Clinig Cymorth Busnes Caerdydd

Ydych chi'n chwilio am gyllid i gefnogi eich anghenion busnes?

Bydd Banc Datblygu Cymru, Busnes Cymru, Cyngor Caerdydd, ac Assadaqaat Community Finance yn cynnal clinig cymorth busnes rhwng 10:00 a 14:00 ddydd Iau 4 Rhagfyr.

Fel cynrychiolwyr lleol, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y busnesau rydym yn gweithio gyda nhw yn cael y cyllid a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i helpu i ddechrau arni neu i dyfu.

Fe wnawn ni eich helpu i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i'ch busnes yn lleol. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn ddarparu cyllid i ddechrau neu ehangu busnes, gan eich cefnogi gyda chyllid er mwyn prynu offer newydd neu hyd yn oed brynu busnes.

P'un a ydych chi'n fusnes newydd neu'n fusnes sy'n bodoli eisoes, dewch i siarad â ni am eich busnes a'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Anfonwch e-bost at Chris Stork yn chris.stork@developmentbank.wales i gofrestru eich bod yn bwriadu dod i’r digwyddiad.

Pwy sy'n dod

Chris-Stork
Swyddog Buddsoddi