Swyddog gweithredol portffolios

Rydym am recriwtio swyddog gweithredol portffolios i weithio o Gymru. Cyflog cystadleuol yn dechrau o £37,395.

Diben y swydd

Pan nodir bod buddsoddiadau "mewn perygl", prif gyfrifoldeb y tîm Risg ac Ailstrwythuro yw datblygu dealltwriaeth fanwl o gleientiaid portffolios a meithrin perthynas waith agos â nhw a gwneud y chynyddu’r enillion ar fuddsoddiadau o'r fath i’r eithaf.

Gweithredu fel Rheolwr Cyfrif a'r prif bwynt cyswllt ar gyfer portffolios o fuddsoddiadau sy'n tanberfformio. Mynd i gyfarfodydd a chynnal cyfarfodydd gyda chwmnïau portffolio fel y bo'n briodol. Datblygu a gweithredu strategaethau adfer. 

Cefnogi gweithgareddau timau portffolios eraill ar draws Grŵp y Banc Datblygu. Gweithio'n agos gyda chydweithwyr a busnesau cleientiaid pan fydd buddsoddiadau'n dangos arwyddion cynnar o anhawster, er mwyn canfod achosion y tanberfformio a nodi a gweithredu cynlluniau trawsnewid.

Pan fo'n briodol, arfarnu a chyflwyno ceisiadau am gyllid gan y Cynllun Risg ac Ailstrwythuro ar gyfer sancsiynau mewnol.

Defnyddio’r dulliau hyn, a chymorth strategol a gweithredol trydydd parti, drwy ddefnyddio/cysylltu â Rheolwyr Dros Dro, Cyfarwyddwyr Anweithredol ac Ymarferwyr Ansolfedd, i reoli a lleihau'r golled ariannol i'r Banc Datblygu o'i fuddsoddiadau sydd "mewn perygl".  

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

  • Cymryd cyfrifoldeb dros reoli portffolios o fuddsoddiadau y nodir fel rhai sy’n cyflwyno'r risg o golled ariannol i Grŵp y Banc Datblygu.
  • Adolygu buddsoddiadau sy'n tanberfformio sydd o fewn timau portffolios eraill ar draws Grŵp y Banc Datblygu.
  • Datblygu cynlluniau gweithredu priodol ar gyfer buddsoddiadau sy’n tanberfformio a/neu sydd “mewn perygl”, gyda chytundeb y Rheolwr/Cyfarwyddwr Portffolios – Risg, Cydymffurfiaeth a Chyfreithiol i sicrhau’r enillion gorau i Grŵp y Banc Datblygu, gan gynnwys ysgogi cynlluniau trawsnewid, strategaethau ymadael a chamau adfer, fel y bo’n briodol.
  • Cynnal cyswllt rheolaidd â busnesau cleientiaid yn y portffolios Risg ac Ailstrwythuro i sicrhau dealltwriaeth gyfredol o'u hamgylchiadau, ac i feithrin perthynas gynhyrchiol â'r rheolwyr. Teilwra strategaethau cyswllt i amgylchiadau'r busnes dan sylw.
  • Pan fo'n briodol, cyflwyno cymorth strategol, ariannol, gweithredol neu gymorth arall trydydd parti i fusnesau cleientiaid, gan ddefnyddio cysylltiadau â Rheolwyr Dros Dro, Cyfarwyddwyr Anweithredol, Ymarferwyr Ansolfedd, a'r gymuned gynghori ehangach ar gyfer busnesau.  
  • Mynd i gyfarfodydd gyda chleientiaid a chyfryngwyr i hyrwyddo adferiad llwyddiannus buddsoddiadau Cyllid Cymru.
  • Cynhyrchu a chadw dogfennaeth gywir ar gyfer holl weithgareddau cwmnïau cleientiaid.
  • Monitro ac asesu gwybodaeth berthnasol, gan gynnwys gwybodaeth ariannol, i baratoi adroddiadau angenrheidiol ar berfformiad cwmnïau portffolio.
  • Pan fo'n briodol, arfarnu buddsoddiadau pellach posibl mewn cwmnïau sy’n wynebu anhawster. Cyflwyno argymhellion cytbwys i uwch reolwyr.
  • Cefnogi nod y Grŵp i wella perfformiad buddsoddiadau yn barhaus. Canfod unrhyw themâu/materion sy'n codi dro ar ôl tro sy'n deillio o ddadansoddi'r amgylchiadau sy'n arwain at danberfformiad cleientiaid/cleientiaid sy’n wynebu anhawster i lywio strategaethau Buddsoddi a Rheoli Portffolio yn y dyfodol a chyflwyno adroddiad ar hynny.
  • Pan fo angen, cysylltu â gweithwyr proffesiynol ansolfedd. 
  • Sicrhau bod yr holl elfennau o ryngweithio â chyrff ac aelodau mewnol ac allanol yn cael eu cynnal yn unol â'r safonau uchaf o wasanaeth cwsmeriaid er mwyn sicrhau adborth amserol i bartïon priodol.
  • Unrhyw dasg arall a gaiff ei diffinio gan y Rheolwr/Cyfarwyddwr Portffolios – Risg, Cydymffurfiaeth a Chyfreithiol i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran, gan sicrhau bob amser bod ymddiriedaeth a hyder buddsoddwyr y Grŵp yn cael eu cadw.

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol

  • Hunan-gymhelliant gyda'r gallu i fabwysiadu dull rhagweithiol a gweithio'n effeithlon heb oruchwyliaeth.
  • Yn gyfforddus wrth ymdrin â gwaith sensitif i gleientiaid lle mae angen cadw’n gaeth at derfynau amser.
  • Y gallu i flaenoriaethu a threfnu llwyth gwaith ac i weithio'n effeithiol o dan bwysau a chyrraedd targedau.
  • Cymhelliant a phenderfyniad i gwblhau gwaith o safon.
  • Dealltwriaeth o gyfraith cwmnïau a chyfraith ac arfer ansolfedd.
  • Gwybodaeth ymarferol gadarn o'r gyfraith sy'n ymwneud â gweithgareddau ac arferion sy'n ymwneud â chyllid.
  • Sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a rhyngbersonol da. Y gallu i feithrin perthynas waith gynhyrchiol â busnesau cleientiaid sy’n wynebu anhawster. 
  • Sgiliau datrys problemau a negodi cryf.
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd rhifol ariannol neu debyg ac, yn arbennig, ymwybyddiaeth neu brofiad o ddadansoddi gwybodaeth ariannol.
  • Llythrennog o ran TG/Cyfrifiadur Personol gyda'r gallu i ddefnyddio Pecynnau Microsoft Office.
  • Cymhwyster proffesiynol perthnasol neu isafswm o bum mlynedd o brofiad yn y diwydiant.
  • Trwydded yrru

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Dymunol

  • Yn gallu siarad Cymraeg
  • Ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â BBaCh yng Nghymru.

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.cymru