Bydd paneli solar newydd yn helpu i bweru Halen Môn, diolch i gymorth gan y Banc Datblygu.

John-Babalola
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Twf
Cynaliadwyedd
HalenMon

Mae un o frandiau mwyaf adnabyddus Cymru wedi cymryd y cam nesaf yn ei daith ddatgarboneiddio, gyda chefnogaeth benthyciad gwyrdd gan Fanc Datblygu Cymru.

Sefydlwyd Halen Môn gan y cwpl David ac Alison Lea-Wilson yn 1996, ac mae bellach yn fusnes byd-enwog sydd wedi ennill ei blwyf fel ffefryn ymysg bwyd-garwyr dros y byd i gyd. Cafodd cynnyrch y cwmni ei weini yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012 ac mae wedi bod ar fwydlenni yn rhai o fwytai gorau’r byd, gan gynnwys The Fat Duck.

Mae gan Halen Môn statws Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO) yn Ewrop a’r DU, sy’n cydnabod natur unigryw ei gynnyrch. Mae hefyd yn cyflenwi archfarchnadoedd mawr gan gynnwys Waitrose a Marks & Spencer.

Mae’r busnes, sy’n allforio halen môr a gynaeafir ar Ynys Môn i bedwar ban byd, wedi gosod system paneli solar 100kw newydd ar do’r Tŷ Halen, sef ei ganolfan ymwelwyr ym Mrynsiencyn. Yn ogystal â bod yn rhan greiddiol o fusnes cynaeafu halen Halen Môn, mae canolfan ymwelwyr y Tŷ Halen hefyd yn cynnwys siop, canolfan addysg, baddonau gwymon, a chanolfan gymunedol.

Cafwyd benthyciad gwerth £77,000 gan y Banc Datblygu, drwy’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, i gefnogi’r gwaith o osod y paneli newydd a’r system gynhyrchu ategol. Yn ogystal â gwneud arbedion carbon o fwy na 380 tunnell (y flwyddyn), amcangyfrifir y bydd y paneli newydd yn wneud cyfraniad arwyddocaol i anghenion ynni’r ganolfan, gan alluogi’r busnes i allforio ynni dros ben yn ôl i’r grid. Cafodd y system ffotofoltäig newydd ei dylunio a’i gosod gan fusnes arall yng Ngogledd Cymru, sef Hafod Renewable Energy o Lanelwy.

O ystyried lleoliad y busnes yng nghanol un o amgylcheddau naturiol mwyaf trawiadol Cymru, mae David ac Alison wedi bod yn awyddus ers tro i sicrhau bod y busnes yn un sy’n ystyriol o garbon. Bydd y paneli newydd yn eu helpu i gymryd eu camau nesaf wrth iddynt geisio lleihau allyriadau carbon ac arbed ynni.

Dywedodd Alison Lea-Wilson, cyd-sylfaenydd Halen Môn: “O ystyried faint o le sydd ar doeau ein cwt halen a’n canolfan ymwelwyr yn y Tŷ Halen, roedd gosod paneli solar ar y safle i leihau ein hallbwn carbon a’n biliau ynni yn gam nesaf amlwg, a’r cymorth a ddarparwyd drwy’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd oedd yr union beth a oedd ei angen arnom.

“Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi gweithio gyda Banc Datblygu Cymru a Hafod Renewable Energy i osod y system newydd. O ystyried y rôl y mae’r Fenai a’r ardal gyfagos yn ei chwarae yn amgylchedd naturiol Cymru, rydyn ni am wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gael cyn lleied o effaith â phosibl ar yr amgylchedd hwnnw, ac rydyn ni’n gwybod bod hynny’n bwysig i’n cwsmeriaid hefyd.”

Dywedodd John Babalola, Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol gyda Banc Datblygu Cymru: “Roedd hi’n bleser gweithio gyda’r tîm yn Halen Môn. Maen nhw’n un o frandiau mwyaf adnabyddus Cymru ac mae hwn yn un o nifer o fuddsoddiadau mae’r busnes wedi’u cael gan Fanc Datblygu Cymru. Rydyn ni’n falch o fod wedi’u cefnogi nhw drwy’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd wrth iddyn nhw symud ymlaen yn eu taith ddatgarboneiddio.”

Mae’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn agored i fusnesau ledled Cymru sy’n awyddus i leihau eu hôl troed carbon neu leihau eu defnydd o ynni.