Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Y Drenewydd

Map of Newtown

Sut i Gyrraedd ein swyddfeydd yn Y Drenewydd

Os ydych chi'n teithio ar y trên, mae ein swyddfa bum munud cyflym ar droed o orsaf Y Drenewydd. Pan fyddwch chi'n cyrraedd, dilynwch y cyfarwyddiadau i ganol y dref. Yn fuan byddwch yn cyrraedd goleuadau traffig. Os wnewch chi groesi a chadw i'r chwith, fe welwch Dŷ Dewi Sant yn union gyferbyn â chi.

Os ydych chi'n teithio mewn car, mae gan Dŷ Dewi Sant faes parcio bach wrth ymyl yr adeilad. Hefyd mae maes parcio talu ac arddangos arhosiad byr gyferbyn â'n swyddfeydd.

Ein cyfeiriad yw Banc Datblygu Cymru, Tŷ Dewi Sant, Ffordd Newydd, Y Drenewydd, SY16 1RB

 

Mynediad Anabl

  • Darperir mynediad heb risiau a drysau awtomatig yn y brif fynedfa 
  • Mae baeau parcio hygyrch dynodedig ar gael
  • Mae lifftiau ar gael
  • Mae toiledau hygyrch ar gael 
  • Rydym yn croesawu cwn cymorth