Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Womenspire 2022

Nod Gwobrau Womenspire Chwarae Teg yw cydnabod cyflawniadau menywod ym mhob agwedd ar fywyd ledled Cymru. Gall hyn fod yn unrhyw beth o ddatblygiad personol i gyfraniad ehangach i gymdeithas, gyda’r nod o ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol tra’n dathlu cyflawniadau presennol menywod ar yr un pryd. 

Mae’r gwobrau bellach yn eu seithfed flwyddyn, ac eleni yw’r digwyddiad hybrid cyntaf erioed – cynhelir y digwyddiad yn Adeilad y Pierhead yng Nghaerdydd yn ogystal â chael ei ddarlledu i filoedd o ddyfeisiau drwy Facebook Live a Twitter ITV Cymru Wales.

Pwy sy'n dod