Swyddog Gweithredol Cefnogi Portffolios

Rydyn ni'n bwriadu recriwtio Swyddog Gweithredol Cefnogi Portffolios wedi'i leoli naill ai yng Nghaerdydd neu Wrecsam

Diben y swydd

Pan nodir bod buddsoddiadau "mewn perygl", prif gyfrifoldeb y tîm Risg ac Ailstrwythuro yw datblygu dealltwriaeth fanwl o gleientiaid portffolios a meithrin perthynas waith agos â nhw a gwneud y mwyaf o'r enillion ar fuddsoddiadau o'r fath.

Gweithredu fel rheolwr cyfrif a'r prif bwynt cyswllt ar gyfer portffolio o fuddsoddiadau microfenthyciadau sy'n tanberfformio. Mynd i gyfarfodydd a chynnal cyfarfodydd gyda chwmnïau portffolios fel y bo'n briodol. Datblygu a gweithredu strategaethau adfer.

Sicrhau bod y lefel uchaf o fuddsoddiad a chymorth gweinyddol ar gyfer pob agwedd ar risg, cydymffurfiaeth a gweithgareddau'r tîm cyfreithiol yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn broffesiynol.

Rhoi cymorth gweithredol arbenigol wrth gyflawni gweithgareddau’r adran o ddydd i ddydd, amcanion y cynllun gweithredol, a datblygiad parhaus.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

Rheoli Portffolio

  • Cymryd cyfrifoldeb dros reoli portffolio o fuddsoddiadau "micro" a gaiff eu nodi fel rhai sy’n cyflwyno'r risg o golled ariannol i Fanc Datblygu Cymru.
  • Gweithredu fel pwynt cyfeirio ar gyfer swyddogion gweithredol portffolios yn y tîm micro fenthyciadau o ran rheoli busnesau sydd o dan straen.
  • Datblygu cynlluniau gweithredu priodol ar gyfer buddsoddiadau sy'n tanberfformio a/neu sydd "mewn perygl", gyda chytundeb y rheolwr/cyfarwyddwr portffolios – risg, cydymffurfiaeth a chyfreithiol i sicrhau'r enillion gorau i'r banc datblygu, gan gynnwys ysgogi cynlluniau trawsnewid, strategaethau ymadael a chamau adfer, fel y bo'n briodol.
  • Cefnogi ymgyrch y grŵp i wella perfformiad buddsoddiadau yn barhaus. Canfod unrhyw themâu/materion sy'n codi dro ar ôl tro sy'n deillio o ddadansoddi'r amgylchiadau sy'n arwain at gleientiaid sy'n tanberfformio/cleientiaid sy’n wynebu anhawster i lywio strategaethau buddsoddi a rheoli portffolio yn y dyfodol a chyflwyno adroddiad ar hynny.
  • Cynnal cyswllt rheolaidd, cymesur â busnesau cleientiaid yn y portffolios risg ac ailstrwythuro i sicrhau dealltwriaeth gyfredol o'u hamgylchiadau, ac i feithrin perthynas gynhyrchiol â'r rheolwyr. Teilwra strategaethau cyswllt i amgylchiadau'r busnes dan sylw.
  • Pan fo’n briodol, cyflwyno cymorth trydydd parti i fusnesau cleientiaid, gan ddefnyddio cysylltiadau ag Ymarferwyr Ansolfedd, a'r gymuned gynghori ehangach ar gyfer busnesau.
  • Mynd i gyfarfodydd gyda chleientiaid a chyfryngwyr i hyrwyddo adferiad llwyddiannus buddsoddiadau'r Banc Datblygu.
  • Manteisio’n llawn ar y gwaith o gasglu data dangosyddion perfformiad allweddol cywir gan fusnesau portffolio mewn modd amserol.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol o ran credyd defnyddwyr a reoleiddir.
  • Cynhyrchu a chadw dogfennaeth gywir ar gyfer holl weithgareddau cwmnïau cleientiaid.
  • Sicrhau bod yr holl elfennau o ryngweithio â chyrff ac aelodau mewnol ac allanol yn cael eu cynnal yn unol â'r safonau uchaf o wasanaeth cwsmeriaid er mwyn sicrhau adborth amserol i bartïon priodol.

Dogfennaeth Risg

  • Fel aelod gweithredol o'r adran, cynorthwyo'n agos gyda'r broses ailstrwythuro a/neu adfer buddsoddi, gan gynnwys cydgysylltu a, phan fo'n briodol, cynhyrchu dogfennau cyfreithiol a dogfennau tynnu i lawr, a chysylltu ag ymgynghorwyr allanol.
  • Cefnogi gweithgarwch adfer y tîm a chydymffurfio â gofynion y Ddeddf Credyd Defnyddwyr drwy weithredu gweithdrefnau diofyn y Banc Datblygu, gan gynnwys cynhyrchu gohebiaeth ffurfiol yn galw am dalu, diffyg talu ac ôl-ddyledion, ac ati.

Cymorth gweinyddol

  • Rheoli'r holl ddogfennaeth sy'n ymwneud â buddsoddi a systemau cadw data gan gynnwys Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid, SharePoint, ac ati ar gyfer yr adran.
  • Paratoi dogfennau, adroddiadau, cofnodion ac agendâu i gefnogi cyfarfodydd y tîm a chyfarfodydd eraill.
  • Pan fydd angen, darparu cymorth ar gyfer casglu a gwirio ffeiliau buddsoddi ac ailstrwythuro cyn tynnu i lawr.
  • Unrhyw dasg arall a gaiff ei diffinio gan y rheolwr/cyfarwyddwr portffolios – risg, cydymffurfiaeth a chyfreithiol i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran.

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol

  • Hunangymhelliant gyda'r gallu i fabwysiadu dull rhagweithiol a gweithio'n effeithlon heb fawr o oruchwyliaeth.
  • Yn gyfforddus wrth ymdrin â gwaith sensitif i gleientiaid lle mae angen cadw’n gaeth at derfynau amser.
  • Canolbwyntio ar ganlyniadau. Y gallu i flaenoriaethu a threfnu llwyth gwaith ac i weithio'n effeithiol o dan bwysau a chyrraedd targedau.
  • Cymhelliant a phenderfyniad i gwblhau gwaith i safonau ansoddol uchel.
  • Dealltwriaeth o gyfraith cwmnïau a chyfraith ac arfer ansolfedd.
  • Dealltwriaeth o'r gyfraith sy'n ymwneud â gweithgarwch ac arferion sy'n gysylltiedig â chyllid, gan gynnwys benthyca a lywodraethir gan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr.
  • Sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a rhyngbersonol da. Y gallu i addasu er mwyn meithrin perthynas waith gynhyrchiol â pherchnogion busnesau cleientiaid sy’n wynebu anhawster. 
  • Sgiliau datrys problemau a negodi.
  • Sgiliau trefnu a gweinyddol cryf.
  • Rhoi sylw i fanylion:
  • Wedi ymrwymo i ddatblygu gwybodaeth ac arbenigedd.
  • Llythrennog o ran TG/Cyfrifiadur Personol gyda'r gallu i ddefnyddio Pecynnau Microsoft Office.
  • Addysg gyffredinol o safon dda – TGAU, NVQ Lefel 2/3 neu safon gyfatebol

Dymunol

  • Yn gallu siarad Cymraeg
  • Ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â BBaCh yng Nghymru

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i ein tudalen recriwtio