesi prawf amser ac mae ganddo ddyfodol cyffrous o'i flaen wrth i'r tîm newydd gymryd yr awenau i redeg y busnes sefydledig hwn. Dymunwn bob llwyddiant iddynt.”

Daeth y benthyciad ar gyfer Nu-Staff o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau yng Nghymru o £25,000 i £10 miliwn.