Sioe Adeiladu Cymru – Abertawe

Y digwyddiad yma yw ail sioe Adeiladu Cymru mewn cyfres o ddwy sioe genedlaethol sy'n cael eu cynnal bob blwyddyn yng Nghaerdydd ac yn Abertawe. Bydd yn dod â thros 70 o gyflenwyr a masnachau gwahanol at ei gilydd mewn un lleoliad gan greu cyfle i gysylltu a dysgu. Bydd y digwyddiad yn cynnwys arddangosiadau byw yn ogystal â hyrwyddiadau unigryw ar y diwrnod.

Mae popeth yn ymwneud ag adeiladu i'w weld yn y digwyddiad hwn, o gynhyrchion arloesol a gwasanaethau newydd i gael cyngor a chefnogaeth gan arbenigwyr yn y diwydiant. Er mwyn helpu busnesau i dyfu, bydd y digwyddiad yn cynnwys seminarau, cynhyrchion newydd, samplau am ddim a rhoddion am ddim, ac mae'n rhad ac am ddim i fynd i mewn.

Ewch i'n stondin yn yr arddangosfa i siarad ag aelodau ein tîm ac i ddarganfod sut y gallwn gefnogi eich busnes.

Pwy sy'n dod