Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Chris Stork

Mae fy rôl yn cynnwys darparu micro fenthyciadau o hyd at £50k i fusnesau ym mhob cwr o Gymru.

Fe wnes i ymuno â’r Banc Datblygu ym mis Medi 2024, ac rwy’n gweithio yn y swyddfa yng Nghaerdydd. Mae hyn yn rhoi cyfle i mi gefnogi busnesau lleol yn Ne Cymru drwy eu helpu i gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnynt, gan alluogi busnesau i dyfu a diogelu swyddi lleol.

Cyn gweithio i’r Banc Datblygu, roeddwn i’n gweithio fel rheolwr siop aml-safle ar gyfer Sainsbury’s ar hyd a lled De Cymru.