Swyddog buddsoddi - Cronfa Sbarduno Technoleg

Rydyn ni'n bwriadu recriwtio swyddog buddsoddi a fydd yn seiliedig yn gogledd Cymru.

Swydd ddisgrifiad

Y Swyddog Buddsoddi sy'n gyfrifol am gyrchu a gwerthuso ceisiadau cam cynnar am fuddsoddiadau gan Gronfa Datblygu Cymru (BDC). Gwneir buddsoddiadau o dan delerau masnachol ac yn unol â'r meini prawf buddsoddi a osodir gan BDC. Gall buddsoddiadau gael eu strwythuro ar ffurf Ecwiti, Benthyciadau neu Fesanîn neu gyfuniad o'r uchod a byddant yn cael eu targedu at gwmnïau sy'n gyfoethog mewn eiddo deallusol, yn seiliedig ar dechnoleg a gyda'r potensial am dwf cyflym.

Y Swyddog Buddsoddi CST# 2 sydd hefyd yn gyfrifol am fonitro, datblygu a gwireddu eu portffolio buddsoddi priodol.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

  • Cyfrannu at weithrediad BDC fel cwmni rheoli cronfeydd proffesiynol a darparwr cyfalaf risg i fusnesau sy'n dechrau, yn unol â thelerau cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Chronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop (a adwaenir fel ERDF)
  • Canfod, gwerthuso ac argymell cynigion buddsoddi o safon uchel i Uwch Swyddogion Buddsoddi, Cyfarwyddwr Buddsoddi neu Bwyllgor Buddsoddi, pan fo'r   buddsoddiad arfaethedig yn bodloni meini prawf y gronfa Mentrau Technoleg a sefydlwyd gan Fanc Datblygu Cymru
  • Cynnal diwydrwydd dyladwy rheoli, ariannol, eiddo deallusol a masnachol trylwyr a chadarn wrth ystyried cyfleoedd buddsoddi ac asesu'r risgiau sydd yn gysylltiedig â phob buddsoddiad
  • Trafod telerau ac amodau i sicrhau'r strwythurau buddsoddi gorau posibl ar gyfer yr holl fuddsoddiadau.
  • Rheoli datblygiad a chwblhau'r holl ddogfennau cyfreithiol angenrheidiol trwy gydol y broses fuddsoddi gyfan, yn unol â dogfennau a phrosesau cyfreithiol safonol BDC
  • Monitro eu portffolio priodol, mynychu'r Byrddau fel sylwedydd a hwyluso'r drefn o benodi Cyfarwyddwyr Anweithredol a chryfhau'r timau gweithredol fel bo'r angen. Lle bo'n briodol, rhoi buddsoddiad dilynol mewn cwmnïau portffolio wedi iddynt gyflawni'r cerrig milltir hanfodol bwysig arfaethedig
  • Datblygu perthynas â chyd-fuddsoddwyr i sicrhau buddsoddiad amserol a pherthnasol gan drydydd parti addas ar gyfer buddsoddiadau newydd a dilynol
  • Tywys a dylanwadu ar gwmnïau portffolio i ddarparu allanfeydd proffidiol ac amserol yn unol â model masnachol y Gronfa
  • Lledaenu enghreifftiau o arfer gorau ar gyfer gwneud cais i'r Gronfa i gyflwynwyr busnes allweddol a sicrhau bod y broses ymgeisio yn cael ei mireinio'n barhaus a'i gwella i ddarparu'r gwasanaeth cleientiaid gorau posibl
  • Datblygu a chynnal cysylltiadau a rhwydweithiau gyda chyflwynwyr busnes allweddol a chyfryngwyr er mwyn dod o hyd i gyfleoedd buddsoddi addas
  • Cymryd rhan yn a chynrychioli BDC, lle bo'n briodol, mewn cyfarfodydd, seminarau, digwyddiadau a gweithgareddau ar y cyd
  • Gweithredu o fewn terfynau awdurdod dirprwyedig a Chanllawiau Gweithredol Buddsoddi.
  • Cyfrannu at farchnata / hyrwyddo BDC.
  • Cyfrannu at gyflawni nodau diffiniedig ac allbynnau'r gronfa yn unol â Chynlluniau Busnes y Gronfa berthnasol
  • Cynnal a datblygu gwybodaeth dechnegol a phenodol i ddiwydiant er mwyn sicrhau arfer gorau a chydymffurfiaeth ym maes gweithgarwch buddsoddi
  • Cyfranogi a chynrychioli BDC, lle bo hynny'n briodol, mewn cyfarfodydd, seminarau,
  • Unrhyw dasg arall y gall Rheolwr y Gronfa eu diffinio i ddiwallu anghenion gweithredol y Gronfa, gan sicrhau bod ymddiriedaeth a hyder buddsoddwyr y Cwmni yn cael eu cynnal bob amser.

Gwybodaeth, Sgiliau, Galluoedd a Phrofiad

Hanfodol

  • Profiad cyfalaf blaenorol gyda mentrau cam cynnar, cyllid ysgogol, cyllid corfforaethol neu brofiad Trosglwyddo Technoleg yn y Brifysgol
  • Dealltwriaeth o bob agwedd sy'n ymwneud â buddsoddiad ecwiti yn y naill Gyfnod Cynnar o fuddsoddi 
  • Profiad o gyd-fuddsoddi mewn partneriaeth ag Angylion Buddsoddi, Buddsoddwyr Sefydliadol, a Chronfeydd Mentrau Corfforaethol.
  • Profiad amlwg o reoli portffolio buddsoddi, yn ddelfrydol gyda mentrau cam cynnar
  • Arbenigedd arddangosadwy mewn a gwybodaeth am y sectorau technoleg newydd sy'n dod i'r amlwg, yn ddelfrydol, gyda dealltwriaeth fanwl o un o'r sectorau TGCh ehangach, gan gynnwys - Gwasanaeth fel Meddalwedd (a adwaenir yn aml fel SAAS), cyfryngau digidol, telathrebu, Gwe o Bethau (a adwaenir yn aml fel IOT), dadansoddiadau data, meddalwedd diogelwch.
  • Sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a rhyngbersonol cryf
  • Yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • Hyderus yn eich sgiliau eich hun i wneud penderfyniadau 
  • Y gallu i flaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau
  • Dealltwriaeth o'r broses trosglwyddo technoleg a masnacheiddio Eiddo Deallusol
  • Sgiliau gwerthuso dadansoddol ac ariannol cryf.

Dymunol 

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl y sector cyhoeddus mewn cyllid Busnesau Bach a Chanolig
  • Dealltwriaeth o'r amgylchedd busnes rhanbarthol
  • Sgiliau cyflwyno rhagorol
  • Siaradwr Cymraeg
  • Trwydded yrru
  • Sgiliau TG gan gynnwys y defnydd o systemau Word, Excel, PowerPoint, Rheoli Perthynas Cwsmer (a adwaenir yn aml fel CRM).

I wneud cais anfonwch eich ffurflen gais at: recriwtio@bancdatblygu.cymru

Ffurflen gais