Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Swyddog Gweithredol Sicrhau Ansawdd

Rydym yn chwilio am Swyddog Gweithredol Sicrhau Ansawdd sydd wedi’i leoli naill ai yn Wrecsam neu yng Nghaerdydd.

Pwrpas y swydd

Mae’r tîm Sicrhau Ansawdd yn chwarae rhan allweddol yn fframwaith rheoli risg Banc Datblygu Cymru, gan gyfrannu at hygrededd ac enw da’r Grŵp fel rheolwr cronfeydd effeithiol a phroffesiynol.

Mae’r swydd yn cynnwys gwneud gwaith monitro cydymffurfiaeth yn uniongyrchol, tynnu sylw at feysydd nad ydynt yn cydymffurfio, neu feysydd gwan a bregus, a chyfrannu at y gwaith o gynllunio a gweithredu newid a rheolaethau gweithdrefnol er mwyn sicrhau’r effeithlonrwydd gorau posibl wrth weithredu o fewn goddefiannau risg y Grŵp mewn perthynas â’r canlynol:

  • Samplu ffeiliau Buddsoddi, Portffolio a Gwasanaethau Eiddo; 
  • Adolygiadau thematig a gweithgarwch dwys;
  • Cydlynu gweithdrefnau buddsoddi a thempledi dogfennau;
  • Cefnogi a chynghori ar faterion sy’n ymwneud â chydymffurfiaeth, gan gynnwys AML / CDD, data effaith a chymhwysedd buddsoddi;
  • Dilysu ac adrodd ar ddata effaith;
  • Rheoli Fframwaith Polisi’r Grŵp yn ganolog;
  • Cefnogi cydymffurfiad y Pwyllgor Archwilio a Risg (ARC) ac Adrodd gan y Bwrdd ac Asedau Cleientiaid (CASS), yn unol â gofynion yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Fel gweithiwr arfer gorau mewn perthynas â gweithdrefnau buddsoddi, AML / CDD a data effaith, bydd deiliad y swydd yn datblygu ac yn darparu hyfforddiant ac yn darparu arweiniad ad hoc i gydweithwyr ar bob lefel ar draws ochr fuddsoddi'r busnes.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gymryd rhan mewn prosiectau gweithredol gyda staff buddsoddi, y tîm technegol a staff gwasanaethau canolog, a sicrhau bod agweddau gweithredol y broses fuddsoddi yn cael eu cyfathrebu a’u hymgorffori’n effeithiol yng ngwaith y prosiect.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:

  • Cynnal adolygiadau ansoddol cyn ac ar ôl buddsoddi o ffeiliau buddsoddi’r Grŵp i sicrhau cydymffurfiaeth â Chanllawiau Gweithredu Mewnol, gweithdrefnau buddsoddi a Pholisi'r Grŵp, gan gadw cofnodion cywir o weithgarwch samplo ffeiliau.
  • Pan ganfyddir gwendidau, cynnal dadansoddiad o wraidd y broblem a rhoi adborth ar hepgoriadau / anghysondebau mewn ffeiliau buddsoddi. Cefnogi’r timau gweithredol i ddylunio a gweithredu rheolaethau effeithiol.
  • Cynnal adolygiadau thematig a samplo dwys ar ddull gweithredu sy’n seiliedig ar risg.
  • Dilysu’r holl ddata effaith sy’n ymwneud â gweithgarwch buddsoddi, sicrhau adroddiadau cywir a darparu adborth i dimau buddsoddi.
  • Cysoni dogfennau diogelwch yn gorfforol i gefnogi'r Uwch Swyddog Sicrhau Ansawdd a'r Rheolwr Chydymffurfiaeth mewn perthynas â thystiolaethu cydymffurfiaeth CASS.
  • Cefnogi’r gwaith o baratoi adroddiadau ARC, y Bwrdd a CASS.
  • Cynnal Cofrestr Polisi ganolog ar gyfer y Grŵp.
  • Darparu canolfan ragoriaeth ar gyfer delio ag ymholiadau gan staff buddsoddi, mewn perthynas â Pholisïau, gweithdrefnau a chanllawiau perthnasol, gan gynnwys AML, Diwydrwydd Dyladwy Cwsmeriaid, Egwyddor y Ddyletswydd Defnyddwyr a delio â chwsmeriaid sy’n agored i niwed, Proses Gwynion, data effaith a phrosesau gweithredol y Grŵp.
  • Adolygu effeithiolrwydd gweithdrefnau samplu ffeiliau ac argymell a chyflawni gwelliannau drwy gysylltu â’r Uwch Swyddog Gweithredol Sicrhau Ansawdd a’r Rheolwr Cydymffurfiaeth.
  • Cefnogi’r gwaith o reoli a chynnal a chadw templedi buddsoddi craidd (ac eithrio rhai cyfreithiol) a gweithdrefnau gweithredu buddsoddi yn ganolog.
  • Datblygu a darparu hyfforddiant rheolaidd ar gyfer materion perthnasol sy’n ymwneud â sicrhau ansawdd a chydymffurfiaeth.
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan yr Uwch Swyddog Sicrhau Ansawdd a'r Rheolwr Chydymffurfiaeth i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran.

Gwybodaeth, Sgiliau, Cymwysterau a Phrofiad


Hanfodol 

  • Gallu cymell eich hun, gyda’r gallu i weithredu’n rhagweithiol a gweithio’n effeithiol heb oruchwyliaeth.
  • Cymhelliant a phenderfyniad i gwblhau gwaith yn gywir, yn gyson ac i safon uchel.
  • Meddwl rhesymegol a chwilfrydig a llygad am fanylion. Y gallu i feddwl yn greadigol a chyflwyno datrysiadau arloesol i broblemau a nodwyd.
  • Y gallu i gadw gwybodaeth fanwl ac arddangos barn eang, er mwyn deall goblygiadau newid trefniadol ar draws y busnes.
  • Defnyddio barn gadarn yn gyson, er enghraifft wrth ddefnyddio dull gweithredu seiliedig ar risg y Grŵp o ran Diwydrwydd Dyladwy Cwsmeriaid.
  • Dealltwriaeth eang o reoli risg yn y sector ariannol a gallu ei gymhwyso i’r Grŵp.
  • Gwerthfawrogiad o’r manteision i’r Grŵp o gael polisïau a gweithdrefnau o ansawdd uchel i fod yn sail i weithgareddau buddsoddi.
  • Y gallu i reoli a threfnu gwaith o dan bwysau a chwrdd â therfynau amser.
  • Sgiliau rhyngbersonol cadarn a’r gallu i gyfathrebu a dylanwadu’n effeithiol, gan herio am ragor o wybodaeth lle bo angen, gyda staff o bob lefel ar draws y Grŵp.
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd ariannol / rhifyddol neu amgylchedd archwilio / wedi’i reoleiddio.
  • Yn hyddysg ym maes TG / cyfrifiaduron ac yn gallu defnyddio pecynnau Microsoft Office

Dymunol 

  • Dealltwriaeth o’r rhwymedigaethau ar fusnesau gwasanaethau ariannol o ran mynd i’r afael â throseddau ariannol.
  • Dealltwriaeth o’r rhwymedigaeth ar fusnesau gwasanaethau ariannol i fodloni Dyletswydd Defnyddwyr yr FCA.
  • Dealltwriaeth eang o ddyled, mesanîn a buddsoddiadau ecwiti.
  • Y gallu i siarad Cymraeg.

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i ein tudalen recriwtio