Mae Lineat yn fusnes technoleg cynaliadwy sy’n arbenigo mewn ailgylchu ffeibr carbon ac mae’n buddsoddi yng Nghymru ar ôl codi £1.4 miliwn o ecwiti dan arweiniad Green Angel Ventures a Banc Datblygu Cymru.
Mae Lineat wedi symud ei bencadlys a’i gyfleuster cynhyrchu o Fryste i uned 4,800 troedfedd sgwâr newydd ar Stad Ddiwydiannol Fferm Newhouse, Cas-gwent. Mae’r cwmni yn un o gwmnïau deillio Prifysgol Bryste ac mae’n anelu at gyrraedd refeniw o £10 miliwn erbyn 2028. Disgwylir y bydd hyn yn creu hyd at 24 swydd newydd.
Mae Lineat yn arwain y gwaith o ddatblygu technolegau a chynnyrch alinio ffeibr masnachol i droi ffeibr carbon untro yn ddeunydd nwyddau cynaliadwy aml-ddefnydd yn y dyfodol. Mae’r cwmni’n gweithredu yn y sectorau awyrofod, modurol, chwaraeon moduro, chwaraeon, ynni adnewyddadwy ac electroneg.
Mae Green Angel Ventures yn buddsoddi mewn busnesau gwyrdd newydd ac arweiniodd y rownd ecwiti gyda £550,000 ochr yn ochr â £350,000 gan Fanc Datblygu Cymru. Mae Lineat hefyd yn cael cymorth gan Gronfa Sbarduno Arloesedd a Gwyddoniaeth y DU, Cyllid Cyfalaf Cyllid Cynaliadwy Cymru, buddsoddwyr dilynol ac angylion busnes. Roedd y tîm arloesi yn Llywodraeth Cymru wedi cynghori ar argaeledd ac addasrwydd y safle newydd.
Mae Gary Owen yn gyd-sylfaenydd ac yn Brif Weithredwr Lineat. Dywedodd: “Ar hyn o bryd mae fformatau deunydd ffeibr carbon yn ddrud, yn anodd eu siapio ac yn wastraffus iawn gyda llwybrau ailgylchu gwael. Mae’n ddrutach nag alwminiwm ac mae ganddo ôl troed CO2e uwch o lawer na dur, ond mae dros 90% yn mynd i safleoedd tirlenwi.
“Ein technoleg graidd yw’r Aligned Formable Fibre Technology (AFFTTM) sydd wedi cael patent. Mae’n cymryd gwastraff ffeibr carbon, wedi’i adfer o ddiwedd ei oes neu o’r broses, ac mae’n alinio’r ffeibrau carbon yn dâp ffeibr newydd. Mae’r genhedlaeth nesaf hon o ddeunydd cynaliadwy yn cadw’r priodweddau cryf mae ffeibr carbon yn adnabyddus amdanynt, yn ychwanegu ffurfiadwyedd unigryw i’w gwneud hi’n haws gweithgynhyrchu, ac yn caniatáu ailddefnyddio ffeibr carbon droeon mewn cydrannau technegol.
“Bydd cymorth ein buddsoddwyr nawr yn ein galluogi i ddatblygu ein technoleg ymhellach wrth i ni baratoi i fanteisio ar y farchnad cynhyrchion cyfansawdd gyffredinol newydd sy’n tyfu’n gyflym o’n canolfan newydd yma yng Nghymru.”
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: “Un o nodau canolog y Llywodraeth hon yw tyfu a chefnogi economi werdd Cymru, gan greu swyddi cynaliadwy o ansawdd da yn y broses.
“Mae Lineat yn enghraifft wych o hyn, ac yn ymuno â nifer cynyddol o fusnesau gwyrdd arloesol sydd wedi dewis Cymru fel y lle gorau i angori ac i ehangu eu gweithrediadau dros y misoedd diwethaf. Rydyn ni’n falch o fod wedi chwarae rhan yn y gwaith o helpu Lineat i ddod o hyd i’w pencadlys newydd ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eu gweld yn dechrau pennod nesaf eu twf cyffrous yma yng Nghymru.”
Cam Ross yw Prif Weithredwr Green Angel Ventures. Dywedodd: “Mae gweledigaeth a dyfeisgarwch technoleg Lineat wedi creu argraff arnom. Mae’n bosibl iddo fod yn drawsnewidiol yn y ffordd mae’n trin ffeibrau carbon.”
Mae Adam Ramzaan yn Swyddog Buddsoddi gyda’r Banc Datblygu. Dywedodd: “Disgwylir y bydd 500,000 tunnell o wastraff ffeibr carbon erbyn 2035 os nad oes newidiadau sylweddol i’r arferion presennol. Drwy wneud mwy o garbon drwy ddatblygu llwybr cylchol arloesol ar gyfer ffeibr carbon, bydd Lineat yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at economi Cymru drwy greu swyddi ac arloesi, gan helpu i leihau ôl troed carbon ar yr un pryd. Gan weithio gyda’n cyd-arianwyr, bydd ein buddsoddiad ecwiti ar y cyd yn helpu Lineat i gynhyrchu mwy a diwallu’r galw gan weithgynhyrchwyr sy’n ceisio cyflawni allyriadau sero net. Dyma’r union fath o fenter dechnoleg arloesol mae arnom eisiau ei meithrin yng Nghymru.”
Daeth y cyllid i Lineat o Gronfa Sbarduno Technoleg Cymru, sy’n werth £20 miliwn ac sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae buddsoddiadau ecwiti rhwng £50,000 a £350,000 ar gael i fusnesau technoleg yng Nghymru, a’r rhai sy’n fodlon symud i Gymru yn ystod cam prawf cysyniad.