Buddsoddi i gael effaith – Sut yr ydym yn cynnig llawer mwy nag arian i fusnesau uchelgeisiol Cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynaliadwyedd
portfolio-impact

Rydym ymysg un o’r buddsoddwyr sy’n cael y mwyaf o effaith yn y DU. Rydym yn helpu cwsmeriaid i ymgymryd â heriau a chyfleoedd mwy drwy ddarparu’r buddsoddiad cywir, ar yr adeg gywir.

Ein nod yw gwireddu uchelgeisiau a chyflwyno posibiliadau i bobl, busnesau a chymunedau Cymru. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’n buddsoddiadau gyflawni mwy nag elw ariannol, neu rifau ar daenlen. Yn amlwg, rydym am sicrhau ein bod yn cefnogi busnesau sy’n dangos addewid – ac i ni, mae hynny’n golygu llawer mwy nag arian.

Mae’n ein tîm o swyddogion portffolio yn creu cysylltiadau cryf gyda’n cwsmeriaid, gan sicrhau bod busnesau hirsefydlog yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

Wedi’u gwasgaru ar hyd a lled Cymru, mae ein timau lleol yn rhoi wyneb i’n henw. Mae eu cyfuniad o brofiad, natur gyfeillgar a synnwyr busnes yn golygu bod cwsmeriaid yn dychwelyd atom dro ar ôl tro. Maent yn helpu busnesau ar hyd y daith, o’r camau cychwynnol i drefniadau olynu.

Maent yn helpu cwsmeriaid i gael cyllid dilynol pan fydd ei angen arnynt, yn ogystal â rhwydweithio a helpu i greu busnesau gwell. 

Mae’r math hwnnw o gymorth yn hynod bwysig wrth i fwy a mwy o fusnesau geisio newid i fod yn fusnesau Sero Net a bod yn fwy cynaliadwy yn gymdeithasol – boed hynny’n anelu at statws BCorp, lleihau’r defnydd o ynni, neu newid eu ffordd o fasnachu er mwyn dileu’r angen i ddefnyddio ynni yn y lle cyntaf.

Enghraifft wych o’r math o gyllid yr ydym yn ei gynnig yw’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd, ble rydym wedi gweld yr hyn mae’r busnesau rydym yn gweithio gyda nhw ei angen a chreu rhywbeth i’w cefnogi’n uniongyrchol – yn yr achos hwn eu helpu ar hyd y daith tuag at ddatgarboneiddio.

Dyma rai o’r llwyddiannau a welsom drwy gefnogi ein cwsmeriaid presennol:

  • Fe wnaeth Hadley Hotels, a gafodd £75,000 gennym drwy Gynllun Benthyciad Bunses Covid-19 Cymru yn 2020, gais llwyddiannus am grant Ynni Adnewyddadwy Sir Gaerfyrddin i osod paneli solar newydd ar y safle, a hynny ar ôl i ni ei atgyfeirio. Mae’n un o’r cannoedd o fusnesau yr ydym wedi’u helpu, nid dim ond drwy roi buddsoddiad iddynt ond drwy eu cyflwyno i’r rhwydwaith o gymorth busnes sy’n bodoli ledled Cymru, yr ydym yn rhan ohono.
     
  • Fe wnaethom hefyd fuddsoddi Depot, cwmni digwyddiadau ac adloniant poblogaidd yng Nghaerdydd, a’i alluogi i agor safle newydd ym Mae Caerdydd yn ystod yr haf.  Yn ogystal â darparu’r buddsoddiad yr oedd ei angen i agor y safle newydd, rydym wedi helpu Depot i addasu’r adeilad gan gadw effaith amgylcheddol yn y cof. Mae’r holl ynni y mae Outpost yn ei ddefnyddio yn ynni adnewyddadwy, ac mae goleuadau LED wedi’u gosod drwy’r adeilad cyfan. Mae holl gyfarpar y gegin yn defnyddio trydan yn lle nwy, ac mae silindr 300L heb fent wedi’i osod ar y safle i ddarparu dŵr poeth. 
     
  • Rhoesom gymorth i Cooks Professional ym Mhowys drwy roi benthyciad iddo yn gynharach eleni, sy’n golygu ei fod wedi gallu newid hen fflyd o gerbydau petrol a oedd yn cael eu defnyddio gan gyfarwyddwyr y cwmni i geir trydan. Yn ogystal â newid i geir trydan, mae’r busnes – sy’n gwerthu offer coginio a chynnyrch trydanol i ddefnyddwyr ledled y byd – bellach yn gweithio gyda chyflenwyr i leihau gwastraff plastig yn ei ddeunydd pacio, ac yn defnyddio cludwyr carbon niwtral i ddosbarthu nwyddau i gwsmeriaid.

Meddai Rachel Miles, Rheolwr Portffolio: “Mae’r berthynas hirdymor rydym yn ei chreu gyda’n cwsmeriaid yn rhoi cyfle i ni ddod i’w hadnabod yn dda ac i ddeall y math o gymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mae’r berthynas hon yn amhrisiadwy os byddant yn dod atom i gael buddsoddiad pellach – mae’n golygu ein bod yn deall y ffordd orau o dargedu unrhyw gyllid dilynol, a sut i chwilio am ffyrdd o sbarduno twf.

“Mae’r llwybr hwnnw tuag at dwf yn bwysicach fyth wrth i fusnesau chwilio am ffyrdd o ddatgarboneiddio a chynnwys cynaliadwyedd yn yr hyn y maent yn ei wneud.”